Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn disgrifio cyfraddau’r benthyciadau a grantiau israddedig ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026. Gall y cyfraddau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

Mae’r ffigurau a nodir yn yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn berthnasol i fyfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2018.

Mae’r cyfraddau hyn yn destun rheoliadau sydd wrthi’n cael eu llunio. Os bydd gwahaniaeth rhwng y rheoliadau a’r ddogfen hon, y rheoliadau sy’n drech.

Cymorth ffioedd a chynhaliaeth i fyfyrwyr llawnamser

Cymorth ffioedd

Bydd myfyrwyr cymwys llawnamser sy’n byw yng Nghymru fel arfer yn gallu gwneud cais am fenthyciad ffioedd a grant ffioedd. Nid yw’r benthyciad ffioedd yn dibynnu ar brawf modd. 

Cyfraddau benthyciad ffioedd

  • Uchafswm benthyciad ffioedd ar gyfer darparwr cyffredin, £9,535
  • Uchafswm benthyciad ffioedd ar gyfer darparwr preifat, £6,355

Y ffi uchaf y gall darparwyr addysg uwch cyffredin ei chodi yn y DU yn 2025 i 2026 yw £9,535. Nodwch nad oes rhaid i ddarparwyr preifat gydymffurfio â chapiau ffioedd. Y ffi uchaf ar gyfer cyrsiau gradd carlam yn Lloegr yw £11,440. Fodd bynnag, gellir ond cael hyd at £9,535 o fenthyciad ffioedd a bydd rhaid i’r myfyriwr dalu’r gweddill. Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau gradd carlam a myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau gyda darparwyr nad oes rhaid iddynt gydymffurfio â’r cap ffioedd.

Cymorth ffioedd uchaf mewn achosion arbennig

Mae’r rheoliadau’n darparu ar gyfer gwahanol symiau o gymorth ffioedd mewn rhai achosion.

Blwyddyn olaf

Bydd uchafswm y benthyciad ffioedd dysgu sydd ar gael yn cael ei leihau ym mlwyddyn academaidd olaf y cyrsiau lle mae dyddiad gorffen y cwrs yn gynharach ac sy'n gofyn am gyfnodau astudio is (llai na 15 wythnos o astudio). Dyma’r benthyciad ffioedd dysgu fydd ar gael ar gyfer cyrsiau o'r fath:

  • hyd at £4,765 ar gyfer y rhai a ddarperir mewn darparwr cyffredin lle gellir codi hyd at £9,535, a 
  • hyd at £3,175 ar gyfer y rhai a ddarperir mewn darparwr preifat
Myfyrwyr mewn darparwyr yng Nghymru neu Loegr

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau blwyddyn astudio ar leoliad dramor y tu allan i gynllun Erasmus+/Turing/ILE (TAITH) yn gorfod talu ffi dysgu o hyd at 15% o gap ffioedd uchaf y darparwr. 

Bydd myfyrwyr cymwys sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ac sy'n astudio ar gwrs dynodedig yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o:

  • hyd at uchafswm y ffi ddysgu a godir (£1,430, lle mae'r ffi uchaf yn £9,535), neu
  • hyd at £950 (benthyciad ffi) (15% o £6,355 wedi'i dalgrynnu i lawr i'r £5 cyfan agosaf) ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau blwyddyn ar leoliad dramor naill ai’n astudio neu’n gweithio fel rhan o gynllun Erasmus+/Turing/ILE (TAITH) yn gorfod talu ffi dysgu o hyd at 15% o gap ffioedd uchaf y darparwr. Bydd myfyrwyr cymwys sy’n astudio ar gwrs dynodedig yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd hyd at uchafswm y ffi ddysgu a godir hyd at £1,430, lle mae’r ffi uchaf yn £9,535). Nid yw darparwyr preifat yn cymryd rhan yng nghynllun Erasmus+. 

Mae darparwyr yn Lloegr sydd naill ai wedi'u cofrestru ar gofrestr y Swyddfa Myfyrwyr neu sydd â Phwerau Dyfarnu Graddau cydnabyddedig yn gymwys i gymryd rhan yng nghynllun Turing. 

Mae darparwyr cydnabyddedig neu reoleiddiedig a darparwyr preifat yng Nghymru yn gymwys i gymryd rhan yng nghynllun ILE (TAITH). 

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith fel rhan o gwrs rhyngosod yn gorfod talu ffi dysgu o hyd at 20% o gap ffioedd uchaf y darparwr. 

Bydd myfyrwyr cymwys yn gallu gwneud cais o:

Myfyrwyr sy’n astudio mewn darparwyr yn yr Alban

Bydd myfyrwyr mewn darparwyr cyffredin yn yr Alban sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith neu leoliad astudio y tu allan i gynlluniau Erasmus+/Turing, yn gorfod talu ffi dysgu hyd at 50% o gap ffioedd uchaf y darparwr. 

Bydd myfyrwyr cymwys yn gallu gwneud cais am fenthyciad ffioedd o:

  • hyd at £4,765 y ffi ddysgu a godir, neu
  • hyd at £3,175 ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat

Bydd myfyrwyr mewn darparwyr cyffredin yn yr Alban sy’n cwblhau blwyddyn ar leoliad dramor naill ai’n astudio neu’n gweithio o fewn cynlluniau Erasmus+/Turing yn gorfod talu ffioedd dysgu o hyd at 15% o gap ffioedd uchaf y darparwr. Bydd myfyrwyr cymwys yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer y ffi dysgu hyd at £1,430. Nid yw darparwyr preifat yn cymryd rhan yng nghynllun Erasmus+. 

Bydd myfyrwyr mewn darparwyr yn yr Alban sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith fel rhan o gwrs rhyngosod ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o:

Myfyrwyr mewn darparwyr yng Ngogledd Iwerddon

Bydd myfyrwyr mewn darparwyr yng Ngogledd Iwerddon sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith neu leoliad astudio y tu allan i gynlluniau Erasmus+/Turing (Mae darparwyr Gogledd Iwerddon yn hepgor ffioedd i fyfyrwyr Erasmus+/Turing a dydy cymorth ffioedd ddim yn angenrheidiol), yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o:

  • hyd at £4,765, neu
  • hyd at £3,175 ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat

Bydd myfyrwyr mewn darparwyr yng Ngogledd Iwerddon sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith fel rhan o gwrs rhyngosod ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o:

  • hyd at £4,765, neu
  • hyd at £3,175 ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat
Myfyrwyr sy’n dilyn cwrs mynediad carlam i raddedigion yn y DU 

Mae myfyrwyr sy’n dilyn cwrs mynediad carlam i raddedigion mewn darparwr cyffredin yn y DU yn gymwys am fenthyciad ffioedd o hyd at £6,070.

Cymorth cynhaliaeth llawnamser

Bydd myfyrwyr cymwys llawnamser yn gallu gwneud cais am gymorth cynhaliaeth ar gyfer costau byw ac astudio trwy grant sylfaenol, grant cynhaliaeth a benthyciad cynhaliaeth.

Yn amodol ar rai eithriadau, gall myfyrwyr llawnamser fod yn gymwys am grant sylfaenol nad yw’n dibynnu ar brawf modd o £1,000.

Mae’r grant cynhaliaeth ar gael i’r rhai sydd ag incwm aelwyd o hyd at £59,200. Mae uchafswm y grant ar gael i’r rhai sydd ag incwm aelwyd o £18,370 neu is. Mae cyfanswm y cymorth cynhaliaeth a’r gweddill rhwng benthyciad a grant yn dibynnu ar ble mae’r myfyriwr yn byw ac astudio, a’i incwm aelwyd, fel a ganlyn.

  • Gall myfyrwyr sy’n byw gartref dderbyn hyd at £10,480 o gymorth cynhaliaeth. Mae hyd at £6,885 o grant ar gael. Mae hyn yn gostwng fesul £1 am bob £6.937 ychwanegol o incwm uwchben £18,370. Gellir cymryd y gweddill hyd at yr uchafswm o £10,480 fel benthyciad.
  • Gall myfyrwyr sy’n byw oddi cartref, yn Llundain, dderbyn hyd at £15,415 o gymorth cynhaliaeth. Mae hyd at £10,124 o grant ar gael. Mae hyn yn gostwng fesul £1 am bob £4.475 ychwanegol o incwm uwchben £18,370. Gellir cymryd y gweddill hyd at yr uchafswm o £15,415 fel benthyciad.
  • Gall myfyrwyr sy’n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, dderbyn hyd at £12,345 o gymorth cynhaliaeth. Mae hyd at £8,100 o grant ar gael. Mae hyn yn gostwng fesul £1 am bob £5.75 ychwanegol o incwm uwchben £18,370. Gellir cymryd y gweddill hyd at yr uchafswm o £12,345 fel benthyciad.

Mae tablau 1A i 1C yn dangos symiau’r grantiau a benthyciadau sydd ar gael ar wahanol lefelau o incwm (adran: tablau eglurhaol).

Taliad cymorth arbennig llawnamser

Ni fydd rhan o’r cymorth gan Lywodraeth Cymru a roddir i fyfyrwyr sy’n derbyn rhai budd-daliadau penodol yn cael ei hystyried at ddiben cyfrifo eu hincwm wrth wneud cais am y budd-daliadau hynny.

Mae’r myfyrwyr cymwys yn cynnwys y rhai:

  • sydd â phlant dibynnol ond nad oes ganddynt bartner
  • sydd â phlant dibynnol a bod eu partner yn fyfyriwr llawnamser hefyd, neu
  • sy’n gymwys am rai budd-daliadau anabledd penodol

Mae'r broses ar gyfer cyfrifo hyn yn gymhleth ac wedi'i nodi mewn rheoliadau. Mae cyfanswm y cymorth cynhaliaeth ac isafswm y benthyciad sy'n daladwy i fyfyriwr sy'n gymwys i gael taliad cymorth arbennig yn dibynnu ar ble mae'r myfyriwr yn byw ac yn astudio, fel a ganlyn: 

  • Gall myfyrwyr cymwys sy'n byw gartref dderbyn uchafswm o £10,480 o gymorth cynhaliaeth. Isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys yw £4,740. 
  • Gall myfyrwyr cymwys sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, dderbyn uchafswm o £15,415 o gymorth cynhaliaeth. Isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys yw £7,205.
  • Gall myfyrwyr cymwys sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, dderbyn uchafswm o £12,345 o gymorth cynhaliaeth. Isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys yw £5,670. 

Mae tablau 2A i 2C yn dangos symiau’r grantiau a benthyciadau sydd ar gael ar wahanol lefelau o incwm (adran: tablau eglurhaol).

Benthyciadau cynhaliaeth cyfradd is llawnamser

Mae myfyrwyr ar leoliadau cwrs rhyngosod blwyddyn lawn â thâl lle mae’r cyfnodau o astudiaeth lawn amser yn llai na 10 wythnos i gyd yn gymwys am fenthyciad cynhaliaeth is yn unig (a chymorth grant fel y disgrifiwyd uchod).

Mae'r gyfradd is yn hanner y gyfradd lawn wedi'i talgrynnu i lawr i'r £5 cyfan agosaf.

  • Gall myfyrwyr sy'n byw gartref dderbyn benthyciad cynhaliaeth cyfradd is o £4,740, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn £9,480.
  • Gall myfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, dderbyn benthyciad cynhaliaeth cyfradd is o £7,205, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn £14,415.
  • Gall myfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, dderbyn benthyciad cynhaliaeth cyfradd is o £5,670, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn £11,345.

Didyniad plentyn dibynnol

Efallai y bydd swm o incwm yn cael ei ddiystyru wrth gyfrif incwm yr aelwyd i’w ystyried ar gyfer pennu lefel y grant cynhaliaeth. Mae hyn yn berthnasol pan fo’r aelwyd yn cynnwys plentyn dibynnol heblaw’r myfyriwr.

Gellir diystyru £1,150 wrth gyfrif incwm aelwyd myfyrwyr llawnamser am bob plentyn dibynnol.

Cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) 

Bydd myfyrwyr cymwys llawnamser sy’n cwblhau cwrs AGA llawnamser yn gallu gwneud cais am fenthyciad ffioedd a grant cynhaliaeth fel y disgrifiwyd uchod.

Cymorth ffioedd a chynhaliaeth i fyfyrwyr rhan-amser

Cymorth ffioedd rhan-amser

Gall myfyrwyr cymwys rhan-amser sy'n preswylio’n arferol yng Nghymru wneud cais am fenthyciad ffioedd. Nid yw'r benthyciad ffioedd yn seiliedig ar brawf modd.

