Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Chwefror y llynedd, fe wnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg roi diweddariad i chi ar ein gwaith ni ar dechnoleg a’r Gymraeg. Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r datganiad hwn i amlinellu’r hyn rŷn ni am ei wneud nesaf yn y maes.

Rŷn ni wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn creu llawer o bethau i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddio technoleg yn Gymraeg. Peth pobl yw iaith, ac mae pobl yn defnyddio technoleg bob dydd wrth gwrs. Ac mae’n gwaith ni ar dechnoleg a’r Gymraeg yn cael ei arwain gan yr egwyddorion ehangach mae’r holl Lywodraeth yn eu dilyn yn y maes. Er enghraifft, i gefnogi ein Strategaeth Ddigidol i Gymru, rŷn ni am weithio gyda phobl i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw y mynediad, y sgiliau a’r hyder i ddefnyddio gwasanaethau yn Gymraeg, drwy dechnoleg. Byddwch chi i gyd hefyd wedi derbyn datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, ychydig cyn y Nadolig, ar ran Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, sy’n sôn am Ddeallusrwydd Artiffisial a’r gweithle.

Y llynedd, fe wnaethon ni ofyn i bobl beth oedd ei angen arnyn nhw o ran technoleg Cymraeg at y dyfodol. Ar sail beth ddwedon nhw wrthon ni, mae gyda ni dair blaenoriaeth newydd. Ein prif neges ni yw y byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddio’r Gymraeg mewn technoleg, a byddwn ni’n defnyddio popeth mae technoleg yn ei gynnig i’n helpu ni i ddefnyddio’r Gymraeg. 

Ein blaenoriaeth gyntaf, felly, yw datblygu technoleg fel ffordd o helpu i gynyddu’r defnydd bob dydd o’n hiaith ni, yn enwedig yn y gweithle. Mae technoleg yn gallu ei gwneud hi’n haws i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd—wrth ddysgu, wrth weithio ac wrth gymdeithasu. Felly, byddwn ni’n gweithio gyda phrifysgolion, y system tendro a chaffael a chwmnïau mawr a bach. Byddwn ni hefyd yn gweithio i sicrhau bod plant, pobl ifanc, dysgwyr ac oedolion sy’n siarad Cymraeg yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag cynnwys niweidiol wrth ddefnyddio technoleg yn Gymraeg. Byddwn ni’n gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i wneud logo Iaith Gwaith yn fwy gweladwy ar-lein, gan ddatblygu technoleg Cymraeg mewn gweithleoedd, gwasanaethau a thu hwnt. Byddwn ni’n sicrhau bod pethau fel offer gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg yn gyfredol, ac fe wnawn ni’n siŵr eu bod nhw ar gael ar fwy o blatfformau. 

Yr ail flaenoriaeth yw sicrhau bod technoleg Cymraeg yn cyrraedd y defnyddiwr a’r datblygwyr. Yn benodol, byddwn ni’n ei gwneud hi’n haws i rieni ac athrawon gefnogi addysg Gymraeg i blant. Byddwn ni’n rhannu newyddion a diweddariadau am dechnoleg a chynnwys Cymraeg drwy wefan Hwb er mwyn i rieni—ble bynnag maen nhw ar eu siwrne iaith—helpu eu plant i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg. 

Byddwn ni’n cefnogi’r gymuned o ddatblygwyr technegol yng Nghymru hefyd. Fel rhan o’r gwaith hyn, byddwn ni’n datblygu ein tudalen adnoddau Helo Blod fel bod datblygwyr, ac unrhyw un sydd am ddefnyddio technoleg Cymraeg yn gwybod beth sydd ar gael i’w helpu nhw a sut i’w ddefnyddio. Byddwn ni’n parhau i hyrwyddo “ysgrifennu triawd” i wneud cynnwys a gwasanaethau mor hawdd â phosibl i’w defnyddio yn Gymraeg.

Ac mae’r dull gwaith agored sy gyda ni ers dechrau’n gwaith technoleg ni yn parhau. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd ac rŷn ni’n credu na ddylai defnyddio’r Gymraeg gostio dim i’r defnyddiwr. Felly, byddwn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n rhyddhau’r dechnoleg Cymraeg rŷn ni’n ei chyllido yn rhad ac am ddim. Byddwn ni’n gweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu’r dechnoleg y tu ôl i’w darpariaeth nhw ar gyfer dysgwyr. A byddwn ni’n rhoi data ac adnoddau i bawb, er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chefnogi cymaint ag sy’n bosibl. Gallai hynny gynnwys technoleg i helpu pobl ag anghenion penodol, fel pobl anabl, a’r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn barod, mae’n partneriaeth ni gyda Tobii Dynavox—cwmni sy’n gwneud meddalwedd i helpu pobl i gyfathrebu—wedi arwain at feddalwedd Gymraeg i gefnogi plant ac oedolion sy’n cael trafferth siarad. A byddwn ni’n gweithio mwy yn y maes yma, er enghraifft i helpu siaradwyr Cymraeg gyda Chlefyd Motor Niwron i gyfathrebu yn Gymraeg ar ôl iddyn nhw golli eu gallu i siarad. 

Y drydedd flaenoriaeth yw gwella deallusrwydd artiffisial—AI, hynny yw—a thechnoleg llais Cymraeg. Ers blynyddoedd, cyn i AI fod ym mhobman, roedden ni eisoes wedi helpu i wella AI, adnabod Cymraeg llafar pobl yn awtomatigcreu llais o destun Cymraeg ac yn y blaen. Mae Modelau Iaith Mawr—neu LLMs—sy’n cael eu defnyddio gan AI, yn dibynnu ar lawer iawn o ddata. Rŷn ni eisoes wedi cymryd camau i rannu data gyda phrosiectau AI fel AINA, wedi’i arwain gan Lywodraeth Catalonia, ac o dan ein partneriaeth gydag OpenAI. Byddwn ni’n parhau i rannu a byddwn ni’n annog eraill i rannu eu cynnwys i wella AI a phob technoleg yn Gymraeg. Drwy weithio gyda Microsoft, rŷn ni eisoes wedi datblygu cyfieithu ar y pryd ar Teams, ac rŷn ni wedi gweithio i wella sut mae Copilot—adnodd AI diweddaraf Microsoft—yn prosesu’r Gymraeg. A byddwn ni’n parhau i weithio gyda chwmnïau technoleg—mawr a bach. Rŷn ni am dyfu cymuned Gymreig o ddatblygwyr a chwmnïau technoleg hefyd wrth gwrs. 

Rŷn ni am sicrhau bod technoleg yn gallu deall y Gymraeg fel mae siaradwyr Cymraeg yn ei defnyddio hi bob dydd—like when we use a bit of Saesneg in our Cymraeg and vice versa. A byddwn ni’n gweithio gyda’n partneriaid rhyngwladol er mwyn i’n gwaith ni helpu cymunedau amlieithog ledled y byd. 

Dyma’n blaenoriaethau ni ar gyfer technoleg a’r Gymraeg, felly. Rŷn ni am i chi wybod yn union beth rŷn ni’n ei ddarparu a byddwn ni’n cyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar dudalen benodol ar ein gwefan ni, ac rŷn ni’n lansio’r dudalen yna heddiw. Fel y nodais i yn barod, mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd a dwi eisiau i ni i gyd ddefnyddio pa Gymraeg bynnag sy gyda ni, a byddwn ni’n creu’r dechnoleg i helpu i hynny ddigwydd. 

Dolenni perthnasol: