Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Wrth i ni symud ymlaen â datblygu System Gofal Cymunedol Integredig i Gymru, rwy'n falch o rannu'r datganiad sefyllfa diweddaraf hwn sy'n disgrifio'r cynnydd a'r cyflawniadau ar rai o'r buddsoddiadau allweddol a wnaed drwy ein saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.
Mae'r System Gofal Cymunedol Integredig i Gymru yn seiliedig ar ddull ataliol o sicrhau iechyd a llesiant da i'n poblogaeth gyfan. Bydd yn cefnogi darparu gwasanaethau iechyd, gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau trydydd sector di-dor yn y gymuned, i helpu pobl a chymunedau i gynnal a rheoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain. Bydd y System Gofal Cymunedol Integredig yn helpu pobl i aros yn iach gartref a’u hatal rhag gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty, neu’n eu cynorthwyo i ddychwelyd adref yn gyflym os ydynt wedi gorfod treulio amser yn yr ysbyty.
Mae’n hanfodol gweithio mewn partneriaeth a chysoni adnoddau ar draws ein system i ddatblygu System Gofal Cymunedol Integredig i Gymru. Mae aliniad strategol a buddsoddiad y Gronfa Tai â Gofal, y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso, a'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n gyfanswm o dros chwarter biliwn o bunnoedd bob blwyddyn, yn ein galluogi i wneud cynnydd da tuag at wireddu ein huchelgais.
Mae cysoni cyllid cyfalaf a chyllid refeniw yn hanfodol i sicrhau y gallwn fuddsoddi mewn gwasanaethau ac ystadau i gynnig gofal a chymorth effeithiol yn y gymuned. Gyda mwy na 600,000 o bobl wedi cael cefnogaeth drwy ein Cronfa Integreiddio Rhanbarthol y llynedd, 70 o gynlluniau cyfalaf wedi'u cefnogi drwy'r Gronfa Tai â Gofal, a 25 o gynlluniau ychwanegol wedi’u cefnogi drwy’r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso, rydym yn creu synergedd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol ac yn helpu i gefnogi pobl drwy gynnig ymyriadau cynharach yn eu cymunedau, a lleihau'r galw ar ein gwasanaethau statudol.
Rydym yn cydnabod rôl hanfodol y saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar draws Cymru, a'u partneriaid cyflenwi, sy'n gwneud cyfraniad allweddol o ran arwain y trawsnewidiad sydd ei angen i wireddu ein huchelgais o System Gofal Cymunedol Integredig i Gymru. Mae'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn goruchwylio buddsoddi'r cyllid a ddisgrifir yn y datganiad sefyllfa ac maent yn chwarae rhan hanfodol o ran ein helpu i nodi'r hyn sy'n gweithio i bobl a chymunedau a rhannu’r hyn a ddysgwyd. Mae hyn, yn ei dro, yn ein helpu i lunio a chynllunio modelau gofal cenedlaethol a glasbrintiau ar gyfer canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.
Rydym yn cydnabod bod angen llawer mwy na'r arian a nodir yn y datganiad sefyllfa er mwyn integreiddio systemau. Mae rhaglenni gwaith eraill, gan gynnwys y rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol a'r Fframwaith ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol, hefyd yn ein helpu i wireddu ein huchelgais o sefydlu a chyflwyno System Gofal Cymunedol Integredig i Gymru. Gyda'i gilydd, mae'r cronfeydd hyn yn ein helpu i ddatblygu ac ymgorffori ffyrdd newydd o ddarparu gofal a chymorth ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol, gyda'r bwriad o lywio'r ffordd y mae adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol craidd hefyd yn cael eu defnyddio i gefnogi cynnig gofal cymunedol ataliol, di-dor.
Yn y dyfodol, bydd angen i ni gyflymu'r broses o drawsnewid ein system drwy sicrhau bod arferion da lleol a rhanbarthol yn cael eu rhannu, eu datblygu a'u trosglwyddo ledled Cymru. Mae'n rhaid i ni addasu a mabwysiadu arferion da neu gyfiawnhau rhesymau dros beidio â’u mabwysiadu, i'n helpu i adeiladu cynnig gofal cymunedol mwy cyson ar gyfer ein poblogaeth.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.