Egwyddorion Arweiniol Llywodraeth Cymru ar Gyfer Datblygu Cynlluniau Sychder 2025
Mae’r egwyddorion arweiniol hyn ar gyfer ymgymerwyr dŵr (cwmnïau dŵr) y mae eu hardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Maent yn rhoi crynodeb o ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru, y broses statudol a swyddogaeth a chyfrifoldebau’r Llywodraeth, rheoleiddwyr ac ymgymerwyr dŵr. Dylid eu darllen ar y cyd â Chanllaw Technegol Cynllun Sychder Cwmnïau Dŵr a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
1. Egwyddorion Arweiniol
Mae cynlluniau sychder yn gynlluniau gweithredol yn bennaf sy’n amlinellu sut y bydd ymgymerwyr dŵr yn cynnal cyflenwadau dŵr i’w cwsmeriaid yn ystod cyfnodau pan na fydd llawer o law a’r adnoddau yn brin, ac yn sicrhau ar yr un pryd fod eu gweithredoedd yn cael cyn lleied â phosib o effeithiau negyddol (gan gynnwys effaith ar gwsmeriaid, busnesau a’r amgylchedd) yn ystod cyfnod o sychder. Dylent amlinellu’r camau gweithredol byrdymor y bydd ymgymerwyr dŵr yn eu cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl sychder.
Mae Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn diffinio cynllun sychder fel cynllun sy’n dweud sut y bydd yr ymgymerwr dŵr, yn ystod cyfnod o sychder, yn parhau i gyflawni ei ddyletswyddau i gyflenwi cyflenwad digonol o ddŵr iach, gan ddibynnu cyn lleied ag sy’n rhesymol bosib ar orchmynion sychder neu drwyddedau sychder. Mae hyn yn cael ei ategu gan Gynllun Rheoli Adnoddau Dŵr, sy'n nodi sut y bydd ymgymerwyr dŵr yn rheoli eu cyflenwadau dŵr yn y tymor hir.
Dylai eich cynllun sychder ddangos sut ydych chi wedi rhoi ystyriaeth i flaenoriaethau, egwyddorion ac ymrwymiadau polisi Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015), Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a’r Strategaeth Ddŵr i Gymru.
Cyhoeddodd CNC Ganllaw Technegol i Gynlluniau Sychder, sef fframwaith i chi ei ddilyn wrth baratoi a chyhoeddi eich cynlluniau sychder. Mae’n amlinellu arfer da wrth ddatblygu cynlluniau o safbwynt dulliau gweithredu, a’r wybodaeth y dylai’r cynllun ei chynnwys. Dylech ddilyn yr egwyddorion arweiniol hyn, law yn llaw â chanllaw technegol CNC, a sicrhau bod eich cynllun yn ymdrin â’r gofynion a nodir yn Neddf y Diwydiant Dŵr 1991, Rheoliadau Cynlluniau Sychder 2005 a Chyfarwyddyd Cynllun Sychder (Cymru) 2017 a gofynion statudol perthnasol eraill.
Mae’r Strategaeth Ddŵr i Gymru yn nodi’n glir y pwys y mae Llywodraeth Cymru’n ei roi ar fabwysiadu dull integredig a chynaliadwy o gynnal adnoddau dŵr cydnerth. Mae’n rhaid i gynlluniau sychder amlinellu sut y caiff cyflenwadau dŵr eu cynnal os bydd sychder. Dylech hefyd nodi sut mae eich cynllun yn helpu i ymateb i argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd, ac addasu i'r newid yn yr hinsawdd yw un o'i blaenoriaethau. Mae Adroddiad Cymru ar Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd y DU (CCRA3) a gyhoeddwyd yn 2021 yn tynnu sylw at newidiadau posibl i lawiad yn y dyfodol yng Nghymru, yn dibynnu ar y tymor. Disgwylir i lawiad yr haf ostwng tua 15% erbyn y 2050au. Mae hyn yn golygu y gall cyfnodau o brinder dŵr ddod yn fwy cyffredin o dan y senarios hyn, gan arwain at oblygiadau posibl ar gyfer y cyflenwad dŵr cyhoeddus a sectorau eraill fel amaethyddiaeth a diwydiant. Bydd hefyd yn lleihau adlenwi dŵr i'n hadnoddau dŵr tanddaearol yn ardaloedd Cymru lle mae'r rhain yn bwysig. Mae llifoedd afonydd yn yr haf yn debygol o fod yn is ac mae amodau sychder yn fwy tebygol o ddigwydd.
Disgwylir i chi ddeall pa mor agored i niwed yw eich system gyflenwi i risg sychder ac alinio â'r rhagdybiaethau a nodir yn eich Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr a senarios sychder mwy heriol ond credadwy. Mae'n rhaid i chi nodi maint a hyd sychder y mae eich cynllun sychder wedi'i brofi arno.
Dylech nodi a gweithredu mesurau i leihau'r galw a gwneud y gorau o'ch adnoddau cyn ceisio cymryd mesurau a allai fod yn fwy niweidiol i'r amgylchedd. Gall ymgyrchoedd effeithlonrwydd dŵr gwell, ataliaeth wirfoddol, cyfyngiadau dros dro i gwsmeriaid drwy osod gwaharddiadau dros dro ar ddefnyddio dŵr (TUBs), a gwaharddiadau ar ddefnydd anhanfodol (NEUBs) fod yn rhan o'r grŵp o gamau rheoli sychder y gallech eu cymryd i leihau'r galw o'r cychwyn ac yn ystod sychder. Rydym hefyd yn disgwyl i chi nodi yn eich cynllun, unrhyw fesurau i leihau'r galw y byddwch yn eu cymryd o ganlyniad i’r adegau pan fo’r galw ar ei uchaf sy'n gysylltiedig â thywydd poeth sych (tonnau gwres). Gall hyn ddigwydd pan fyddwch chi o fewn y cyfnod normal neu'n datblygu sychder, fodd bynnag, gall adegau pan fo’r galw ar ei uchaf achosi pryderon i'ch rhwydwaith cyflenwi, fel gwaith trin ar ei gapasiti a chynnydd o ran y pwysau ar ecosystemau dŵr croyw pan fo llif afonydd yn isel neu'n dirywio. Felly, dylech egluro unrhyw gamau y byddwch yn eu cymryd i leihau'r galw yn yr achosion hyn yn eich cynllun.
