Bwrdd y Rhaglen Dileu TB Gwartheg: cylch gorchwyl
Crynodeb o bwrpas Bwrdd y Rhaglen Dileu TB Gwartheg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y cefndir
Sefydlwyd Bwrdd y Rhaglen Dileu TB Gwartheg i roi cyngor strategol i'r Prif Swyddog Milfeddygol a'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Rôl
Mae'r Grŵp yn rhoi cyngor ar sbectrwm eang o heriau'n ymwneud â TB mewn ymateb i geisiadau gan lunwyr polisi, y Prif Swyddog Milfeddygol ac Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn nodi meysydd i'w hystyried a allai helpu i gyflymu'r broses o ddileu TB yng Nghymru.
Nid oes gan y Bwrdd yr ymreolaeth i wneud penderfyniadau ar ddyrannu cyllid neu Gytundebau Lefel Gwasanaeth gyda chyrff/asiantaethau cyflenwi, na chymeradwyo cynlluniau wrth gefn neu gyflwyniadau Gweinidogol. Bydd aelodau'n gwasanaethu fel unigolion ac nid yn cynrychioli unrhyw sefydliadau, yr eithriad i hyn fydd aelodau’r Grŵp Cynghori Technegol (TAG), Cymdeithas Milfeddygon Prydain (BVA), NFU Cymru, FUW (Undeb Amaethwyr Cymru) ac Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Ni fydd gan yr aelodau yr hawl i enwebu eilyddion i fynychu yn eu habsenoldeb. Mae Swyddogion Penodedig a chynrychiolwyr o BVA, NFU Cymru, FUW ac APHA naill ai'n cynrychioli sefydliad neu'n dal swydd swyddogol o fewn Llywodraeth Cymru. Felly nid ydynt yn gwasanaethu mewn capasiti unigol, a gallant enwebu eraill yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Mae cyfrifoldebau'r Grŵp yn cynnwys:
- rhoi cyngor i lunwyr polisi, y Prif Swyddog Milfeddygol ac Ysgrifennydd y Cabinet
- ystyried materion sy'n ofynnol i gyflawni'r canlyniadau strategol yng Nghynllun Dileu TB Cymru a'i Gynllun Cyflawni cysylltiedig
- adolygu cynnydd ar y rhaglen dileu TB yn erbyn targedau carreg filltir, a herio'r cynnydd hwnnw mewn ffordd adeiladol
- rhoi cyngor annibynnol i gefnogi datblygiad penderfyniadau polisïau newydd a datblygol
Aelodau
Mae'r Bwrdd yn cynnwys cymysgedd o aelodau a benodwyd yn gyhoeddus, aelodau a benodwyd yn uniongyrchol, aelodau ex-officio a'r Cadeirydd.
Bydd y Prif Swyddog Milfeddygol yn cydweithio'n agos â’r Bwrdd i ddarparu arbenigedd a safbwynt llywodraethol. Er y bydd y Bwrdd yn ystyried barn y Prif Swyddog Milfeddygol, bydd yn cadw perchnogaeth dros unrhyw gyngor a roddir ac ni fydd angen iddo gael cytundeb y Prif Swyddog Milfeddygol na sicrhau bod unrhyw gyngor neu adroddiadau yn cyd-fynd â barn y Prif Swyddog Milfeddygol.
Bydd yr aelodau'n parhau fel aelodau o’r grŵp cyn belled â'u bod yn cydymffurfio â saith egwyddor bywyd cyhoeddus y Pwyllgor Safonau Cyhoeddus.
Gall y Bwrdd nodi gofyniad i is-grwpiau gefnogi ei waith a chyflwyno cynnig drwy'r Ysgrifenyddiaeth. Bydd y Cadeirydd a'r Bwrdd yn cytuno ar gylch gwaith is-grwpiau o'r fath. Bydd aelodau unigol o'r Bwrdd yn cael y dasg o arwain neu gydlynu'r grwpiau hyn.
Cyfrinachedd
Fel aelodau o'r Bwrdd, rydych yn cydnabod y cyfrifoldebau sy'n codi o gytundeb cyfrinachedd yn unol â'r cytundeb a lofnodwyd wrth dderbyn swydd ar y Bwrdd. Bydd yr aelodau'n parchu ffiniau cyfrinachedd bob amser. Cynhelir cyfarfodydd dan ddealltwriaeth gyffredin gaeth, sy'n ymwneud â'r holl drafodaethau, ac ystyrir bod unrhyw bapurau neu ddogfennau a ddatgelir yn "GYFRINACHOL" ac ni ddylid eu trafod na'u datgelu y tu allan i'r cyfarfod neu'r Bwrdd heb ganiatâd.
Cymorth
Darperir Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd gan Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth Cymru.
Adnoddau
Nid oes gan y Bwrdd gyllideb ddirprwyedig, ond gall y Bwrdd fynd at Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol i gael cyllid ar gyfer darn penodol o waith. Bydd y Prif Swyddog Milfeddygol yn ystyried hyn fesul achos.
Adolygiadau
Dylai'r Bwrdd adolygu a chytuno ar y Cylch Gorchwyl hwn yn ei gyfarfod cyntaf, ac yn flynyddol yng nghyfarfod cyntaf y flwyddyn galendr, neu pan fo angen.
Cyfathrebu
Bydd Llywodraeth Cymru fel arfer yn cyhoeddi cofnodion sy'n codi o gyfarfodydd y Bwrdd yn Gymraeg a Saesneg ar ei gwefan, yn unol â deddfwriaeth sy'n llywodraethu mynediad cyhoeddus at wybodaeth.
Y Gymraeg
Bydd y gwaith a wneir gan y Bwrdd yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg Llywodraeth Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r Gymraeg a'i gweledigaeth o genedl ddwyieithog ar gael yma.
Ailbenodiadau
Pan ddaw cyfnod penodiad aelod i ben, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn penderfynu a ddylid ailbenodi'r aelod hwnnw am gyfnod pellach neu gynnal proses benodi gyhoeddus i gael rhywun yn ei le.