Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Am y tro cyntaf, bydd gan Gymru offeryn cynllunio morol penodol a fydd yn helpu i bennu dyfodol ein moroedd, fel rhan o'n cynllunio strategol i wella'r amgylchedd morol tra hefyd yn cynhyrchu ynni gwyrdd glân.
Yn 2019, gwnaethom gyflwyno cynllun morol cyntaf Cymru, gan nodi ein gweledigaeth ar gyfer datblygu ein moroedd mewn modd cynaliadwy a sefydlu system gynllunio newydd. Heddiw, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gam sylweddol ymlaen wrth weithredu'r cynllun, sef cyflwyno'r Ardaloedd Adnoddau Strategol (AASau) cyntaf ar gyfer cynllunio morol.
Mae AASau yn offeryn cynllunio morol newydd ac arloesol a fydd yn dangos pa sectorau a allai fod â blaenoriaeth dros eraill mewn ardaloedd penodol. Mae'n rhaid inni gynllunio'n ofalus ar gyfer dyfodol ein moroedd a deall y cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni cynaliadwy a gwyrdd, wrth hefyd ddiogelu a gwella ein hamgylchedd morol unigryw, amgylchedd na fyddai modd ei adfer pe baem yn ei golli. Mae AASau yn rhan bwysig o'r gwaith hwn. Byddant yn ein helpu i ddeall lle mae cyfleoedd i fwrw ymlaen â datblygu cynaliadwy a'r ffordd mae'r rhain yn berthnasol i'r ardaloedd mwyaf amgylcheddol sensitif y mae'n rhaid inni eu diogelu. Byddant hefyd yn helpu i sicrhau y bydd ystyried lles cenedlaethau'r dyfodol yn ganolog i'r penderfyniadau rydym yn eu gwneud heddiw.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi ein AASau cyntaf ar gyfer ynni ffrwd llanw. Mae ynni ffrwd llanw'n sector arloesol sy'n dod i'r amlwg, ac mae'n datblygu technoleg arloesol i gynhyrchu ynni dibynadwy a chynaliadwy o'n moroedd. Mae ganddo'r potensial i chwarae rhan sylweddol wrth ddatgarboneiddio ein system ynni a chyrraedd sero-net, wrth gynnig cyfleoedd o ansawdd uchel i'n cymunedau arfordirol ar gyfer swyddi ac yn y gadwyn gyflenwi. Mae ynni ffrwd llanw yn sector ar ddechrau ei datblygiad ac mae'n dod ar adeg pan fydd ein moroedd yn dod yn fwyfwy prysur. Felly, mae'n bwysig ein bod yn rhoi sicrwydd drwy gynlluniau morol ynghylch yr ardaloedd allweddol sydd ar gael yn y tymor hir sydd â'r potensial i gefnogi gweithgareddau yn y dyfodol.
Bydd AASau yn rhoi'r sicrwydd hwn ac yn ceisio rhoi hyder i ddatblygwyr. Maent yn nodi ardaloedd allweddol sydd â'r potensial i gefnogi cynhyrchu ynni ffrwd llanw yn y dyfodol ac yn sicrhau'n ffurfiol fod yr ardaloedd hyn ar gael ar gyfer cynigion ynni ffrwd llanw posibl. Nid yw hyn yn golygu y byddai cynigion ar gyfer datblygu yn yr ardaloedd hyn yn cael eu cymeradwyo. Bydd rhaid i bob cynnig, boed o fewn neu y tu allan i Ardal Adnoddau Strategol, wneud cais am ganiatâd priodol a rhaid i gynigion fodloni gofynion rheoleiddiol trylwyr ar ddiogelu'r amgylchedd a'r effeithiau cymdeithasol. Rhaid cydbwyso datblygiadau yn yr amgylchedd morol â'r angen i adfer a gwella amrywiaeth a chydnerthedd ein hecosystemau morol.
Mae datblygu AASau wir wedi bod yn broses gydweithredol. Mae arbenigedd a chyngor ein partneriaid wedi bod yn hanfodol i ddatblygu'r AASau rydym wedi'u cyflwyno heddiw. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser a'u harbenigedd yn rhydd i gefnogi'r broses hon. Byddwn hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid dros y misoedd nesaf i gefnogi gweithredu AASau.
Rydym yn arwain y ffordd wrth gyflwyno AASau ar gyfer ynni ffrwd llanw, ond rhaid inni wneud mwy. Rydym eisoes yn gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu cynigion ar gyfer AASau ar gyfer sectorau pwysig eraill, gan gynnwys ynni gwynt arnofiol ar y môr . Ochr yn ochr â hyn, rydym yn datblygu canllawiau ar sut i wella ecosystemau morol drwy'r cynllun morol. Mae cyflwyno AASau hefyd yn nodi'r cam cyntaf tua darparu rhagor o arweiniad drwy ein system cynllunio morol ar ble bydd modd cynnal datblygiadau yn y dyfodol a maint y datblygiadau hynny, wrth warchod a gwella ein hamgylchedd morol gwerthfawr. Nawr yw'r amser i weithredu, a hynny mewn modd uchelgeisiol; ac i ddeall sut y gallwn fynd ymhellach, mae fy swyddogion wedi comisiynu adolygiad o ddulliau cynllunio morol.
Mae ein moroedd yn ased naturiol anhygoel, sydd â'r potensial i fod yn ganolog i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Rwy'n credu'n gryf fod gan ein system cynllunio morol rôl allweddol i'w chwarae wrth wireddu'r potensial hwn, gan arwain a chefnogi datblygu cynaliadwy er budd ein cymunedau a'n heconomi arfordirol wrth hefyd ddiogelu a gwella ein hamgylchedd morol.