Mae pa mor aml y gosodir y cyfyngiadau yn cyfateb i lefelau gwasanaeth cwsmeriaid, a dylech feithrin cyswllt â'ch cwsmeriaid ar eu dewisiadau. Dylai'r lefelau gwasanaeth a gynlluniwyd fod yn unol â'ch Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr. Os bydd unrhyw newidiadau neu wahaniaethau o ran lefelau’r gwasanaeth dylech adolygu a diwygio’ch cynlluniau yn ôl y galw er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd.
Mae'n rhaid i chi nodi'r trwyddedau a'r cymeradwyaethau y gallai fod eu hangen arnoch er mwyn gweithredu eich mesurau rheoli sychder, y trafodaethau sydd wedi digwydd rhyngoch chi a chyrff sy'n gyfrifol am roi'r rhain, a'r trefniadau ar gyfer trafodaethau gyda chi a'r cyrff hynny o'r cychwyn, yn ystod ac ar ôl sychder ar gyfer pob sychder a gwmpesir gan eich cynllun.
Dylech gwblhau asesiadau amgylcheddol ar gyfer yr holl fesurau sychder ar yr ochr gyflenwi os ydych wedi nodi unrhyw rai yn eich cynllun ac unrhyw ofynion monitro. Rhaid i chi gynnwys unrhyw fesurau i liniaru ar unrhyw effeithiau andwyol ar eich mesurau rheoli sychder yn ogystal ag unrhyw ganiatadau a chymeradwyaethau sydd eu hangen.
Mae’n rhaid i’r wybodaeth ar gyfer unrhyw drwyddedau a gorchmynion sychder sydd wedi’i chynnwys yn y cynllun sychder fod mor agos â phosib at fod yn barod i gyflwyno’r cais, yn enwedig ar gyfer y safleoedd hynny y nodwyd eu bod yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd neu’r rhai y mae fwyaf tebygol y bydd eu hangen mewn sychder. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghanllaw Technegol Cynllun Sychder CNC.
Rhaid i chi hefyd nodi'r strwythur rheoli y byddwch yn ei roi ar waith yn ystod sychder sy'n dangos pwy sy'n gyfrifol am beth (yr hierarchiaeth gwneud penderfyniadau a'r rolau o fewn y strwythur hwnnw).
Mae’r Strategaeth Ddŵr i Gymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod rhoi pwyslais cryf ar y cwsmer yn ganolog i gyflenwi gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru. Mae hynny’n gofyn am ddealltwriaeth drylwyr o anghenion cwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol, ynghyd â llais cryf o ran cynrychioli’r defnyddwyr.
Dylech fynd ati i feithrin cyswllt â’ch cwsmeriaid, Cyngor Defnyddwyr Cymru (gan gynnwys eich strategaeth ymgysylltu ac ymgynghori arfaethedig), CNC a rheoleiddwyr perthnasol eraill drwy gyswllt uniongyrchol ac ymgynghori’n gynnar wrth ddatblygu’r cynllun a chynnal deialog barhaus drwy gydol y broses.
Mae penodiadau newydd ac amrywiadau (NAVs) a wneir o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (A7) yn galluogi Ofwat i ddisodli’r ymgymerwr cyflenwi dŵr neu garthffosiaeth penodedig ag un arall ar gyfer ardal benodol yn ardal trwydded yr ymgymerwr penodedig. Mae gan NAVs yr un dyletswyddau a chyfrifoldebau ag ymgymerwyr eraill i lunio cynlluniau sychder. Gall y rhain gynnwys mesurau ar gyfer lleihau'r galw a chwilio am gyflenwadau dŵr amgen yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar eu swmp-gyflenwr dŵr arferol.
Rhaid i Drwyddedeion Cyflenwi Dŵr a Charthffosiaeth (WSSLs) gyflawni cyfarwyddiadau rhesymol a roddir iddynt yn ystod sychder gan yr ymgymerwyr dŵr perthnasol fel y nodir yn eu cynllun sychder.
Os oes gennych NAV neu fanwerthwr dŵr yn eich ardal weithredu, dylai eich cynllun sychder nodi sut y byddwch yn meithrin cyswllt â hwy er mwyn iddynt lywio'r gwaith o baratoi eich cynllun, fel gwybodaeth sydd ei hangen arnoch chi oddi wrthynt. Dylech hefyd drafod trefniadau â hwy ar gyfer unrhyw gamau rheoli sychder (e.e. TUBs neu NEUBs) y gallai fod yn rhaid iddynt eu rhoi ar waith i'w cwsmeriaid yn ystod y sychder (sy'n cyd-fynd â'r rhai rydych chi'n eu cymryd).
Pan fyddwch yn NAVs sy’n gweithredu o dan gytundeb(au) swmp-gyflenwi gydag ymgymerwr arall neu ymgymerwyr eraill, gall rhai rhannau o’ch cynllun fod yn gymesur i adlewyrchu hyn. Dylech lunio cynllun sychder sy’n dangos bod yr holl ofynion statudol wedi’u bodloni, ond gall lefel y manylder yn y cynllun fod yn gymesur â’ch sylfaen cwsmeriaid a sut ydych yn cael eich cyflenwadau dŵr. Dylech amlinellu sut y byddwch yn meithrin cyswllt â’r cyflenwr i gynnal cyflenwadau dŵr, deall a oes unrhyw gyfyngiadau ar y cyflenwad, bwydo i mewn i waith i ddatblygu lefelau gwasanaeth arfaethedig y cyflenwyr ac ystyried data a gwybodaeth rhoddwyr/ymgymerwyr cyfagos wrth baratoi eich cynlluniau. Dylech drafod gofynion eich cynllun a’r hyn sy’n gymesur â CNC a rheoleiddwyr perthnasol eraill yn gynnar yn y broses.
2. Fframwaith deddfwriaethol
Amlinellir y gofynion deddfwriaethol i baratoi a chyhoeddi cynllun sychder o dan adran 39B a 39C o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991. Mae’r darpariaethau hyn yn amlinellu’r gweithdrefnau y mae’n rhaid eu dilyn wrth ddatblygu cynlluniau sychder.
Mae Rheoliadau Cynlluniau Sychder 2005 yn rhoi rhagor o fanylion am y broses, ac yn arbennig ynghylch:
- ymdrin â sylwadau a’r datganiad ymateb i sylwadau
- grym Gweinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad neu wrandawiad
- y gofynion o ran cyhoeddi’r cynllun.
