Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
Wrth i bob munud fynd heibio, amcangyfrifir bod cleifion 10% yn llai tebygol o oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017, ymatebodd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i 5,800 o achosion o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, ac o'r rheini, bu'n rhaid ceisio dadebru 2,832 ohonynt. Mae'r nifer sy'n goroesi yn isel, ond mae'n bosibl achub llawer mwy o fywydau drwy adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a defnyddio diffibrilwyr yn gynnar yn amlach.
Fis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig a oedd yn amlygu'r cynnydd rydym eisoes wedi'i wneud yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgiliau achub bywydau fel adfywio cardio-pwlmonaidd a defnyddio cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig, yn enwedig mewn ysgolion.
Roedd y datganiad yn cydnabod gwaith cyfredol a pharhaus Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a'i phartneriaid wrth iddynt gynyddu nifer yr ymgyrchoedd am diffibrilwyr sydd ar gael i’r cyhoedd ac addysgu plant a phobl ifanc sut i ddefnyddio sgiliau adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR).
Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeddfwriaeth orfodol Cymru i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus, fe wnaethom atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu cynllun â nifer o bartneriaid gan gynnwys GIG Cymru, y gwasanaeth tân, yr heddlu, y maes addysg a sefydliadau'r trydydd sector.
Mae'n bleser gen i heddiw gyhoeddi'r Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar y rhannau allweddol o'r Gadwyn Oroesi:
- Adnabod ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yn syth a galw am help
- CPR cynnar i arbed amser
- Diffibrilio cynnar i ailgychwyn y galon
- Mynediad cyflym at sgiliau dadebru uwch
- Gofal prydlon o safon uchel ar ôl dadebru
- Cludiant i’r ysbyty priodol agosaf
- Gwasanaethau adsefydlu cydgysylltiedig
Wrth barhau i weithredu'r cynllun hwn, rhagwelir y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gan gynnwys mapio'r sefydliadau sy'n rhoi hyfforddiant ar sut i roi CPR mewn cymunedau ledled Cymru. Wrth weithio'n effeithiol mewn partneriaeth, bydd pobl Cymru yn cael pob cyfle i oroesi ataliad y galon, ac hefyd yn dysgu sgiliau CPR ac yn cael adnoddau fel diffibrilwyr i’w galluogi i achub bywydau.
Hoffwn ddiolch i bawb fu'n cydweithio ar y cynllun hwn ac yn rhan o'r gwaith o'i ddatblygu.
Mae Gweithgor Cydweithio’r Gwasanaethau Brys eisoes yn hwyluso gwasanaethau ambiwlans Cymru, yr heddluoedd a'r gwasanaethau tân ac achub i gydweithio'n dda i ymateb i ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty, a dylid parhau i ddatblygu'r strategaethau cenedlaethol presennol. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y bobl sy'n goroesi ar ôl dioddef o ataliad y galon yng Nghymru. Mae llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar ymrwymiad a chamau gweithredu nifer o unigolion a sefydliadau.
Y llynedd, cytunais ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gyfres o flaenoriaethau i'r Gwasanaeth Tân ac Achub gefnogi'r GIG. Mae'r blaenoriaethau hyn yn canolbwyntio ar dri maes allweddol sef atal, cydnerthu cymunedol ac ymateb meddygol brys. Mae hyn yn cynnwys modelau lle bo diffoddwyr tân sydd wedi'u hyfforddi'n llawn ac sydd â'r offer yn ymateb i ataliad y galon hyd nes y bydd y gwasanaethau ambiwlans yn cyrraedd. Mae modelau o'r fath wedi arwain at welliant yn yr amseroedd ymateb ac yn y canlyniadau i gleifion gan hefyd leihau costau. Mae nifer o brosiectau eisoes ar waith ledled Cymru lle bo diffoddwyr tân yn mynd i ddigwyddiadau o'r fath ac yn gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaeth ambiwlans yn y ffordd hon.
Mae'r cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yn amlygu'r fantais o hyrwyddo sgiliau achub bywydau mewn ysgolion ac yn cadarnhau y gall pob dysgwr yng Nghymru ddysgu am driniaethau cymorth brys drwy Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Mae hyn yn ffurfio rhan o'r cwricwlwm sylfaenol ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc sydd wedi'u cofrestru mewn ysgolion a gynhelir. Mae'n rhaid i ysgolion benderfynu a yw hyn yn briodol i'r dysgwyr. Yn ogystal â hyn, mae sefydliadau'r trydydd sector yn darparu hyfforddiant ac adnoddau i gynorthwyo hyfforddiant CPR mewn ysgolion ac i'r boblogaeth ehangach.
Mae'r Cynllun hefyd yn cydnabod pa mor effeithiol yw diffibrilwyr, a'r effaith y maen nhw'n gallu ei chael ar gyfle'r claf i oroesi os yw'n dioddef o ataliad y galon. Byddwn yn annog pob sefydliad a chymuned, os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud hynny, i gofrestru eu diffibrilwyr drwy wefan Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (dolen allanol). I weld lleoliadau'r diffibrilwyr yng Nghymru, ewch i NHS Direct (dolen allanol).
Gall sefyllfa lle bydd angen gweithredu i helpu i achub bywyd aelod o'r teulu, ffrind, cydweithiwr, cymydog neu ddieithryn godi ar unrhyw bryd. Byddai darparu sgiliau a gwybodaeth yn galluogi pobl i ddechrau'r gadwyn oroesi mor gynnar â phosibl a rhoi'r cyfle gorau i berson sy'n dioddef ataliad y galon oroesi. Mae angen inni sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i bawb ym mhob cymuned ledled Cymru.
Mae'r Cynllun ar gael i'w lawrlwytho.