Neidio i'r prif gynnwy

Bydd 15 grŵp cymunedol yn cael hyd at £10,000 yr un i droi eu syniadau yn brosiectau hyfyw i gynnal y Gymraeg yn eu cymunedau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers ei sefydlu yn 2022, mae Perthyn, cynllun grantiau bach Llywodraeth Cymru wedi helpu 62 o brosiectau cymunedol.

Mae tref Llanrwst wedi sicrhau grant gwerth hyd at £10,000 i helpu'r gymuned leol i brynu Bys a Bawd, y siop lyfrau sydd wedi gwasanaethu'r gymuned ers 50 o flynyddoedd. Mae'r Gymraeg wedi bod yn ganolog i'r busnes, ac yn awr, mae'r gymuned yn bwriadu prynu a thrawsnewid y gofod yn ganolfan lenyddol.

Nod Perthyn yw helpu cymunedau Cymraeg sydd â niferoedd uchel o ail gartrefi drwy sicrhau cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy, a helpu gwead cymdeithasol y gymuned leol, ac yn naturiol, y Gymraeg sy'n rhan annatod o'r prosiectau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:

Mae grantiau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i'n cymunedau. Mae'n wych gweld cymaint o brosiectau yn y rownd hon o gyllid Perthyn, sy'n cynnwys prosiect ynni cynaliadwy a chymunedau'n dod at ei gilydd i brynu a rhedeg eu tafarnau, siopau, llyfrgelloedd a chapeli lleol i geisio sicrhau budd i'w cymunedau. Rydyn ni hefyd wedi helpu nifer o brosiectau sy'n cael eu harwain gan gymunedau i greu tai fforddiadwy i alluogi pobl i fyw yn eu cymunedau lleol.

Caiff y grant ei weinyddu gan Cwmpas ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol Cwmpas:

Rydyn ni'n falch iawn o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Planed i gyflawni'r prosiect Perthyn. Mae Perthyn yn gweithio gyda'r cymunedau i nodi ffyrdd o fynd i'r afael â'r diffyg tai fforddiadwy, gwarchod asedau cymunedol a chreu cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol newydd. Mae gweinyddu cynllun grantiau bach ar gyfer y cymunedau i helpu i feithrin gallu lleol a sbarduno eu syniadau o ran busnes a thai wedi bod yn hwb gwirioneddol i ni. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y syniadau'n datblygu ac at weithio gyda rhagor o gymunedau yn ystod y misoedd nesaf.

Os ydych chi'n grŵp cymunedol mewn cymuned Gymraeg ac eisiau cymorth pellach i droi eich syniadau'n brosiectau hyfyw, cysylltwch â Cwmpas: Perthyn - Cwmpas