Wrth baratoi a chyhoeddi cynllun sychder mae’n rhaid ichi hefyd ystyried deddfwriaeth gyfredol a pholisïau’r Llywodraeth sy’n cynnwys:
- Cyfarwyddyd Cynlluniau Sychder 2017 ac unrhyw Gyfarwyddyd arall neu ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru
- Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, a36
- Gorchymyn Defnyddio Dŵr (Gwaharddiadau Dros Dro) 2010
- Deddf Dŵr 2014, a28
- Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni 2004 – Asesiad Amgylcheddol Strategol
• Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017
• Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 - Y Gyfarwyddeb Cynefinoedd
- Y Gyfarwyddeb Dŵr Yfed
- Rheoliadau Llyswennod (Cymru a Lloegr) 2009
- Rheoliadau’r UE (1143/2014) ar rywogaethau estron (anfrodorol) goresgynnol (2015)
- Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
- Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000
- Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
- Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
- Strategaeth Ddŵr i Gymru (Llywodraeth Cymru 2015)
- Deddf yr Amgylchedd 2021
- Ffyniant i Bawb: Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd
- Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, rhan 5
Sylwer: nid yw hon o reidrwydd yn rhestr gyflawn.
Dylech sgrinio i benderfynu a oes angen cynnal Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd llawn ar eich cynllun sychder. Dylai’r rhain hefyd gynnwys unrhyw ofynion ychwanegol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (lle y bo hynny’n briodol). Dylid defnyddio casgliadau’r asesiadau amgylcheddol i lywio’r Asesiad Amgylcheddol Strategol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, fel y bo’n briodol.
Mae’n rhaid ichi gyflwyno eich cynllun sychder drafft i Weinidogion Cymru a CNC ac os yw eich ardal gyflenwi neu’ch camau rheoli sychder yn Lloegr hefyd neu’n effeithio ar rannau o Loegr, mae’n rhaid ichi ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Os bydd unrhyw gamau gweithredu yn effeithio ar safleoedd dynodedig yn Lloegr, rhaid i chi hefyd ei anfon i Natural England.
Mae’n rhaid ichi ymgynghori ar eich cynllun sychder a’i gyhoeddi, ynghyd â datganiad ymateb, yn ddwyieithog yn unol â’ch gofynion statudol o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
3. Swyddogaethau a chyfrifoldebau
3.1 Ymgymerwyr Dŵr
Dylech ddilyn y canllawiau a nodir yng Nghanllaw Technegol Cynllun Sychder Cwmnïau Dŵr a gyhoeddwyd gan CNC.
Dylech baratoi a chyhoeddi cynlluniau sychder a chynnwys eich cwsmeriaid ac ymgyngoreion statudol yn y broses. Mae’n rhaid ichi amlinellu’r camau gweithredol byrdymor y byddwch yn eu cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl cyfnod o sychder i gyflenwi dŵr i’ch cwsmeriaid, a sicrhau ar yr un pryd fod eich gweithredoedd yn cael cyn lleied o effeithiau negyddol â phosib.
Dylai'r wybodaeth y bydd gofyn i chi ei darparu o fewn y cynllun sychder fod yn gymesur â'ch maint, eich sylfaen cwsmeriaid, sut rydych chi'n cael eich cyflenwadau dŵr, ac effeithiau gweithredoedd ar yr amgylchedd neu eraill. Dylech ystyried data, gwybodaeth a chamau i reoli sychder gan roddwyr/cwmnïau cyfagos wrth baratoi eich cynllun sychder. Dylech drafod â CNC a rheoleiddwyr perthnasol eraill o ran y gofynion ar gyfer eich cynllun sychder yn gynnar yn y broses.
Gall trwyddedeion cyflenwi dŵr a charthffosiaeth (WSSLs) gyflenwi dŵr i gwsmeriaid annomestig mawr gan ddefnyddio rhwydweithiau cyflenwi dŵr cyhoeddus y prif ymgymerwr dŵr. Nid yw’n ofynnol i WSSLs (a elwir yn fanwerthwyr dŵr neu hunan-gyflenwyr) baratoi eu cynlluniau sychder eu hunain. Mae’n rhaid iddynt, o dan delerau amodau eu trwydded arbennig, ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol y mae’r ymgymerwyr yn gofyn amdani er mwyn llywio eu cynlluniau a rhoi mesurau rheoli sychder ar waith y mae’r prif ymgymerwr dŵr yn gofyn amdanynt.
I gael gwybod mwy am fathau o ymgymerwyr dŵr, ewch i wefan Ofwat: http://www.ofwat.gov.uk/regulated-companies/licences/
3.2 Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bolisi dŵr yng Nghymru ac mae’n darparu’r fframwaith statudol a’r canllawiau polisi ar gyfer cynlluniau sychder y mae ymgymerwyr yn eu dilyn.
Ar ôl cyhoeddi’r cynllun sychder drafft, mae grwpiau â buddiant yn anfon sylwadau at Weinidogion Cymru ac anfonir y sylwadau hynny ymlaen at yr ymgymerwr priodol a CNC.
Caiff Gweinidogion Cymru eich cyfarwyddo i wneud newidiadau neu gyhoeddi cynllun newydd.
Byddant yn ystyried y cynllun sychder drafft, y datganiad ymateb a chyngor gan CNC a rheoleiddwyr eraill er mwyn pennu a oes angen:
i) cynnal gwrandawiad cyhoeddus neu ymchwiliad
ii) eich cyfarwyddo i wneud newidiadau a chyhoeddi cynllun terfynol
iii) ail-wneud a chyhoeddi Cynllun Sychder newydd ac ymgynghori arno.
3.3 Ofwat
Ofwat yw rheoleiddiwr economaidd y diwydiant dŵr. Mae’n rhaid i Ofwat gyflawni ei swyddogaethau’n unol â’r Datganiad o Flaenoriaethau ac Amcanion Strategol a gaiff gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â chanllawiau statudol eraill ar faterion penodol megis codi tâl.
Mae adran 39B o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn ei gwneud yn ofynnol i chi ymgynghori ag Ofwat cyn paratoi eich cynllun sychder (cyfnod cyn-ymgynghori).
Unwaith y bydd y cynllun drafft wedi’i gyhoeddi, caiff Ofwat gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ar gynnwys y cynllun drafft.
Yn dilyn cyhoeddi'r datganiad ymateb, bydd Ofwat yn ymgysylltu â CNC a gall gyfrannu at eu cyngor i Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun terfynol.
