Neidio i'r prif gynnwy

Y cefndir

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ansawdd ar gyfer canser, sy'n disgrifio beth mae da yn ei olygu yng nghyd-destun gwasanaethau canser ym mhob rhan o Gymru. Mae hyn yn cael ei ategu gan 26 o'r llwybrau cenedlaethol gorau posibl ar gyfer pob math o ganser sy'n darparu llwybrau gofal ac iddynt amser penodedig sy'n disgrifio sut y gall sefydliadau gyflawni'r targed ar gyfer y llwybr lle'r amheuir canser.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun cynllun adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd ym mis Ebrill 2022, sy'n nodi'r camau y mae angen eu cymryd i gynyddu gweithgarwch i gefnogi adferiad ar ôl canser.

Ym mis Ionawr 2023, lansiodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y cynllun gwella gwasanaethau canser ar gyfer GIG Cymru 2023 to 2026. Mae'r cynllun system gyfan hwn yn nodi sut y bydd GIG Cymru yn gwella gofal canser i gleifion ledled Cymru a'i nod yw gwella ansawdd a chanlyniadau a sicrhau dull cyfannol drwy gydol y llwybr o atal i driniaeth a gofal parhaus. Mae'r cynllun yn annog cydweithio ar draws y system, gan ganolbwyntio ar y priodoleddau a amlinellir yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser.

Yn dilyn uwchgynhadledd weinidogol ar ganser a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2023, comisiynodd Llywodraeth Cymru Weithrediaeth y GIG i ymgymryd ag ymyriad cenedlaethol sy'n canolbwyntio ar ganser wrolegol, canser gastroberfeddol isaf a chanser gynaecolegol er mwyn gwella gwasanaeth a phrofiad i gleifion newydd sy'n cychwyn ar eu llwybr canser a chefnogi datblygiad gwasanaethau canser gwydn, cynaliadwy a theg ledled Cymru. Dechreuodd y rhaglen cymorth ac ymyrraeth genedlaethol ym mis Mehefin 2023, ac mae rhaglen genedlaethol adfer canser bellach wedi'i sefydlu i barhau â'r gwaith hwn.

Uwchgynhadledd weinidogol ar ganser

Fe wnaeth yr uwchgynhadledd weinidogol ar ganser a gynhaliwyd ym mis Medi 2024 ddod â swyddogion gweithredol, rheolwyr gweithredol, arweinwyr clinigol, uwch- nyrsys, a rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru at ei gilydd i drafod a chytuno ar gamau i wella canlyniadau a pherfformiad canser. Roedd ffocws yr uwchgynhadledd ar 3 math o ganser (canser y fron, canser gastroberfeddol isaf a chanser wrolegol) gyda'r bwriad o gytuno ar gamau gweithredu, rhannu arferion gorau, a mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau i wella.

Y cyd-destun strategol

Cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr ymrwymiad i wella mynediad i bobl lle ceir amheuaeth o ganser a gwella canlyniadau i bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser. Nodwyd y disgwyliadau ar gyfer GIG Cymru:

  • rhoi'r llwybrau cenedlaethol gorau posibl ar waith a lleihau'r bylchau mewn llwybrau trwy welliannau y cytunwyd arnynt fel anfon yn syth i gael profion a chynnig ymchwiliadau dilynol ar yr un diwrnod
  • parhau i ganolbwyntio ar leihau nifer y bobl sy'n aros 62 diwrnod a mwy i ddechrau eu triniaeth bendant gyntaf
  • parhau i wella'r amser aros ar gyfer apwyntiad cleifion allanol a diagnostig cyntaf
  • parhau i wella perfformiad tuag at y targed perfformiad y cytunwyd arno yn lleol

Amlygwyd mynd i'r afael â'r amseroedd aros presennol a'r amrywiad mewn perfformiad fel blaenoriaeth allweddol. Bydd angen i fyrddau iechyd weithredu'r llwybrau cenedlaethol gorau posibl, sicrhau bod y llwybr atgyfeirio yn gywir; canolbwyntio ar wella'r amser at y cyswllt cyntaf â chleifion, gwella'r ddarpariaeth ar gyfer anfon yn syth i gael profion a mynediad at ddiagnosteg; a buddsoddi mewn capasiti'r gweithlu.

