Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales

1. Rhanbarth

Bydd y cynllun ar waith ledled Cymru.

2. Enw'r cynllun cymhorthdal

Enw'r Cynllun Cymhorthdal yw'r Rhaglen Cam wrth Gam.

3. Sail gyfreithiol y DU

Mae rhwymedigaethau polisi mewn perthynas â safonau'r Gymraeg, cydraddoldeb a hawliau dynol, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yr agenda trechu tlodi a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2005 wedi cael eu hystyried yn llawn.

4. Amcanion y Cynllun

Amcanion y Cynllun yw bwrw ymlaen ag ehangu'r ddarpariaeth Gofal Plant cyfrwng Cymraeg drwy ddarparu cyrsiau hyfforddiant gofal plant cyfrwng Cymraeg ar gyfer cymwysterau i 100 o unigolion ychwanegol ar lefel 3 a 50 o unigolion ychwanegol ar lefel 5.

5. Yr Awdurdod cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru.

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Darparwyr gofal plant sy'n darparu hyfforddiant a chymwysterau gweithlu gofal plant yn y Gymraeg.

7. Sector(au) a gefnogir

Y sector sy’n cael ei gefnogi gan y cynllun hwn yw'r sector Gofal Plant.

8. Hyd y cynllun

Hyd y cynllun yw 1 Ebrill 2022 tan 31 Mawrth 2026.

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun

Cyfanswm y gyllideb ar gyfer y cynllun hwn yw £3.748 miliwn.

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Mae angen i'r darparwr allu cyflwyno'r hyfforddiant cymwysterau gofal plant yn y Gymraeg a chyrraedd targedau recriwtiaid newydd i gyflawni cymwysterau lefel 3 a lefel 5 i'w galluogi i weithio yn y sector gofal plant.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Bydd gwerth cymorthdaliadau a ddyfernir o dan y cynllun hwn yn seiliedig ar gostau darparu cymwysterau lefel 3 a lefel 5 i ymarferwyr gofal plant, i dalu costau aseswyr, hyfforddwyr, gwiriadau DBS, dilysu hyfforddiant a deunyddiau hyfforddi seiliedig ar waith.

13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£20,000

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image