3.4 Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
Mae CNC yn cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch y cynlluniau sychder pan fônt yn effeithio ar Gymru. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i CNC i roi sylw i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac i gymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy wrth arfer ei holl swyddogaethau. Bydd CNC yn darparu cyngor mewn modd a fydd yn cymhwyso’r egwyddorion hyn, sy’n cynnwys canlyniadau tymor byr, tymor canolig a hirdymor gweithredoedd, y gwasanaethau a ddarperir gan ecosystemau, cyfranogiad y cyhoedd a chydnerthedd ecosystemau.
Mae CNC yn cyhoeddi Canllaw Technegol Cynllun Rheoli Sychder Cwmni Dŵr i chi ei ddilyn wrth ddatblygu a chyflwyno eich cynllun sychder. Mae’n rhaid ichi ymgynghori â hwy cyn paratoi eich cynllun sychder. Byddant yn darparu cyngor ichi drwy gydol y broses gynllunio i’ch helpu i ddeall yr hyn y mae angen ichi ei wneud er mwyn cydymffurfio â’u canllawiau a’r egwyddorion arweiniol hyn a’r gofynion deddfwriaethol perthnasol.
Bydd CNC yn cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru a chi ynghylch cynnwys y cynllun sychder drafft yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw feysydd sy’n destun pryder, ac yn darparu cyfarwyddiadau penodol, lle y bo modd, er mwyn i chi fynd i’r afael â’r rhain drwy eich datganiad ymateb priodol.
Rydym yn disgwyl ichi lunio cynllun sychder drafft diwygiedig i gyd-fynd â’ch datganiad ymateb. Dylai’r datganiad ymateb esbonio’n glir y newidiadau rydych wedi’u gwneud i’ch cynllun sychder drafft. Pan fydd y datganiad ymateb wedi’i gyhoeddi, bydd CNC, gyda mewnbwn gan reoleiddwyr perthnasol eraill yn rhoi cyngor technegol i Weinidogion Cymru i’w helpu i benderfynu ar y camau nesaf. Caiff y cyngor hwn ei rannu â DEFRA os yw’n effeithio ar Loegr.
Mae’n debyg y bydd y cyngor yn cynnwys:
- a yw’ch cynllun yn bodloni’r gofynion statudol
- a ydych wedi ymdrin yn briodol â’r sylwadau a ddaeth i law ac os nad ydych, yn cyfiawnhau pam hynny
- a yw’r newidiadau a gynigir i’ch cynllun a esboniwyd yn y datganiad ymateb (neu a wnaed mewn cynllun diwygiedig) yn sylweddol wahanol i’r drafft y gwnaethoch chi ymgynghori arno
- gwelliannau y mae CNC a rheoleiddwyr eraill yn cynghori y dylid eu gwneud i’r cynllun terfynol.
Gallwch ofyn i CNC am help i ymateb i unrhyw gais gan Lywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth. Efallai y gofynnir i CNC roi cyngor i Weinidogion unwaith y bydd yr wybodaeth ychwanegol yn cael ei chyflwyno.
Os bydd eich cynllun sychder drafft yn mynd i wrandawiad neu ymchwiliad, bydd CNC yn brif barti i'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad a bydd yn cyflwyno polisi'r Llywodraeth a safbwyntiau deddfwriaethol. Mae gwrandawiadau ac ymchwiliadau’n gyfle i faterion dadleuol gael eu hystyried gan arolygydd.
Pan fydd Llywodraeth Cymru’n ystyried a ddylech gyhoeddi eich cynllun sychder terfynol, bydd CNC yn rhoi gwybod a yw’n bodloni unrhyw gyfarwyddydau neu ganllawiau pellach a wnaed gan Weinidogion.
3.5 Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr
Dylai ffocws cryf ar ddefnyddwyr fod wrth wraidd y gwaith o ddarparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru. Mae hyn yn gofyn am ddealltwriaeth gadarn o anghenion defnyddwyr nawr ac yn y dyfodol, a llais cryf i gynrychioli defnyddwyr. Dylech gysylltu ac ymgynghori â'ch cwsmeriaid a’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn gynnar yn y broses o ddatblygu eich cynllun sychder fel rhan o'ch deialog barhaus gyda'ch cwsmeriaid. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd gan rai cwsmeriaid farn am lefelau’r gwasanaeth (o safbwynt pa mor aml y ceir cyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr).
3.6 Asiantaeth yr Amgylchedd, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a Natural England
Dylech gysylltu â’r sefydliadau hyn ynghylch unrhyw ran o’ch cynllun sychder sydd yn Lloegr neu’n effeithio ar Loegr. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a DEFRA ill dau’n ymgyngoreion statudol.
Mae Natural England yn gyfrifol am warchod cynefinoedd, rhywogaethau ac ecosystemau sy’n dibynnu ar ddŵr, ac yn arbennig felly safleoedd Ewropeaidd, safleoedd Ramsar a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn Lloegr. Caiff Asiantaeth yr Amgylchedd a Natural England wneud sylwadau ar rannau Lloegr o gynlluniau drafft. Unwaith y cyhoeddir y datganiad ymateb, gallant ddewis gwneud sylwadau ar faterion sy'n effeithio ar Loegr i Lywodraeth Cymru drwy gyngor CNC.
4. Diogelwch gwladol a chyfrinachedd masnachol
Gall cynlluniau sychder gynnwys gwybodaeth y gellid ei hystyried yn sensitif ar sail diogelwch gwladol.
Wrth gyflwyno eich cynllun drafft i Weinidogion Cymru er mwyn cael cytundeb i gyhoeddi at ddibenion ymgynghori, dylech gyhoeddi datganiad gan eich Rheolwr Diogelwch, yn tystio bod y cynllun wedi’i adolygu ac nad yw’n cynnwys gwybodaeth a fyddai’n peryglu buddiannau diogelwch gwladol. Mae’n rhaid i’r datganiad hefyd nodi a yw’r cynllun yn cynnwys gwybodaeth y gellid ei hystyried yn fasnachol gyfrinachol. Lle y bo gwybodaeth wedi ei dileu yn y broses olygu, dylech nodi beth yw natur yr wybodaeth sydd wedi’i dileu.
Gall Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo ymgymerwr i hepgor o’i gynlluniau unrhyw wybodaeth a fyddai’n groes i fuddiannau diogelwch gwladol neu y gellid ei hystyried yn fasnachol gyfrinachol. (Adran 37B(10)(a) a (b) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003) a Deddf yr Amgylchedd 2021.
Mae Canllaw Technegol Cynllun Sychder Cwmnïau Dŵr CNC yn atodol i’r egwyddorion arweiniol hyn ac yn ymdrin â rhai meysydd sy’n sensitif a bydd angen ichi benderfynu a ddylid eu hepgor o fersiwn gyhoeddus y cynllun sychder.
5. Sut i ddatblygu cynllun sychder
Crynodeb o’r broses statudol ar gyfer datblygu cynllun sychder
1. Paratoi i ymgynghori (Ymgymerwyr dŵr)
Ymgynghori cyn y cynllun drafft
2. Ymgynghori cyn paratoi’r cynlluniau drafft (Ymgymerwyr dŵr)
Paratoi’r cynllun drafft
3. Paratoi’r cynlluniau drafft yn unol â Chyfarwyddyd yr YG/GC a chanllawiau (Ymgymerwyr dŵr)
4. Cyflwyno’r cynlluniau drafft i Weinidogion Cymru (Ymgymerwyr dŵr)
Proses diogelwch gwladol a chyfrinachedd masnachol
5. Gwirio’r cynlluniau am wybodaeth sy’n groes i ddiogelwch gwladol a/neu gyfrinachedd masnachol a hysbysu partïon y mae eu gwybodaeth wedi’i chynnwys yn y cynlluniau drafft (Gweinidogion Cymru)
6. Cyflwyno sylwadau ar unrhyw wrthwynebiad i Weinidogion Cymru ynghylch cynnwys data sy’n fasnachol sensitif yn ôl y galw (Ymgymerwyr dŵr a thrydydd partïon)
7. Asesu’r sylwadau a hysbysu ymgymerwyr dŵr am benderfyniadau a wneir o ran cyfrinachedd masnachol a diogelwch gwladol (Gweinidogion Cymru)
Cyhoeddi’r cynllun drafft
8. Cyhoeddi a dosbarthu’r cynlluniau drafft yn unol â’r Cyfarwyddyd (Ymgymerwyr dŵr)
Sylwadau ar y cynlluniau drafft
9. Cyfnod o gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru (Ymgymerwyr dŵr)
10. Sylwadau’n dod i law a’u hanfon at yr ymgymerwyr dŵr (Gweinidogion Cymru)
11. Asesu’r sylwadau a llunio datganiad ymateb (Ymgymerwyr dŵr)
Diwygio’r cynllun (yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion
Cymru)
12. Cael cyngor ac asesu a oes angen gwrandawiad / ymchwiliad ar y cynlluniau drafft (Gweinidogion Cymru)
13. Cyfarwyddo ymgymerwyr i ddiwygio’r cynlluniau os oes angen (Gweinidogion Cymru)
14. Gwrthwynebu’r Cyfarwyddyd ar sail cyfrinachedd masnachol (Ymgymerwyr dŵr)
15. Cadarnhau’r Cyfarwyddyd neu gyhoeddi Cyfarwyddyd newydd (Gweinidogion Cymru)
16. Paratoi’r cynlluniau terfynol (Ymgymerwyr dŵr)
17. Gwirio’r cynlluniau terfynol yn erbyn y Cyfarwyddyd Sychder (Cyfoeth Naturiol Cymru)
Cyhoeddi’r cynllun terfynol
18. Cyhoeddi’r cynlluniau terfynol (Ymgymerwyr dŵr)
19. Adolygu’r cynlluniau sychder drwy adolygiad blynyddol y Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr (Ymgymerwyr dŵr)
6. Cyswllt cynnar cyn cyhoeddi’r cynllun drafft
6.1 Cyswllt Mewn Modd Blaengar
Mae meithrin cyswllt mewn modd blaengar yn elfen bwysig o broses paratoi’r cynllun sychder drafft. Cyn ysgrifennu cynllun drafft, mae’n rhaid ichi gynnal trafodaethau cyn ymgynghori â’r ymgyngoreion statudol isod:
- Cyfoeth Naturiol Cymru a Gweinidogion Cymru
- Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig os yw’r cynllun yn effeithio ar safleoedd neu gwsmeriaid yn Lloegr
- Ofwat
- deiliaid trwyddedau cyflenwi dŵr sy’n cyflenwi dŵr i safleoedd yn eu hardal weithredu drwy system gyflenwi’r ymgymerwr.
Wrth benderfynu a oes angen paratoi Asesiad Amgylcheddol Strategol, mae’n rhaid i ymgymerwyr ymgynghori â CNC a Cadw. Os yw’r cynllun yn debygol o effeithio ar rannau o Loegr, mae’n rhaid ichi hefyd ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd.
Os yw’r cynllun yn debygol o effeithio ar safle cadwraeth dynodedig, mae’n rhaid ichi benderfynu a oes angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac ymgynghori â CNC a/neu Natural England (fel y bo’n berthnasol) cyn gynted â phosib. Dylech hefyd ystyried a yw eich cynllun yn debygol o effeithio ar unrhyw safleoedd bywyd gwyllt lleol sydd wedi’u dynodi gan yr awdurdod lleol ac ymgynghori â rheolwyr y safleoedd hynny.
Mae safleoedd dynodedig yn cynnwys:
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (gan gynnwys safleoedd ymgeisiol)
- Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (gan gynnwys ardaloedd posib)
- Safleoedd Ramsar (gan gynnwys safleoedd arfaethedig)
- Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
- Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
- Gwarchodfeydd Natur Lleol (dylid cysylltu â chynghorau lleol)
- safleoedd bywyd gwyllt lleol (dylid cysylltu â chynghorau lleol neu ymddiriedolaethau bywyd gwyllt)
- Parthau Cadwraeth Morol
- tirweddau gan gynnwys safleoedd Treftadaeth y Byd, Confensiwn Tirweddau Ewropeaidd, Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
6.2 Meithrin cyswllt yn gynnar â chwsmeriaid a phartïon eraill â buddiant
Yn ystod y broses o baratoi'r cynllun, dylech sicrhau bod barn cwsmeriaid yn cael ei hystyried yn briodol yn enwedig ar lefelau gwasanaeth.
