Ystadegau, Dogfennu
Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir): Gorffennaf i Medi 2024
Data am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Gorffennaf i Medi 2024.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 90 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Prif bwyntiau
- Ers ei sefydlu ar 2 Ionawr 2014 i 30 Medi 2024, cafodd 14,490 o gartrefi eu prynu o dan Gynllun Cymorth i Brynu Cymru.
- Roedd dros dri chwarter o’r rhain yn brynwyr tro cyntaf ac roedd dros hanner yn gartrefi 3 ystafell wely.
- Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2024, cafodd 112 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru.
- Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2024, cafodd 3 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd.
- Ar 30 Medi 2024, roedd 185 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
- Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £28.3 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £5.6 miliwn.
- £252,371 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £50,000 oedd gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.
Nodyn
Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Craig McLeod
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099