Dylai byrddau iechyd sicrhau bod yr holl gapasiti sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio'n briodol a manteisio ar unrhyw ddatblygiadau technolegol a digidol fel e-gyfeirio i helpu i wella effeithlonrwydd. Rhaid cefnogi'r rhain gan newidiadau i fodelau gwasanaeth i greu gwasanaethau mwy cynaliadwy a lle bo angen dylent weithio'n rhanbarthol i fynd i'r afael â gwasanaethau bregus.

Gofynnwyd i fyrddau iechyd gymryd camau i leihau a chynnal nifer y cleifion sy'n aros 62 diwrnod a mwy i ddechrau eu triniaeth ganser ddiffiniol gyntaf a gweithredu'r cynllun trawsnewid llwybrau, gyda chefnogaeth gan y rhaglen genedlaethol adfer canser.

Sefyllfa bresennol gwasanaethau canser

Rhoddodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol Perfformiad a Sicrwydd Gweithrediaeth y GIG drosolwg o sefyllfa bresennol gwasanaethau canser. Y pwyntiau allweddol oedd:

  • mae perfformiad yn parhau i fod yn is na'r disgwyliadau ac nid yw taflwybrau ar y trywydd iawn i gyflawni'r gwelliant gofynnol yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol
  • mae'r system yn parhau i fod yn aflwyddiannus o ran lleihau'r nifer sydd ar restrau aros ar bob cam o'r llwybr ar gyfer y safleoedd canser mwyaf heriol
  • mae nifer y cleifion sy'n aros 62 diwrnod a mwy i ddechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn rhy uchel ac ni ellir cyflawni sefyllfa gynaliadwy yn seiliedig ar lefelau presennol o alw a chapasiti
  • mae nifer y cleifion sy'n ymuno â'r llwybr yn parhau i gynyddu, tra bod nifer y canserau a gadarnhawyd yn parhau'n gyson
  • dylai byrddau iechyd a gefnogir gan Weithrediaeth y GIG gynnal dadansoddiad ac adolygiadau o lwybrau er mwyn deall y llwybrau atgyfeirio presennol a pha waith sydd ei angen gyda gofal sylfaenol i ddeall ymddygiad atgyfeirio
  • mae'r galw wedi cynyddu 20% ers 2022 ac mae amrywiaeth yn niferoedd atgyfeirio lleol ar draws mathau o ganser, yn enwedig o ran canser y croen, canser wrolegol a chanser y fron
  • yn hanesyddol, nid yw lefelau gweithgarwch cleifion â chanser wedi cadw i fyny â'r galw
  • nid yw'r nod diagnostig 28 diwrnod yn y llwybrau cenedlaethol gorau posibl yn cael ei gyflawni
  • mae gweithredu'r llwybrau cenedlaethol gorau posibl yn allweddol i ysgogi gwelliannau o ran darparu gwasanaethau a lleihau amrywiaeth ar draws byrddau iechyd
  • mae'n rhaid i sefydliadau GIG Cymru sicrhau gwelliant a lle bo'n briodol croesawu cyfleoedd i weithio ar sail ranbarthol

Dysgu a chynnydd ers yr uwchgynhadledd ddiwethaf

Amlygodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Wedi'i Gynllunio y cynnydd a wnaed ers yr uwchgynhadledd ganser a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2023:

  • cynhaliwyd cyfres o weithdai cenedlaethol i drafod sut y gellir gwella cynhyrchiant ar gyfer llwybrau canser wrolegol, canser gastroberfeddol isaf a chanser gynaecolegol
  • mae rhaglen adfer canser wedi'i sefydlu a datblygwyd cynllun gwaith manwl i gefnogi sefydliadau'r GIG yng Nghymru i weithredu'r llwybrau cenedlaethol gorau posibl ar draws 5 math o ganser (y fron, gynaecolegol, gastroberfeddol isaf, y croen ac wrolegol)
  • mae lefelau cynyddol o weithio rhanbarthol lle mae breuder wedi'i nodi ar draws gwasanaethau a diagnosteg
  • mae ffyrdd gwell o gasglu a chofnodi data ar waith i helpu sefydliadau GIG Cymru gyda'r galw a chynllunio capasiti trwy ddatblygu offer deallusrwydd busnes ar gyfer canser
  • mae clinigau diagnostig cyflym wedi'u sefydlu ac mae sefydliadau GIG Cymru bellach yn gweithio tuag at wella gwasanaethau oncoleg acíwt yn unol â'r fanyleb gwasanaeth
  • mae cynllun gweithlu diagnostig wedi'i gymeradwyo a fydd yn canolbwyntio ar ddelweddu, endosgopi a phatholeg, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r rhaglen ddiagnostig genedlaethol
  • gwnaed gwelliannau yn y llwybrau HRT, gwaedu ar ôl y menopos a gynaecolegol drwy gydweithio'n agosach â'r:
    • rhwydwaith clinigol strategol cenedlaethol ar gyfer iechyd menywod
    • rhwydwaith clinigol strategol cenedlaethol ar gyfer canser
    • rhwydwaith gweithredu clinigol gynecolegol (CIN)

Canolbwyntio ar lwybrau penodol

Cafwyd cyflwyniadau byr a oedd yn canolbwyntio ar 3 llwybr.

Wroleg

Amlygodd yr arweinydd clinigol ar gyfer y grŵp safle canser wroleg fod perfformiad wroleg ar lefel Cymru gyfan wedi bod tua 40% cyn y pandemig ac er bod rhai byrddau iechyd wedi gweld rhywfaint o welliannau, mae'r lefelau perfformiad cyffredinol yn parhau i fod yn sylweddol is na'r lefel darged. Awgrymwyd bod y rhesymau dros hyn oherwydd mwy o atgyfeiriadau, capasiti amrywiol oherwydd materion gweithlu ac ystadau, amrywiad i ymarfer ac amseroedd aros ledled Cymru. Mae prinder staff yn effeithio ar wasanaethau sy'n effeithio ar y gallu i uwchsgilio staff presennol.

Mae yna awydd am newid ac mae nifer o welliannau bellach yn dechrau cael effaith gan gynnwys gweithredu a sefydlu'r gwasanaeth abladiad laser trawswrethrol (TULA) ar draws pob bwrdd iechyd a'r cynnydd mewn capasiti robotig ym myrddau iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Aneurin Bevan. Mae cyfleoedd ar gyfer gwaith mwy rhanbarthol ac mae angen gwelliannau ar gyfer adrodd am brofion diagnosteg.

Cytunwyd ar y camau canlynol:

  • datblygu data amser real fesul safle/pwynt llwybr canser er mwyn gweld ble mae capasiti ar gael, a chefnogi mynediad a gweithio rhanbarthol
  • uwchsgilio'r gweithlu nyrsio, gan gynnwys biopsi prostad a arweinir gan nyrsys clinigol arbenigol a chystosgopi hyblyg, yn ogystal â rhaglen hyfforddi achrededig ffurfiol
  • gwella capasiti a phrosesau adrodd yn y maes patholeg
  • cydweithio ag AaGIC i ddatblygu strategaeth y gweithlu sy'n canolbwyntio ar ddenu hyfforddeion a chadw ymgeiswyr o ansawdd uchel

Gastroberfeddol isaf

Amlygodd yr arweinydd clinigol ar gyfer grŵp safle canser y colon a'r rhefr fod perfformiad ar draws pob bwrdd iechyd ar gyfer canser gastroberfeddol isaf yn parhau i fod yn anodd, mae nifer y cleifion sy'n aros wedi mwy na dyblu o gymharu â lefelau cyn y pandemig. Er mwyn cefnogi gwelliannau i'r llwybr, mae byrddau iechyd yn ceisio gweithredu cyfnodau disgwyl yn y llwybr gyda'r bwriad o gwblhau'r cam diagnostig erbyn diwrnod 28 a'r cam triniaeth o fewn 21 diwrnod. Mae hyn yn heriol i ddiagnosteg gyda'r seilwaith cyfredol, nifer yr endosgopyddion hyfforddedig a'r lefelau cyfredol o ran capasiti endosgopi. Ar gyfer triniaeth, mae mwy 60% a mwy o gleifion angen llawdriniaeth fel eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ac mae amrywiaeth mewn asesu cyn llawdriniaeth a gwasanaethau rhag-sefydlu, mynediad i'r theatr, a defnydd o lawdriniaethau robotig.

Y fron

Amlygodd yr arweinydd clinigol ar gyfer grŵp safle canser y fron y bu cynnydd sylweddol ar draws llwybr y fron ac mae gwasanaethau'n adrodd eu bod yn fwy cynaliadwy a fydd yn arwain at well perfformiad a chanlyniadau gwell i gleifion. Mae'r gwelliannau'n cynnwys:

  • gweithredu'r llwybr cenedlaethol gorau posibl ar gyfer canser y fron
  • datblygu llwybr cenedlaethol gorau posibl cyntaf y DU ar gyfer canser metastatig y fron
  • llwybr ar gyfer defnyddio atalyddion PARP mewn cleifion â chanser etifeddol y fron (cludwyr genynnau BRCA)
  • llwybr atal cemotherapi i fenywod sydd â risg uchel o ddatblygu canser y fron
  • sefydlu unedau wedi'u hadeiladu'n bwrpasol fel canolfannau'r fron sy'n darparu gwasanaethau o un safle yn Abertawe, Caerdydd, Llantrisant ac Ystrad Mynach
  • gostyngiad yn yr amser aros ar gyfer apwyntiad cyntaf o 14 i 16 wythnos i 2 i 3 wythnos
  • prawf o gysyniad o gydweithio, cynllun grŵp safle canser ar ôl y pandemig wedi lleihau amseroedd aros o 16 i 4 wythnos

Roedd yr heriau i'r gwasanaeth yn cynnwys y canlynol:

  • Mae'r targedau canser presennol yn ymwneud â dechrau'r driniaeth ddiffiniol gyntaf ac nid yw'n cynnwys y therapi cyffur ategol, sy'n effeithio ar ganlyniadau canser, na llawdriniaeth ar unwaith i adlunio'r fron i gleifion sy'n cael masectomi, sy'n effeithio ar brofiad cleifion.
  • Amrywiad mewn ymarfer clinigol wrth drin canser y fron nod positif. Ar hyn o bryd, mae radiotherapi ceseiliol ar gael yn y gorllewin a'r gogledd, ond nid yw ar gael yn y de-ddwyrain lle mai clirio nodau ceseiliol yw'r driniaeth safonol.
  • Mae oedi mewn llawdriniaethau i adlunio'r fron i gleifion sy'n cael masectomi yn effeithio ar ganlyniadau corfforol, seicolegol, emosiynol a rhywiol.
  • Daeth y datganiad o fwriad ar gyfer gwasanaethau delweddu diagnostig a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018 i'r casgliad bod gan Gymru saith radiolegydd i bob 100,000 o'r boblogaeth o gymharu â chyfartaledd Ewropeaidd o 12 a daeth y papur ar "ddelweddu'r fron" gan Gydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru i'r casgliad bod y sefyllfa i radiolegwyr y fron yn waeth. Byddai'r rhagamcanion o alw cynyddol, anhawster recriwtio ac ymddeoliadau sydd ar ddod, yn gwneud y sefyllfa'n anoddach.
  • Mae gwasanaethau symptomau a sgrinio yn cael eu rhedeg yn annibynnol ond yn defnyddio'r un capasiti. Amlygwyd yr angen am gydweithio a rhoddwyd ystyriaeth i gydleoli gwasanaethau sgrinio a symptomatig i ddarparu dull cydweithredol ar gyfer yr un gronfa o glinigwyr medrus iawn. Byddai model integredig yn canolbwyntio ar y staff medrus iawn, sy'n gallu gweithio'n hyblyg a chroesi o un gwasanaeth i'r llall pan fo angen a darparu gwasanaeth o ansawdd uchel.

