Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Sarah Murphy AS
  • Vikki Howells AS
  • Jack Sargeant AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
  • Kevin Brennan, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 4)
  • Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid (eitem 4)
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 4)

Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 4 Tachwedd.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Cyfarfod â Phrif Weinidog y DU

2.1 Soniodd y Prif Weinidog am ei chyfarfod diweddar gyda Phrif Weinidog y DU, lle, ymhlith materion eraill, y buont yn trafod HS2 ac Ystad y Goron.

Ymchwiliad COVID-19

2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'n rhoi tystiolaeth i Fodiwl 3 Ymchwiliad COVID-19 y DU ddydd Mercher yr wythnos honno.

Cynllun Dychwelyd Ernes i Gymru

2.3 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i roi'r ddiweddaraf am y Cynllun Dychwelyd Ernes.

2.4 Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn gynharach y prynhawn hwnnw i roi gwybod i'r Aelodau bod y Llywodraeth yn tynnu'n ôl o gynllun dychwelyd ernes y DU gyfan ar gyfer poteli a chaniau.

2.5 Roedd Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau Datganoledig wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i gychwyn proses ar y cyd i benodi'r Sefydliad Rheoli Ernes ar gyfer y cynlluniau perthnasol. Fodd bynnag, yn yr amser a oedd ar gael, ni fu'n bosibl mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â gweithredu datganoli a achoswyd gan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Felly, byddai'r Llywodraeth nawr yn mynd ati i ddatblygu cynllun sy'n cefnogi'r newid i drefn ailddefnyddio ar gyfer yr holl gynwysyddion diodydd, gan gynnwys y rhai a wneir o wydr.

2.6 O ystyried record Cymru ar gyfraddau ailgylchu a heb newidiadau i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU, cydnabuwyd y byddai'r dull pedair gwlad yn rhoi Cymru o dan anfantais ac yn gosod costau ychwanegol ar awdurdodau lleol a chwmnïau ailgylchu.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6.20pm ddydd Mawrth a thua 6.25pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Cytuno ar Gyllideb Ddrafft 2025-2026

4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar ddyraniadau Cyllideb Ddrafft 2025-2026, ar y ddealltwriaeth bod nifer bach o faterion yn parhau heb eu datrys. Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd nodi'r camau nesaf yn y broses i alluogi ei chyhoeddi ar 10 Rhagfyr.

4.2 Croesawodd y Cabinet y papur, y cynnydd arfaethedig mewn cyllid, a'r bwriad i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm Cymru.

4.3 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, yn amodol ar gyfarfodydd Gweinidogol pellach i ystyried pryderon a godwyd.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2024