Neidio i'r prif gynnwy

Cofnod

Yn bresennol

Jeremy Miles AS: Ysgrifenydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg 
Dafydd Hughes: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhian Huws Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Lowri Morgans: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rosemary Jones:Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Meurig Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Anwen Davies: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Owain Wyn: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Tegryn Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Angharad Mai Roberts: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Bethan Webb: Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Aelodau staff Is-adran Cymraeg 2050: Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Ysgrifenyddiaeth: Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant 
Dr Richard Glyn Roberts: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant 
Catrin Llwyd: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant 

Ymddiheuriadau

Dyfed Edwards: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Samuel Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Savanna Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Enlli Thomas: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Manon Cadwaladr: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Meleri Light: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Croeso gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050

Croesawyd pawb i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Bethan Webb Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymraeg 2050.

Eitem 1: Sesiwn ddwys ar y Blynyddoedd Cynnar 

Cafwyd cyflwyniad i faes blynyddoedd cynnar a’r Gymraeg gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050 gyda ffocws ar rai o’r heriau. Dyma’r prif pwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth ddilynol:

  • Trafodwyd bod angen datblygu model mwy hyblyg ar gyfer rhieni sy’n gweithio’n llawn amser. Fel y mae, nid yw oriau cyfyngedig nifer o gylchoedd meithrin yn bwrpasol i hyn. Gwnaethpwyd sylw nad oes angen gofal plant 5 diwrnod yr wythnos ar bob teulu bellach a bod hyn yn ei gwneud hi’n anodd i fusnesau gofal plant fod yn hyfyw.
  • Trafodwyd yr heriau ym maes y gweithlu gan gynnwys yr her o gadw staff yn y maes a’r cyfrifoldebau beichus sydd ar staff cylchoedd meithrin, nifer ohonynt yn wirfoddolwyr. Mewn ymateb, trafodwyd sut i wneud y swyddi yn fwy deniadol. Nodwyd pwysigrwydd cyd-weithio gyda’r Colegau Addysg Bellach er mwyn cryfhau’r gweithlu a chynnig cyfleoedd i bobl ifanc yn y maes.
  • Nodwyd pwysigrwydd lleoliadau daearyddol y cylchoedd, mae lleoliadau sy’n agos at ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ddelfrydol er mwyn cynyddu cyfraddau trosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg. Hefyd, nodwyd yr angen i gael dealltwriaeth lawn o faterion lleol ym mhob achos. 
  • Cytunwyd bod angen amlygu’r heriau er mwyn gallu cynllunio’n fwy strategol.

Cafwyd dau gyflwyniad ar y maes: (i) data y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar (gan ystadegwr Llywodraeth Cymru) a (ii) y Polisi Cenedlaethol ar Drosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd (gan Bennaeth Prosiect Cymraeg 2050). 

Cam Gweithredu 1

Ysgrifenyddiaeth i rannu dolen at y data a gyflwynwyd ar y Blynyddoedd Cynnar oddi ar wefan Mudiad Meithrin gyda’r aelodau.

[Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair.]

Eitem 2: Gair o Groeso gan Ysgrifennydd y Cabinet

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg. 

Eitem 3: Cyflwyniad i Brosiect BRO, Astudiaeth Sosio-ieithyddol o Gymunedau Cymraeg dwysedd Uwch a sesiwn drafod.

Cafwyd cyflwyniad gan Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Dr Richard Glyn Roberts a Catrin Llwyd ar waith Prosiect BRO ers ei lansio ym mis Medi 2023. Mae’r dadansoddiad hyd yma yn seiliedig ar ffigurau Cyfrifiad 2021 ac yn canolbwyntio ar gymunedau Cymraeg dwysedd uwch.

Nodwyd mai cam nesaf y gwaith fydd gweithio gyda’r Mentrau Iaith i greu arolwg cymunedol. 

Trafodwyd y canlynol ar sail y cyflwyniad: 

  • Sut y byddai rhywun yn mesur ei hun fel siaradwr Cymraeg, a sut y byddai Bil y Gymraeg ac Addysg yn bwydo i mewn i hyn wrth ddefnyddio lefelau CEFR i asesu hyfedredd iaith unigolion.
  • Yn sgil hyn, nodwyd y bydd angen cysoni’r lefelau yma ar draws proffesiynau eraill fel bod pawb yn defnyddio’r un system i hunanasesu eu sgiliau Cymraeg.

[Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg yn ymadael â’r cyfarfod a swyddog o Lywodraeth Cymru yn cymryd y gadair.]

Cam Gweithredu 2

Ysgrifenyddiaeth i anfon manylion sesiynau Cymraeg 2050 Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Rhondda Cynon Taf at aelodau’r Cyngor er gwybodaeth.

Eitem 4: Unrhyw Fater Arall

Cytunwyd y bydd ffocws y cyfarfod nesaf ar weithleoedd a sut i annog pobl ifanc i aros yn ein cymunedau i weithio ac i ddenu pobl ifanc yn ôl i weithio i Gymru. 

Cam Gweithredu 3

Ysgrifenyddiaeth i aildrefnu sesiwn ar Gydraddoldeb a’r Gymraeg yn y cyfarfod nesaf.

Pwynt gweithredu

Cam Gweithredu 1

Ysgrifenyddiaeth i rhannu dolen at y data a gyflwynwyd ar y Blynyddoedd Cynnar oddi ar wefan Mudiad Meithrin gyda’r aelodau.

I bwy?

Ysgrifenyddiaeth

Wedi cwblhau?

Gwyrdd: bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol. 

Cam Gweithredu 2

Ysgrifenyddiaeth i anfon manylion sesiynau Cymraeg 2050 Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Rhondda Cynon Taf at aelodau’r Cyngor er gwybodaeth.

I bwy?

Ysgrifenyddiaeth

Wedi cwblhau?

Gwyrdd: bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol. 

Cam Gweithredu 3

Ysgrifenyddiaeth i aildrefnu sesiwn ar Gydraddoldeb a’r Gymraeg yn y cyfarfod nesaf.

I bwy?

Ysgrifenyddiaeth

Wedi cwblhau?

Gwyrdd: bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol.