Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, gallaf adrodd i'r Aelodau fy mod yn bresennol yn y Grŵp Masnach Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a’r UE ar 3 Rhagfyr. 

Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod roedd:

  • Nick Thomas-Symonds, Tâl-feistr Cyffredinol a Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet (Y Gweinidog dros y Cyfansoddiad a Chysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd).
  • Angus Robertson, Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant.
  • Michelle O'Neill, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon ac Emma Little-Pengelly, Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon.

Mae'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE yn darparu fforwm gweinidogol i drafod materion sy'n ymwneud ag ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd a'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA). Yn y cyfarfod hwn buom yn trafod y gwaith ar ailosod y berthynas rhwng y DU a'r UE.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.