Cyfraddau benthyciad ffioedd: darparwr cyffredin

  • Cyfanswm y benthyciad ffioedd ar gyfer darparwyr yng Nghymru, £2,625
  • Cyfanswm y benthyciad ffioedd ar gyfer y Brifysgol Agored, £2,625
  • Cyfanswm y benthyciad ffioedd ar gyfer darparwyr eraill yn y DU, £7,145

Cyfraddau benthyciad ffioedd: darparwr preifat

  • Cyfanswm y benthyciad ffioedd ar gyfer darparwyr yng Nghymru, £2,625
  • Cyfanswm y benthyciad ffioedd ar gyfer darparwyr eraill yn y DU, £4,765

Noder nad oes yn rhaid i ddarparwyr a sefydliadau gydymffurfio â chapiau ar ffioedd a gallant godi ffioedd uwch nag uchafswm y benthyciad ffioedd rhan-amser sydd ar gael. Gellir ond cael hyd at yr uchafsymiau a nodwyd o fenthyciad ffioedd a bydd yn rhaid i'r myfyriwr dalu’r gweddill.

Cymorth cynhaliaeth rhan-amser

Gall myfyrwyr cymwys rhan-amser wneud cais am gymorth cynhaliaeth drwy gyfrwng grant sylfaenol, grant cynhaliaeth a benthyciad cynhaliaeth. Mae gan bob myfyriwr cymwys hawl i gael grant sylfaenol nad yw’n dibynnu ar brawf modd, a bydd y swm yn dibynnu ar ddwysedd yr astudiaeth. Mae hyn yn seiliedig ar yr isafswm o £1,000 sydd ar gael i fyfyrwyr llawnamser, a byddai myfyriwr rhan-amser sy’n astudio ar ddwysedd o 50% yn derbyn grant sylfaenol o £500.

Mae swm y grant a’r benthyciad cynhaliaeth yn dibynnu ar ddwysedd yr astudio ac incwm yr aelwyd. Ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026, mae’r cymorth ar gyfer myfyrwyr rhan-amser yn seiliedig ar swm cyfwerth ag amser llawn o £9,105, wedi’i dalu pro-rata ar sail dwysedd yr astudio. Fodd bynnag, i gael ei ddosbarthu fel cwrs rhan-amser, ystyrir mai uchafswm yr oriau astudio yw 75% o’r rhai ar gwrs llawnamser (h.y. dwysedd o 75%). Felly, y swm uchaf o fenthyciad a grant cyfunol sydd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser yw 75% o £9,105, sef £6,829.

Mae swm y grant yn seiliedig ar swm cyfwerth ag amser llawn o £6,000, wedi’i leihau £1 am bob £6.84 ychwanegol o incwm dros £25,000, ac wedi’i dalu pro-rata ar sail dwysedd yr astudio. Mae’r grant uchaf posibl, felly, yn £4,500, yn seiliedig ar ddwysedd astudio o 75%. Fel yn achos myfyrwyr llawnamser, gall benthyciad wneud iawn am y swm a gollir fel hyn.

Yn achos myfyrwyr sy’n gymwys am Daliad Cymorth Arbennig, bydd unrhyw grant cynhaliaeth y byddant yn ei dderbyn yn cael ei ddynodi felly.

Mae tablau 3A i 3C yn dangos symiau’r grantiau a benthyciadau sydd ar gael ar wahanol lefelau o incwm. (adran: tablau eglurhaol).

Cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) rhan-amser

Bydd myfyrwyr cymwys rhan-amser sy’n cwblhau cwrs AGA rhan-amser yn gallu gwneud cais am fenthyciad ffioedd a grant cynhaliaeth fel y disgrifiwyd uchod.

Grant myfyrwyr anabl

Gall myfyrwyr israddedig, sy'n astudio'n llawnamser neu'n rhan-amser, fod yn gymwys i gael grant i’w cynorthwyo â gwariant ychwanegol a ysgwyddir o ganlyniad uniongyrchol i'w anabledd. Nid yw'n seiliedig ar brawf modd nac wedi'i raddio'n seiliedig ar ddwysedd yr astudio. 

Uchafswm y grant ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026 fydd £34,000 ac mae'n cwmpasu'r meysydd gwariant canlynol:

  • cynorthwyydd personol nad yw'n feddygol
  • eitemau mawr o offer arbenigol
  • gwariant arall sy'n gysylltiedig ag anabledd

Bydd lwfans teithio ar wahân sydd heb ei gapio hefyd ar gael i fyfyrwyr sy'n ysgwyddo costau teithio ychwanegol sy'n gysylltiedig ag astudio oherwydd eu hanabledd.

