Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans mai cwmni peirianneg rhyngwladol yw'r cwmni cyntaf i arwyddo les yn Rhyd y Blew, safle diwydiannol ‘Gradd A’ Llywodraeth Cymru ym Mlaenau Gwent.
Bydd Halton Flamgard yn lesio'r uned RYB1 sydd newydd ei chwblhau ar y safle yng Nglynebwy, yn dilyn buddsoddiad o £8.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn y cyfleuster carbon isel 52,582 troedfedd sgwâr.
Bydd y cwmni, sy'n gweithgynhyrchu unedau damper ar gyfer cwsmeriaid mewn sectorau diwydiannol arbenigol, yn adleoli ei weithrediad presennol ym Mhont-y-pŵl i'r safle modern mwy.
Yn rhan o'r gwaith ehangu a gynlluniwyd, bydd nifer y gweithwyr yn codi yn Halton Flamgard o 70 i 168 erbyn 2028.
RYB1 yw'r unig uned ddiwydiannol ar raddfa fawr a ddatblygwyd yn hapfasnachol i gael ei datblygu yng Nghymru yn 2024.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Rydym wedi ymrwymo i ysgogi cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel a datblygu sgiliau ar gyfer cymunedau lleol ledled Cymru.
“Mae ein buddsoddiad sylweddol yn Rhyd y Blew, sydd wedi'i leoli'n strategol yn Ardal Fenter Glyn Ebwy, yn ategu ein gweledigaeth ar gyfer ardal y Cymoedd Technoleg i gael ei chydnabod yn fyd-eang am dechnolegau newydd a'r sector gweithgynhyrchu uwch.
“Mae denu gweithrediad rhyngwladol fel Halton Flamgard i RYB1 yn tynnu sylw at lwyddiant ein strategaeth eiddo masnachol i sbarduno twf economaidd yn y dyfodol.
“Rwy'n dymuno'n dda iddynt gyda'u cynlluniau twf uchelgeisiol ac edrychaf ymlaen at weld busnesau, cymunedau a chadwyni cyflenwi lleol yn elwa.”
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Halton Flamgard, Lucy Newman:
Rydym yn gyffrous i gychwyn ar y bennod newydd hon wrth i ni symud i'n cyfleuster o'r radd flaenaf. Mae'r trawsnewidiad hwn yn garreg filltir arwyddocaol i'n tîm, ac rydym yn llawn cyffro am y posibiliadau di-ben-draw a ddaw yn ei sgil. Bydd ein lle newydd nid yn unig yn gwella ein galluoedd ond hefyd yn ysbrydoli arloesedd a chydweithio.
“Yn ogystal, mae'r cam hwn yn cynnig potensial sylweddol i dyfu swyddi, gan ein galluogi i ehangu ein gweithlu a chreu cyfleoedd newydd yn y gymuned. Rydym yn edrych ymlaen at gyflawni pethau gwych gyda'n gilydd yn yr amgylchedd dynamig hwn.”
Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent dros Le ac Adfywio:
Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael prosiect gweithgynhyrchu penigamp yma ym Mlaenau Gwent. Mae hyn yn newyddion anhygoel i'n cymuned ac yn dyst i'r partneriaethau cryf yr ydym wedi'u hadeiladu gyda Thîm Rheoli Halton.
“Hoffem ddiolch i'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru am eu gweledigaeth wrth ddatblygu safle Rhyd y Blew. Mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd yn berffaith â'n gweledigaeth o ddenu mewnfuddsoddiad (gan gynnwys prosiectau adleoli) a chefnogi twf busnesau lleol.
“Credwn fod buddsoddi mewn datblygu economaidd, grantiau busnes, rhwydweithio, safleoedd ac adeiladau, sgiliau a datblygu STEM sy'n arwain at greu swyddi, cyfleoedd ehangach yn y gadwyn gyflenwi ac, yn bwysicaf oll, yn sbarduno twf economaidd ledled y fwrdeistref.
“Rydym yn falch ein bod wedi gweithio mor agos gyda'r busnes hwn i wireddu hyn, ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn cael effaith gadarnhaol ar gyfer ein trigolion a'r economi busnesau lleol.”
Asiant marchnata Rhyd y Blew yw Knight Frank.
Dywedodd Neil Francis, pennaeth Diwydiannol a Logisteg Knight Frank yng Nghaerdydd:
Mae'r hyder a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r adeilad hwn yn hapfasnachol er mwyn darparu llety Gradd A mawr ei angen wedi talu ar ei ganfed.
“Roedd dyluniad modern, nodweddion gwyrdd a lleoliad rhagorol RYB1 yn agos at ffordd Blaenau'r Cymoedd yn ddeniadol iawn i nifer o ddarpar feddianwyr ac rydym wrth ein bodd bod Halton Group wedi cymryd les ar y lle.”