Yn dilyn cyhoeddi ei benodiad i Dŷ'r Arglwyddi, bydd Prif Gynghorydd Arbennig y Prif Weinidog, Kevin Brennan, yn rhoi’r gorau i’w swydd yn ystod yr wythnosau nesaf pan fydd yn ymgymryd â'i rôl fel arglwydd.
Bydd y cyn Aelod Seneddol Ewropeaidd, Aelod Seneddol a Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Wayne David, yn cymryd lle Kevin yn Brif Gynghorydd Arbennig y Prif Weinidog yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan:
"Hoffwn ddiolch i Kevin am gamu i’r adwy i helpu pan gymerais yr awenau fel Prif Weinidog ym mis Awst. Mae ei brofiad, ei gyngor a'i gyfeillgarwch wedi bod yn amhrisiadwy wrth fy helpu gyda sialensau rôl heriol y Prif Weinidog. Rwy’n gwybod y bydd yn parhau i wasanaethu buddiannau Cymru yn ei swydd newydd.
"Rwy'n falch iawn bod Wayne David wedi cytuno i ymgymryd â rôl y Prif Gynghorydd Arbennig. Rydym wedi cydweithio'n agos dros ddegawdau, ac fel Kevin, mae gan Wayne brofiad enfawr o wleidyddiaeth Cymru a'r DU. Rwy'n teimlo'n ffodus i gael olynydd mor wych i Kevin yn Wayne."