Cymorth ychwanegol i fyfyrwyr llawnamser a rhan-amser

Benthyciadau cynhaliaeth uwch ar gyfer blynyddoedd llawnamser estynedig

Bydd myfyrwyr cymwys llawnamser yn gallu ceisio am fenthyciad cynhaliaeth ychwanegol ar gyfer astudio mewn blynyddoedd academaidd sy’n para mwy na 30 wythnos a 3 diwrnod:

  • £96 yr wythnos am fyfyrwyr sy’n preswylio yn y cartref rhiant
  • £184 yr wythnos am fyfyrwyr sy’n astudio oddi wrth cartref, yn Llundain
  • £144 yr wythnos am fyfyrwyr sy’n astudio oddi wrth cartref, tu allan i Lundain

Grantiau i ddibynyddion 

Grant oedolyn dibynnol

Gellir talu Grant Oedolyn Dibynnol i fyfyriwr gymwys llawnamser neu rhan-amser sydd â phartner dibynnol neu oedolyn arall dibynnol. Lle bo’n gymwys, y grant uchaf ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026 mewn perthynas â phriod fydd £3,407 (yn amodol ar gyfrifiadau dwysedd astudio ar gyfer cyrsiau rhan-amser). Pan nad oes gan y myfyriwr bartner, gall y myfyriwr fod yn gymwys am y grant hwn o ran un oedolyn dibynnol nad yw ei incwm net yn fwy na £3,923. 

Grant Gofal Plant

Mae Grant Gofal Plant yn cael ei ddarparu i helpu myfyriwr cymwys llawnamser neu rhan-amser gyda chostau gofal plant yn ystod eu cwrs.

Bydd swm y grant i’w dalu yn seiliedig ar 85% o’r costau gofal plant gwirioneddol, yn amodol ar uchafswm grant o:

  • £192 yr wythnos am un plentyn
  • £329 yr wythnos am ddau blentyn neu fwy (yn amodol ar gyfrifiadau dwysedd astudio ar gyfer cyrsiau rhan-amser)

Pan nad oes darparwr gofal plant wedi’i nodi, bydd swm y grant gofal plant i’w dalu ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn seiliedig ar 85% o’r costau gofal plant gwirioneddol, yn amodol ar uchafswm grant o £147 yr wythnos (yn amodol ar gyfrifiadau dwysedd astudio). Bydd y taliad cyfradd is hwn yn cael ei wneud nes bod manylion y darparwr gofal plant wedi’u cyflwyno, ac ond yn cael ei dalu am un chwarter academaidd (tymor fel arfer).

Lwfans/grant dysgu rhieni

Mae Lwfans/Grant Dysgu Rhieni ar gael i fyfyrwyr cymwys llawnamser neu rhan-amser sydd â phlant.

Yr uchafswm i’w dalu ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026 fydd £1,945 (yn amodol ar gyfrifiadau dwysedd astudio ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau rhan-amser) gyda’r isafswm yn £53 yn dibynnu ar brawf modd.

Diystyru incwm dibynyddion

Mae swm o incwm yn cael ei ddiystyru wrth gyfrifo hawl i Grantiau ar gyfer Dibynyddion. Ar gyfer myfyrwyr rhan-amser, mae swm yr incwm a ddiystyrir hefyd yn amodol ar ddwysedd yr astudio.

  • Diystyrir £6,434, pan na fo gan y myfyriwr cymwys blant dibynnol
  • Diystyrir £8,852, pan na fo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol
  • Diystyrir £10,062 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant sengl a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol, neu'n rhiant unigol ac mae ganddo un plentyn dibynnol
  • Diystyrir £11,279, pan fo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol

Grant teithio

Mae grant teithio ar gael i fyfyrwyr llawnamser ar gyrsiau meddygaeth neu ddeintyddiaeth ac i fyfyrwyr sy’n astudio neu weithio dramor fel rhan o’u cwrs o dan rai amgylchiadau. Caiff y costau gwirioneddol eu had-dalu, ar ôl tynnu’r swm sy’n cael ei ddiystyru. 

