Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'r rheoliadau sy'n rhoi cymhwysedd i gymorth tai a thai i bobl sy'n cyrraedd y DU sy'n dioddef Cefnu ar Briodas Trawswladol, ac i bobl sy'n destun rheolaeth fewnfudo a fyddai fel arfer â'r amod dim hawl i gyllid cyhoeddus ar eu statws mewnfudo, ond mae'r Swyddfa Gartref wedi codi'r amod hwnnw.

Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio gan Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2014 (“y Rheoliadau diwygio”) ac i estyn cymhwystra i gael dyraniad tai a chymorth tai a ddarperir gan awdurdodau lleol i bobl sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n ddioddefwyr Cefnu ar Briodas Trawswladol (TMA) ac i bobl sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo a fyddai fel arfer â’r amod dim hawl i gyllid cyhoeddus ar eu statws mewnfudo, ond mae'r Swyddfa Gartref wedi codi'r amod hwnnw.   

Daeth y Rheoliadau diwygio i rym ar 20 Rhagfyr 2024.

Ewch i: Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2024 | legislation.gov.uk