Dylech ymgynghori mor eang â phosib ynghylch paratoi eich cynllun. Dylech feithrin cyswllt yn gynnar â’ch cwsmeriaid a phartïon eraill â buddiant a meithrin cyswllt cyn ymgynghori ag ymgyngoreion eraill, er enghraifft:
- unrhyw gyflenwyr dŵr y mae eich system gyflenwi’n effeithio arnynt
- unrhyw ymgymerwyr y mae ganddynt gytundebau swmp-gyflenwi neu rannu adnoddau â hwy
- ymgymerwyr cyfagos a grwpiau rhanbarthol (os yw’n berthnasol)
- Cyngor Defnyddwyr Cymru
- Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill
- grwpiau cwsmeriaid
- Grŵp Cyswllt Sychder Cymru neu grwpiau cyfatebol
- unrhyw grwpiau neu sefydliadau eraill y mae’r cynllun yn debygol o effeithio arnynt (e.e. gweithredwyr pwerdai neu’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd)
Dylai gwaith i feithrin cyswllt â chwsmeriaid a rhanddeiliaid ynghylch y cynllun sychder gyd-fynd, cyhyd ag y bo modd, â gwaith i feithrin cyswllt ynghylch eich Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr a’ch cynllun busnes.
6.3 Beth i’w drafod
Dylech drafod:
- argymhellion blaenorol gan ymgyngoreion statudol yn y cynllun diwethaf
- unrhyw raglenni gwaith parhaus, megis cwblhau asesiadau amgylcheddol a gofynion Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- barn cwsmeriaid, ymgyngoreion statudol a phartïon eraill â buddiant am yr hyn rydych yn bwriadu ei gynnwys yn eich cynllun newydd
- yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud yn wahanol i’r cynllun sychder cyfredol
- naratif clir ynghylch yr hyn nad yw’n cael ei gynnwys a pham
- unrhyw gyngor a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
- gwersi yr ydych wedi’u dysgu o unrhyw brofiadau diweddar o sychder
Dylech ddefnyddio’r cyfnod datblygu cynnar hwn i drafod eich dulliau a’ch ffyrdd o weithredu, gyda CNC a/neu Asiantaeth yr Amgylchedd/Natural England (fel y bo’n berthnasol). Bydd y drafodaeth hon yn caniatáu deialog strwythuredig rhwng yr ymgymerwr a’r rheoleiddwyr, a ddylai leihau’r angen i gael eglurhad pellach ar gynnwys eich cynllun yn nes ymlaen yn y broses.
Dylech ymgynghori â CNC a Llywodraeth Cymru ynghylch sut y mae eich cynllun sychder yn helpu i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru a adlewyrchir yn y saith nod llesiant a ddarperir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, oherwydd bydd disgwyl iddynt gynorthwyo sefydliadau eraill i gyflawni eu gofynion statudol o dan y Ddeddf honno. Dylech hefyd drafod sut y bydd y cynllun yn helpu i gyflawni eu dyletswyddau penodol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Dylech ddechrau’r trafodaethau hyn cyn gynted â phosib ac nid oes cyfyngiad ar ba mor bell ymlaen llaw yr ydych yn cynnal y trafodaethau hyn. Lle bo'n bosibl, dylech rannu gwybodaeth sy'n rhan o'r cynllun ac unrhyw asesiadau amgylcheddol sydd wedi'u cwblhau cyn cyflwyno'r cais. Gall CNC a rheoleiddwyr eraill gynnig sylwadau ar y dull a ddefnyddiwyd ond ni fyddant yn gwneud penderfyniad terfynol ar unrhyw rannau o’r cynllun drafft cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus oherwydd bydd angen iddynt asesu’r cynllun yn ei gyfanrwydd ynghyd ag Asesiad Amgylcheddol Statudol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (os oes angen) a chynnig cyngor diduedd i Lywodraeth Cymru.
Dylech geisio barn gychwynnol ynghylch cyfyngiadau dros dro ar ddefnyddio dŵr gan ymgyngoreion statudol, Cyngor Defnyddwyr Cymru, eich cwsmeriaid a grwpiau â buddiant (fel Grŵp Cyswllt Sychder Cymru), wrth baratoi eich cynllun drafft. Gallant roi eu barn ichi ar y blaenoriaethau, dilyniannu ac eithriadau posib i unrhyw gyfyngiadau. Gallant hefyd roi cyngor ynghylch cyfathrebu mewn cyfnod o sychder ynglŷn â chyfyngiadau, cyfnodau rhybudd a sut y byddai’r cwsmeriaid am i sylwadau gael eu trin. Gallai hyn eich helpu i nodi buddiannau a materion y gallwch roi ystyriaeth iddynt wrth baratoi eich cynlluniau drafft at ddibenion ymgynghori’n llawn.
Dylech hefyd gyfeirio at arferion da Ymchwil Diwydiant Dŵr y DU (WIR) ar gyfer cyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr.
7. Paratoi’r cynllun sychder drafft
Mae hyn yn darparu amserlen ddangosol ar gyfer y camau allweddol
7.1 Y Cynllun Drafft
Dylai eich cynllun drafft ddefnyddio’r adborth a gafwyd drwy feithrin cyswllt â’r ymgyngoreion statudol a’r rhanddeiliaid. Mae’n rhaid i chi ddilyn unrhyw gyfarwyddydau a geir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â chynnwys eich cynllun drafft yn ogystal â rheoliadau a deddfwriaeth eraill sy’n berthnasol. Mae’n bosib y cewch ragor o gyfarwyddydau neu ganllawiau drwy gydol y broses.
I gyd-fynd â’ch cynllun drafft dylid cyhoeddi crynodeb annhechnegol hawdd ei ddarllen sy’n helpu i ddod â’ch cynllun drafft a chynlluniau cysylltiedig eraill, megis eich Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr a’ch cynllun busnes, at ei gilydd. Byddai hyn yn mynd law yn llaw â dogfen dechnegol fwy manwl y bydd rheoleiddwyr a phartïon â buddiant yn ei hadolygu er mwyn deall sut ydych yn bwriadu rheoli sychder. Gallwch hefyd ddarparu gwybodaeth ategol mewn atodiadau.
Dylai’ch cynllun drafft fod mor agos ag y bo modd at y cynllun terfynol, gyda chyn lleied o newidiadau â phosib rhwng y ddau. Pan fo angen gwneud newidiadau, dylid eu hesbonio’n glir ac yn llawn yn y datganiad ymateb.