Y swm i’w ddiystyru mewn unrhyw asesiad o hawl fydd:

  • £303 i bob myfyriwr
  • £1,000 i fyfyrwyr nad ydynt yn cael eu hasesu o ran incwm neu sydd ag incwm aelwyd sy'n fwy na £59,200

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i fyfyrwyr dalu’r £303 neu £1,000 cyntaf o'u costau teithio fel sy'n berthnasol cyn y telir unrhyw grant teithio.

Bandiau dwysedd astudio rhan-amser 

Bydd myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau rhan-amser yn gymwys i wneud cais am Grantiau i Ddibynyddion (GfDs) wrth astudio ar ddwyster astudio o leiaf 25% o gwrs cyfwerth ag amser llawn. 

Dyma’r bandiau dwyster astudio a ddefnyddir i gyfrif faint o’r Grant i Ddibynyddion sy'n daladwy:

  • 25% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 25% ac yn is na 30%
  • 30% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 30% ac yn is na 40%
  • 40% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 40% ac yn is na 50%
  • 50% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 50% ond yn llai na 60% 
  • 60% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 60% ond yn llai na 75%, a
  • 75% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 75% neu fwy

Cymorth i fyfyrwyr ar gyrsiau’r GIG

Gweler Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru am wybodaeth gynhwysfawr.

O flwyddyn academaidd 2024 i 2025 ymlaen, bydd pob myfyrwyr cymwys llawnamser ar gyrsiau gofal iechyd (gan gynnwys meddygaeth a deintyddiaeth) yn gallu gwneud cais am y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth yn ystod eu blynyddoedd bwrsariaeth.

Meddygaeth a deintyddiaeth

Mae cymorth ffioedd a chynhaliaeth yn cael ei ddarparu gan y GIG a Llywodraeth Cymru (drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru). Darperir cymorth y GIG ar ffurf bwrsarïau nad oes rhaid eu had-dalu a chymorth Cyllid Myfyrwyr Cymru ar ffurf benthyciadau i’w had-dalu.

Cyrsiau llawnamser pedair blynedd

Mae cymorth ffioedd a chynhaliaeth ar gael i’r rhai ar gyrsiau mynediad carlam i raddedigion, sy’n gyrsiau pedair blynedd.

Mae cymorth ffioedd y flwyddyn gyntaf yn cynnwys benthyciad ffioedd o hyd at £6,070 drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae’n rhaid i fyfyrwyr ariannu gweddill y ffi dysgu eu hunain, nid oes bwrsari ffioedd dysgu ar gael gan y GIG. Yn y blynyddoedd canlynol (blynyddoedd dau i bedwar), telir bwrsari ffioedd dysgu gan y GIG o hyd at £3,465 ac mae benthyciad ffioedd dysgu o hyd at £6,070 ar gael drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru id alu gweddill y ffi dysgu.

Mae cymorth cynhaliaeth yn cynnwys cymysgedd o fenthyciad i’w ad-dalu gan Cyllid Myfyrwyr Cymru a bwrsarïau nad oes rhaid eu had-dalu gan y GIG. Gall myfyrwyr wneud cais am y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ym mlwyddyn un, nid oes bwrsari ar gael gan y GIG. Ym mhob un o'r blynyddoedd dilynol (blynyddoedd dau a phedwar), darperir cymorth gan y GIG drwy fwrsari nad oes angen ei ad-dalu a gall myfyrwyr hefyd wneud cais am gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Cyrsiau llawnamser pum mlynedd

Mae cymorth ffioedd a chynhaliaeth ar gael i’r rhai ar gyrsiau pum mlynedd.

Darperir cymorth ffioedd o’r flwyddyn gyntaf i’r bedwaredd ar ffurf benthyciad (hyd at yr uchafswm statudol o £9,535). Bwrsari’r GIG nad oes angen ei ad-dalu yw’r cymorth ffioedd yn y bumed flwyddyn. Os oes gan fyfyriwr radd anrhydedd o sefydliad yn y DU ni fydd yn gymwys am gymorth benthyciad ffioedd ar gyfer cwrs pum mlynedd.

Mae myfyrwyr sy'n ymgymryd â chwrs meddygol/deintyddiaeth pum mlynedd fel gradd israddedig gyntaf yn gymwys i wneud cais am grant cynhaliaeth a benthyciad cynhaliaeth ar sail prawf modd ym mlynyddoedd 1 i 4 o’r cwrs; nid oes bwrsari ar gael gan y GIG. Ym mlwyddyn 5 y cwrs, darperir cymorth cynhaliaeth gan y GIG trwy fwrsariaeth nad yw'n ad-daladwy a gall myfyrwyr hefyd wneud cais am y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru..

