Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Ar 19 Rhagfyr 2024 cwblhaodd Ofwat, rheoleiddiwr annibynnol y diwydiant dŵr, ei adolygiad statudol o brisiau dŵr ar gyfer y cyfnod rheoleiddio nesaf, sef 2025 – 2030. Mae wedi cyhoeddi ei benderfyniad terfynol ynghylch cynlluniau busnes cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr, sy'n nodi'r buddsoddiadau sydd eu hangen a sut y bydd cwmnïau dŵr yn ariannu'r rhain yn ystod y pum mlynedd nesaf. Maent ar gael yma.
Bydd penderfyniadau terfynol Ofwat yn arwain at raglen fuddsoddi o fwy na £6 biliwn yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn glir, fodd bynnag, gydag Ofwat a'r cwmnïau dŵr yng Nghymru, fod cwsmeriaid yn disgwyl gweld gwelliant gwirioneddol mewn gwasanaethau, seilwaith a chanlyniadau amgylcheddol cyn gynted â phosibl. Mae Ofwat wedi ymrwymo i ragor o graffu ar gwmnïau dŵr wrth iddynt gyflawni'r cynlluniau hyn, ac os nad yw perfformiad y cwmnïau dŵr yn dderbyniol dylai'r arian gael ei ddychwelyd i dalwyr biliau dŵr. Rwy’n disgwyl i Ofwat a Chyfoeth Naturiol Cymru ddwyn y cwmnïau dŵr i gyfrif ac adolygu eu cynnydd wrth iddynt gyflawni eu hymrwymiadau yn barhaus. Mae cydbwyso’r angen am fuddsoddi â chynnal fforddiadwyedd dŵr yn dasg allweddol i Ofwat. Drwy’r broses Adolygu Prisiau hon mae Ofwat wedi nodi y bydd rhaid i gwmnïau wella lefelau gwasanaeth, a buddsoddi er mwyn sicrhau bod asedau dŵr a dŵr gwastraff sy’n heneiddio’n gadarn er mwyn ymdopi â newid yn yr hinsawdd a lleihau effeithiau amgylcheddol.
Rwy'n cydnabod bod hyn yn dod ar adeg anodd, a bod perfformiad y sector dŵr cyfan, yn briodol, o dan graffu cynyddol. Yn ein Datganiad Blaenoriaethau ac Amcanion Strategol mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn glir ein bod yn disgwyl i Ofwat ystyried fforddiadwyedd ar gyfer pob cwsmer, ac yn benodol ar gyfer cwsmeriaid sy’n cael trafferth talu eu biliau, yn rhan o’i waith rheoleiddio. Byddwn yn parhau i fonitro hyn yn agos. Rwyf am ganolbwyntio ar sicrhau bod y mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn derbyn cymorth i dalu eu biliau os oes angen hynny arnynt, ac rwy’n croesawu’r ffaith bod cwmnïau dŵr Cymru wedi ymrwymo i gynyddu lefel y cymorth sydd ar gael i gwsmeriaid sy’n wynebu anawsterau. Mae rhagor o wybodaeth am gymorth a chefnogaeth ar gael drwy Advicelink Cymru ar 0808 250 5700
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad i sicrhau bod gan yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf. Pe bai’r Aelodau’n dymuno imi wneud datganiad pellach er mwyn ateb cwestiynau pan fydd y Senedd yn dod yn ôl byddwn i’n hapus i wneud hynny.