Bydd cysylltiadau rhwng y cynllun sychder a chynlluniau eraill a dylai fod yn gyson â hwy. Mae’n rhaid ichi ddangos cysylltiad â’r canlynol:
- Y Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr
- Cynlluniau busnes ac argyfwng
- Cynlluniau sychder CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd (fel y bo’n briodol)
- Cynlluniau sychder ymgymerwyr eraill (fel y bo’n briodol)
- Datganiadau Ardal
- Cynlluniau Llesiant Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
- Cynlluniau rheoli basnau afonydd
7.2 Cyflwyno’r cynllun sychder drafft i Weinidogion Cymru (Tachwedd 2024)
Bydd Gweinidogion Cymru’n pennu’r dyddiad olaf y caiff ymgymerwyr gyflwyno’r cynllun drafft. Os yw’r cynllun hefyd yn effeithio ar safleoedd a/neu gwsmeriaid yn Lloegr, mae’n rhaid i ymgymerwyr ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol yn ogystal â Gweinidogion Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi cyfarwyddiadau ynghylch cyflwyno copïau electronig o’r cynllun. Os yw hynny’n berthnasol, bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi cyfarwyddiadau i ymgymerwyr ynghylch anfon copïau electronig o’u cynllun at yr Ysgrifennydd Gwladol drwy safle trosglwyddo diogel. Bydd angen i chi rannu copi o'r cyflwyniad gyda CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd (a Natural England) os yw'n effeithio ar Loegr. Byddant yn cysylltu â chi gyda manylion am sut i gyflwyno copi iddynt yn electronig.
Pan fyddwch yn cyflwyno’ch cynllun drafft i Weinidogion Cymru er mwyn cael cytundeb i’w gyhoeddi at ddibenion ymgynghori dylech sicrhau ei fod yn:
- Cyflwyno datganiad gan eich rheolwr diogelwch, yn tystio bod y cynllun wedi ei adolygu ac nad yw’n cynnwys gwybodaeth a fyddai’n peryglu buddiannau diogelwch gwladol. Mae’n rhaid i’r datganiad hefyd ddweud a yw’r cynllun yn cynnwys gwybodaeth y gellid ei hystyried yn fasnachol gyfrinachol.
- Tynnu sylw at yr wybodaeth yr ydych yn bwriadu ei golygu neu ei dileu yn y fersiwn sydd i’w chyhoeddi, er mwyn i Weinidogion Cymru allu cadarnhau a oes angen cael gwared arni ar sail diogelwch gwladol.
- Os ydych yn credu na ddylid cyhoeddi unrhyw ran o’r cynllun drafft neu ei atodiadau am ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy’n fasnachol sensitif, mae’n rhaid ichi ddweud hynny wrth Weinidogion Cymru pan gyflwynir y cynllun drafft.
7.3 Cyhoeddi ac ymgynghori ar y cynllun sychder drafft (Ionawr 2025)
Bydd Gweinidogion Cymru’n dweud wrthoch chi pryd i gyhoeddi eich cynllun sychder drafft at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus. Mae’n rhaid ichi sicrhau ei fod ar gael ar eich gwefan ac ar bapur yn un o’ch prif swyddfeydd. Mae’n rhaid ichi anfon copïau electronig o’r cynllun drafft a’i atodiadau at yr holl ymgyngoreion a restrir yn Rheoliadau Cynlluniau Sychder 2005 ac at bob sefydliad arall sy’n rhan o’r trafodaethau cyn ymgynghori gan gynnwys CNC a/neu Asiantaeth yr Amgylchedd (fel y bo’n briodol). Mae’n rhaid ichi hefyd gyhoeddi datganiad gyda’r cynllun drafft sy’n:
- nodi a ydych wedi hepgor unrhyw wybodaeth sy’n fasnachol gyfrinachol neu sensitif ar fersiwn y cynllun sydd ar y wefan
- disgrifio’r broses ar gyfer cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r cynllun drafft i Weinidogion Cymru
- nodi erbyn pryd y mae’n rhaid i’r sylwadau ddod i law ac i ble y dylid eu hanfon
Fel mater o arfer da dylech ystyried:
- cynnig esbonio’r cynllun drafft i grwpiau sefydledig, partïon â buddiant y gwyddys amdanynt neu ymgymerwyr yn eu hardal
- defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at yr ymgynghoriad
Bydd y dull gweithredu rydych chi’n ei ddefnyddio yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’r materion rydych yn eu hwynebu yn y dyfodol.
Bydd gennych 15 wythnos o’i ddyddiad cyhoeddi (oni nodir yn wahanol mewn Cyfarwyddyd gweinidogol newydd) i ymgynghori ar eich cynllun drafft a llunio datganiad ymateb. Eich cyfrifoldeb chi fydd penderfynu am ba hyd y cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus. Er hynny, rydym yn argymell cyfnod o 8 wythnos o leiaf, fel y bu’n arferol ar gyfer cynlluniau blaenorol.
Dylech ganiatáu digon o amser:
- i’r ymgyngoreion wneud sylwadau ar y cynllun – dylid rhoi mwy o amser i gynlluniau drafft mwy cymhleth
- i lunio datganiad ymateb ar sail y sylwadau a ddaw i law
Mae’n rhaid i’r ymgynghoriad nodi’n glir y dylid anfon pob ymateb at Weinidogion Cymru, yn y cyfeiriad e-bost neu bost isod:
Cangen Ddŵr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
WaterEPC@gov.wales
Bydd Gweinidogion Cymru’n anfon copïau o unrhyw sylwadau a ddaw i law atoch ac at CNC i’w hadolygu, yn rhinwedd ei swyddogaeth reoleiddio fel cynghorydd technegol i Lywodraeth Cymru. Bydd CNC yn gofyn am gyfraniad gan Ofwat, Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Natural England pan fo sylwadau'n effeithio ar Loegr.
7.4 Cyhoeddi datganiad ymateb ymhen 15 wythnos ar ôl cyhoeddi’r cynllun drafft
Mae’n rhaid ichi lunio a chyhoeddi datganiad ymateb ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad cyhoeddus (ymhen 15 wythnos ar ôl cyhoeddi eich cynllun drafft oni nodir yn wahanol mewn Cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru). Mae’n rhaid sicrhau bod y datganiad ymateb yn:
- dangos eich bod wedi ystyried y sylwadau a ddaeth i law
- nodi’n glir ac yn llawn unrhyw newidiadau yr ydych wedi’u gwneud i’r cynllun drafft (gan gynnwys yn sgil y sylwadau a ddaeth i law) a’r rhesymau dros eu gwneud
- dweud os nad ydych wedi gwneud newidiadau yn sgil sylwadau a ddaeth i law
Dylech benderfynu a yw’r datganiad ymateb ar ei ben ei hun yn galluogi pobl i ddeall yn glir ac yn rhwydd y newidiadau yr ydych wedi eu gwneud. Os oes nifer o newidiadau, rydym yn disgwyl i chi gyhoeddi cynllun diwygiedig ochr yn ochr ag ef yn amlygu’r newidiadau.