Ar gyfer myfyrwyr amser llawn cymwys sy'n ymgymryd â chyrsiau meddygaeth/deintyddiaeth pum mlynedd fel ail radd neu radd israddedig ddilynol, gallant wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth yn unig gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ym mlynyddoedd un i bedair o'r cwrs, nid oes grant cynhaliaeth ar gael iddynt gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Ym mlwyddyn pump, darperir cymorth cynhaliaeth gan y GIG drwy fwrsari nad oes angen ei ad-dalu a gall myfyrwyr hefyd wneud cais am y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill

Telir ffioedd myfyrwyr nyrsio a myfyrwyr iechyd proffesiynol cymwys eraill sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n astudio yng Nghymru yn llawn gan fwrsariaeth y GIG.

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn cynnwys Ceiropodryddion (yn cynnwys Podiatryddion), Dietegwyr, Radiograffwyr, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Hylenwyr deintyddol, Gwyddonwyr gofal iechyd, Parafeddygon, Therapyddion deintyddol, Therapyddion galwedigaethol a Ffisiotherapyddion.

Mae cymorth cynhaliaeth ar ffurf bwrsari gan y GIG nad oes angen ei ad-dalu. Gall myfyrwyr cymwys ar radd israddedig gyntaf a myfyrwyr cymwys ar ail radd neu radd israddedig ddilynol, hefyd fod yn gymwys i gael y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Ers 2018 i 2019, rhaid i fyfyrwyr cymwys sy’n astudio yng Nghymru ac sy’n gwneud cais am fwrsari’r GIG ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso. 

Nid yw myfyrwyr nad ydynt yn ymrwymo i'r cyfnod o ddwy flynedd, neu'n astudio y tu allan i Gymru yn gymwys i gael bwrsari’r GIG a gallant wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am y pecyn cymorth i fyfyrwyr llawnamser neu ran-amser, yn amodol ar fodloni'r rheolau astudio blaenorol. Gall myfyrwyr hefyd fod yn gymwys i dderbyn grantiau a lwfansau eraill gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Tablau eglurhaol

Tabl 1A Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n byw gartref ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2018) (£s)

Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
18,3706,8853,59510,480
20,0006,6513,82910,480
25,0005,9304,55010,480
30,0005,2095,27110,480
35,0004,4885,99210,480
40,0003,7676,71310,480
45,0003,0477,43310,480
50,0002,3268,15410,480
55,0001,6058,87510,480
59,2001,0009,48010,480

Tabl 1B: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2018) (£s)

Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
18,37010,1245,29115,415
20,0009,7605,65515,415
25,0008,6436,77215,415
30,0007,5267,88915,415
35,0006,4089,00715,415
40,0005,29110,12415,415
45,0004,17411,24115,415
50,0003,05612,35915,415
55,0001,93913,47615,415
59,2001,00014,41515,415

Tabl 1C: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2018) (£s)

Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
18,3708,1004,24512,345
20,0007,8174,52812,345
25,0006,9475,39812,345
30,0006,0786,26712,345
35,0005,2087,13712,345
40,0004,3398,00612,345
45,0003,4698,87612,345
50,0002,6009,74512,345
55,0001,73010,61512,345
59,2001,00011,34512,345

Tabl 2A: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth ar gyfer y rhai sy'n gymwys am Daliad Cymorth Arbennig yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n byw gartref ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2018) (£s)

Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
18,3706,8854,74011,625
20,0006,6514,74011,391
25,0005,9304,74010,670
30,0005,2095,27110,480
35,0004,4885,99210,480
40,0003,7676,71310,480
45,0003,0477,43310,480
50,0002,3268,15410,480
55,0001,6058,87510,480
59,2001,0009,48010,480

Tabl 2B: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth ar gyfer y rhai sy'n gymwys am Daliad Cymorth Arbennig yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2018) (£s)

Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
18,37010,1247,20517,329
20,0009,7607,20516,965
25,0008,6437,20515,848
30,0007,5267,88915,415
35,0006,4089,00715,415
40,0005,29110,12415,415
45,0004,17411,24115,415
50,0003,05612,35915,415
55,0001,93913,47615,415
59,2001,00014,41515,415