Themâu craidd

Roedd sawl thema gyffredin sy'n berthnasol i bob safle tiwmor fel a ganlyn:

  • gweithredu'r llwybrau cenedlaethol gorau posibl
  • gweithio gydag AaGIC ar strategaethau tymor hwy ar gyfer cadw a recriwtio'r gweithlu
  • gweithio rhanbarthol a chydweithio effeithiol

Cymorth Gweithrediaeth y GIG

Amlygodd Pwyllgor Gweithrediaeth y GIG y gefnogaeth sydd ar gael i sefydliadau GIG Cymru i wella gwasanaethau canser:

  • datblygu a gweithredu'r llwybrau cenedlaethol gorau posibl
  • rhannu dysgu ac arferion da
  • cefnogaeth gwella ansawdd i dimau amlddisgyblaethol
  • systemau gwybodaeth rheoli i fapio'r galw ar draws moddau
  • lleihau amrywiaeth ar draws sefydliadau GIG Cymru
  • ymgymryd â dadansoddiad o'r bylchau
  • cefnogi gweithio cydweithredol neu ranbarthol

Myfyrdodau

Mae'r galw ar wasanaethau canser, fel y'i mesurwyd gan nifer y llwybrau a agorwyd ar y llwybr lle'r amheuir canser wedi cynyddu ers cyflwyno'r cynllun adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd ym mis Ebrill 2022.

Mae arosiadau'n cael eu gyrru'n bennaf gan oedi yng nghamau cynnar y llwybr yn apwyntiad cyntaf cleifion allanol ac yn y camau diagnosteg. Yn aml mae'r rhain yn wasanaethau sy'n gorfod cydbwyso'r galw ehangach am ofal a gynlluniwyd a brys clinigol lle'r amheuir canser. Mae heriau ehangach o ran capasiti mewn patholeg, delweddu ac endosgopi felly'n effeithio'n sylweddol ar y llwybr canser.

Datblygwyd strategaeth ddiagnostig i gefnogi datblygiad gwasanaethau diagnostig mwy cynaliadwy a bydd y cynllun gweithredu yn cael ei gyhoeddi yn dilyn ymgynghoriad.

Mae'n bwysig i fyrddau iechyd barhau i ganolbwyntio ar adfer gwasanaethau canser, cynnal cydbwysedd o drin cleifion sydd â brys yn glinigol a lleihau'r ôl-groniad o bobl sy'n aros mwy na 62 diwrnod i ddechrau triniaeth. Mae mynd i'r afael â'r ôl-groniad yn effeithio ar y capasiti i drin y rhai sy'n dal i aros o fewn yr amserlen darged.

Camau gweithredu a’r camau nesaf

Cytunwyd ar yr ymrwymiadau a'r camau gweithredu canlynol a bydd y cynnydd yn erbyn y rhain yn cael ei fonitro:

  • y byrddau iechyd i weithredu'r llwybrau cenedlaethol gorau posibl a lleihau'r amrywiad mewn llwybrau trwy fodelau un stop, lle bo hynny'n briodol
  • y byrddau iechyd i gytuno gyda Gweithrediaeth y GIG ar darged ar gyfer lleihau, mewn modd cynaliadwy, nifer y bobl sy’n aros yn hir yn seiliedig ar y lefelau sy'n ofynnol i sicrhau’r gydymffurfiaeth darged, a chymryd camau brys ac uniongyrchol i leihau nifer y cleifion sy'n aros mwy na 62 diwrnod i ddechrau eu triniaeth bendant gyntaf
  • y byrddau iechyd, gyda chymorth gan Weithrediaeth y GIG, canolbwyntio ar leihau'r amser i'r apwyntiad cyntaf yn yr adran gleifion allanol, cynyddu achosion o anfon yn syth i gael profion, a sicrhau bod yr holl weithgarwch diagnostig yn cael ei gwblhau o fewn 28 diwrnod
  • gweithrediaeth y GIG i drafod opsiynau gydag AaGIC i helpu i gadw, recriwtio ac uwchsgilio’r gweithlu canser
  • gweithrediaeth y GIG i hwyluso gweithio ar y cyd a gweithio rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau arbenigol a bregus