Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod y chwarter (Gorffennaf i Fedi 2024)

  • Cafodd 4,279 o ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Gwnaeth 1.28% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 772 (18.04%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.

Yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol (mis Ebrill i fis Medi 2024)

  • Cafodd 8,798 o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Gwnaeth 2.63% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 1,457 (16.56%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Helen Roberts
E-bost: hss.performance@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099