Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Image

 

  • Cymru sy'n gyfrifo ar lefel fyd-eang

Pwyntiau i'w nodi

  • Nid yw’r wybodaeth yn y ddogfen hon yn gyngor cyfreithiol nac yn ganllawiau statudol ac ni fwriedir iddi fod yn gynhwysfawr. Nid yw ychwaith wedi’i bwriadu i ddiystyru rhwymedigaethau cyfreithiol presennol sy’n berthnasol i gyrff Sector Cyhoeddus Cymru – dylai partïon sy’n contractio geisio eu cyngor cyfreithiol annibynnol eu hunain fel y bo’n briodol. Sylwer hefyd bod y gyfraith yn gallu newid yn gyson ac y dylid ceisio cyngor mewn achosion unigol. Mae’r ddogfen hon yn adlewyrchu’r sefyllfa ym mis Rhagfyr 2024.
  • Mae Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) yn adeiladu ar, ac yn gyson â, Datganiad Polisi Caffael Cymru a'r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (SI 2015/102) (PCR 2015) fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020 (SI 2020/1319).
  • Mae’r nodyn felly’n tybio lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus. Mae ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru LLYW.CYMRU a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at PolisiMasnachol@llyw.cymru neu drwy wasanaethau i gwsmeriaid Llywodraeth Cymru.

1. Diben neu fater

Mae'r WPPN hwn yn hysbysu am fân newidiadau i'r broses ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau ar GwerthwchiGymru o ganlyniad i'r DU yn dod yn aelod o Gytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP). Mae angen y newidiadau hyn er mwyn cyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol, a byddant yn dod i rym ar 15 Rhagfyr 2024.

2. Lledaenu a chwmpas

Cyhoeddwyd y Nodyn Polisi hwn i fod o gymorth i bob Awdurdod Contractio yng Nghymru (WCAau), gan gynnwys adrannau Llywodraeth Cymru, cyrff GIG Cymru, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r sector cyhoeddus ehangach. Mae’r WPPN hwn yn cynnwys contractau nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy’n cael eu darparu yng Nghymru.

Byddem yn ddiolchgar pe baech yn dosbarthu’r WPPN hwn ar draws eich sefydliad ac i sefydliadau perthnasol eraill rydych yn gyfrifol amdanynt, gan dynnu sylw penodol y rheini sydd mewn rolau caffael, masnachol a chyllid ato.

3. Cefndir ac arweiniad

Mae aelodaeth y DU o'r CPTPP wedi golygu bod angen mân newidiadau i'r broses ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau dyfarnu contractau sy'n gysylltiedig â chontractau sy'n ddarostyngedig i'r cytundeb hwn.

Ar hyn o bryd mae gan WCAau yr opsiwn i restru gwerth y tendrau uchaf ac isaf a dderbyniwyd mewn hysbysiad dyfarnu contract, yn hytrach na gwerth gwirioneddol y contract. Er mwyn cydymffurfio â thelerau'r CPTPP, bydd yr opsiwn hwn yn cael ei ddileu mewn perthynas â chaffaeliadau a reoleiddir o werth uwch o 15 Rhagfyr 2024, a bydd yn ofynnol i WCAau restru gwerth gwirioneddol y contract amcangyfrifedig.

O 15 Rhagfyr 2024, wrth gyhoeddi hysbysiad dyfarnu contract, mae'n ofynnol i WCAau hefyd wneud nodyn yn tynnu sylw at y ffaith bod y tendr yn ddarostyngedig i'r CPTPP. Dylid cynnwys hyn o dan adran VI.3 'Gwybodaeth ychwanegol' drwy ychwanegu'r testun 'yn ddarostyngedig i'r CPTPP' wrth gyhoeddi hysbysiad dyfarnu contract ar GwerthwchiGymru.

Gall WCA benderfynu a yw'r caffaeliad yn ddarostyngedig drwy ddarllen Atodiad 15-A o gytundeb y CPTPP, sy'n nodi pa endidau, nwyddau a gwasanaethau y mae'n berthnasol iddynt, a'r trothwyon y mae'n rhaid i'r caffaeliad fod yn gyfartal â nhw neu'n uwch na nhw.

4. Deddfwriaeth

Mae aelodaeth y DU o'r CPTPP wedi golygu bod angen mân newidiadau gweithdrefnol i'r rheolau sy'n rheoli dyfarnu contractau sy'n ddarostyngedig i'r cytundebau hynny. Gweithredir y newidiadau hyn drwy newidiadau i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 a Rheoliadau Contractau Consesiynau 2016. Mae'r newidiadau hyn wedi'u gwneud gan Ddeddf Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth Traws-Môr Tawel) 2024, ac maent yn dod i rym o'r dyddiad y daeth y CPTPP i rym ar gyfer y Deyrnas Unedig. Hynny yw 15 Rhagfyr 2024.

5. Amseriad

Mae'r WPPN yn weithredol o’r dyddiad cyhoeddi hyd nes y bydd yn cael ei ddisodli neu ei ganslo.

6. Perthnasedd Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS)

Mae'r WPPN hwn yn cyd-fynd â'r holl egwyddorion sydd wedi'u cynnwys yn Natganiad Polisi Caffael Cymru.

7. Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y WPPN hwn, cysylltwch â: Polisi Masnachol PolisiMasnachol@llyw.cymru

8. Cyfeiriadau