Mae’n rhaid ichi gyhoeddi datganiad ymateb yn unol â’r Cyfarwyddyd ar gynlluniau sychder a’r Rheoliadau, a dweud wrth y rhai sydd wedi cyflwyno sylwadau eich bod wedi ei gyhoeddi.
Ar ôl cwblhau’ch datganiad ymateb mae’n rhaid ichi ei anfon at Weinidogion Cymru ynghyd â’ch cynllun diwygiedig (os ydych wedi paratoi un), ac unrhyw wybodaeth arall y gofynnwyd ichi neu y cynghorwyd ichi ei hanfon gan CNC ac unrhyw reoleiddwyr perthnasol eraill. Mae’n rhaid ichi roi gwybod i’r Gweinidogion am unrhyw wybodaeth bellach a allai fod yn fasnachol gyfrinachol, neu sydd wedi ei dileu, neu y maent o’r farn y dylid ei dileu, ar sail diogelwch gwladol.
Bydd Llywodraeth Cymru’n adolygu’r cynllun diwygiedig (os oes un wedi’i baratoi), y sylwadau a wnaed a’r datganiad ymateb, ynghyd â chyngor technegol gan CNC. Mae’n bosib y bydd angen cynnal gwrandawiad cyhoeddus, ymchwiliad neu archwiliad cyhoeddus os oes materion ynghylch eich cynllun drafft sydd heb eu datrys. Bydd Llywodraeth Cymru’n penderfynu ac yn rhoi gwybod ichi a oes angen cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad.
7.5 Paratoi a chyhoeddi’r cynllun sychder terfynol (Haf 2025)
Mae’n rhaid i chi baratoi cynllun sychder terfynol (“cynllun terfynol”) a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru a CNC (a hefyd Asiantaeth yr Amgylchedd os yw’n effeithio ar Loegr). Bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi gwybod ichi beth yw’r amserlen ar gyfer cyflwyno’r cynllun ac unrhyw newidiadau (drwy Gyfarwyddyd) y mae angen eu gwneud i’r cynllun yn sgil y sylwadau a ddaeth i law, y datganiad ymateb a chanlyniad unrhyw wrandawiadau neu ymchwiliadau.
Dylech gyhoeddi eich cynllun terfynol pan gewch gadarnhad gan Weinidogion Cymru eu bod yn fodlon iddo gael ei gyhoeddi. Bydd CNC yn gwirio’r cynllun terfynol a gyflwynwyd cyn ei gyhoeddi ac yn cynghori Gweinidogion Cymru a oes angen newid unrhyw beth arall. Felly, cyn cyhoeddi eich cynllun terfynol mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod yn:
- dilyn unrhyw Gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru
- neilltuo digon o amser i wneud y gwiriadau terfynol
Mae’n rhaid ichi gyhoeddi’r cynllun terfynol ar eich gwefan ac yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Sychder 2005 ac anfon copïau electronig o’r cynllun terfynol at CNC a phawb yr ymgynghorwyd â hwy. Os yw’r cynllun yn effeithio ar Loegr, dylech anfon copïau at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac Asiantaeth yr Amgylchedd/Natural England.
Dylech hefyd sicrhau:
- bod copïau papur ar gael yn eich prif swyddfa
- eich bod yn hysbysebu’r ffaith bod copïau papur ar gael ar eich gwefan
- eich bod yn tynnu sylw unrhyw un arall y mae’n debygol o effeithio arnynt at y cynllun
8. Adolygu a diwygio cynlluniau sychder
Dylech adolygu eich cynllun sychder bob blwyddyn, p’un a gafwyd sychder ai peidio. Dylech hefyd adolygu eich asesiadau amgylcheddol a’ch cynlluniau monitro amgylcheddol (os oes rhai gennych) er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl gyfoes ac yn cynnwys unrhyw ddata neu wybodaeth newydd a ddaeth i law ers yr adolygiad diwethaf. Argymhellir cynnal yr adolygiad hwn fel rhan o broses adolygu flynyddol eich Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr. Dylech roi trosolwg o:
- unrhyw wersi a ddysgwyd drwy brofiad neu ymarferion sychder diweddar ac a yw hyn yn effeithio ar y cynllun
- unrhyw newidiadau i'r wybodaeth yn y cynllun megis cromliniau rheoli neu fesurau rheoli sychder newydd
- cynnydd ar unrhyw raglenni gwaith y cytunwyd arnynt gyda rheoleiddwyr, gan gynnwys asesiadau amgylcheddol neu Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd
Mae CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn cyhoeddi canllawiau adolygu blynyddol ar y cyd ar gyfer Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr a fydd yn cynnwys yr hyn sy'n ofynnol o ran adolygu eich cynllun sychder.
Mae’n rhaid ichi ddiwygio eich cynllun sychder:
- pan fo newid perthnasol i amgylchiadau wedi’i bennu gennych neu Weinidogion Cymru
- pan fo profiad yn ystod cyfnod o sychder wedi datgelu bod gwybodaeth anghywir yn eich cynllun
- os cewch gyfarwyddyd i wneud hynny gan Weinidogion Cymru
- p’un bynnag, heb fod yn fwy na 5 mlynedd ar ôl cyhoeddi eich cynllun blaenorol
Mae’n rhaid ichi ymgynghori â Gweinidogion Cymru a CNC ynghylch unrhyw newidiadau perthnasol yr ydych am eu gwneud i’ch cynllun. Mewn rhai achosion, os bernir bod y newidiadau’n ‘berthnasol’, mae’n bosib y bydd yn rhaid ichi ddiwygio’r cynllun a chynnal ymgynghoriad o’r newydd arno. Bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi gwybod ichi beth yw’r broses os oes angen gwneud hyn.
Dylech hefyd gynnal ymarferion o bryd i’w gilydd i brofi eich cynllun sychder os oes cyfnod o amser pan nad ydych wedi dod ar draws amodau sychder ac wedi cael cyfle i ddefnyddio eich cynllun sychder.