Tabl 2C: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth ar gyfer y rhai sy'n gymwys am Daliad Cymorth Arbennig yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2018) (£s)

Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
18,3708,1005,67013,770
20,0007,8175,67013,487
25,0006,9475,67012,617
30,0006,0786,26712,345
35,0005,2087,13712,345
40,0004,3398,00612,345
45,0003,4698,87612,345
50,0002,6009,74512,345
55,0001,73010,61512,345
59,2001,00011,34512,345

Tabl 3A Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth rhan-amser yn ôl lefel incwm, (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio ar ddwysedd o 75% ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2018) (£s)

Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
25,0004,5002,3296,829
30,0003,9532,8766,829
35,0003,4043,4256,829
40,0002,8563,9736,829
45,0002,3084,5216,829
50,0001,7605,0696,829
55,0001,2115,6186,829
59,2007506,0796,829

Tabl 3B: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth rhan-amser yn ôl lefel incwm, (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio ar ddwysedd o 50% ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2018) (£s)

Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
25,0003,0001,5534,553
30,0002,6351,9184,553
35,0002,2702,2834,553
40,0001,9042,6494,553
45,0001,5393,0144,553
50,0001,1733,3804,553
55,0008083,7454,553
59,2005004,0534,553

Tabl 3C: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth rhan-amser yn ôl lefel incwm, (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio ar ddwysedd o 25% ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2018) (£s)

Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.

Incwm yr aelwydGrant cynhaliaethBenthyciad cynhaliaethCyfanswm
25,0001,5007762,276
30,0001,3189592,276
35,0001,1351,1422,276
40,0009521,3242,276
45,0007691,5072,276
50,0005871,6902,276
55,0004041,8732,276
59,2002502,0262,276

Termau

Darparwr cyffredin

Darparwr y mae ei gyrsiau wedi’u dynodi gan y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr. Gweler rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2017, a rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018.

Darparwr preifat

Darparwr y mae ei gyrsiau wedi’u dynodi gan Weinidogion Cymru gan ddefnyddio eu pwerau yn y rheoliadau. Gweler rheoliad 5(8) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Cymru) 2017, a rheoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018.

Y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu (a elwir hefyd yn Taith)

Rhaglen Llywodraeth Cymru yw Taith sy'n ariannu cyfleoedd rhyngwladol i ddarparwyr addysg ac ieuenctid yng Nghymru. Mae'n cefnogi cyfleoedd cyfnewid allanol a mewnol i fyfyrwyr a staff.

Turing

Mae Cynllun Turing yn rhaglen Llywodraeth y DU i ddarparu arian ar gyfer cyfleoedd rhyngwladol allanol mewn addysg a hyfforddiant.

Cartref rhiant

Mae’r myfyriwr yn byw yng nghartref ei riant wrth ddilyn y cwrs cyfredol.

Astudio oddi cartref, yn Llundain

Mae’r myfyriwr yn byw i ffwrdd o gartref ei riant tra fydd yn:

  • dilyn cwrs ym Mhrifysgol Llundain
  • yn dilyn cwrs mewn sefydliad sy’n gofyn am bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd ar safle sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn Llundain ble mae o leiaf hanner unrhyw chwarter o’r cwrs yn cael ei ddarparu mewn safle o’r fath, neu
  • yn dilyn cwrs rhyngosod yn y flwyddyn academaidd mewn sefydliad sy’n gofyn i’r myfyrwyr gwblhau profiad gwaith, neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio, yn Llundain lle mae’r profiad gwaith hwnnw neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio, yn cael ei wneud am o leiaf hanner unrhyw chwarter

Astudio oddi cartref, yn rhywle arall

Mae’r myfyriwr yn byw i ffwrdd o gartref ei riant ond nid yw’n astudio yn Llundain, yn cynnwys mynychu sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel rhan o gwrs y myfyriwr neu’n cwblhau lleoliad gwaith tramor mewn blwyddyn Erasmus+/Turing/ILE (a elwir yn TAITH).

Prawf modd

Mae hyn yn golygu bod y cymorth a ddarperir yn seiliedig ar incwm yr aelwyd.

Dim prawf modd

Mae hyn yn golygu nad yw'r cymorth a ddarperir yn seiliedig ar incwm yr aelwyd.