Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cefndir

Yn dilyn honiadau o afreoleidd-dra ariannol, ataliwyd arian New Sandfields Aberafan Afan (NSA Afan) ar 12 Rhagfyr 2016. Cyn atal y taliadau, roedd NSA Afan yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru fel Corff Cyflawni Arweiniol Cymunedau yn Gyntaf yng Nghlwstwr Sandfields ac Aberafan, ac fel prosiect oedd yn elwa o raglen Cymunedau am Waith a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru.

Yn y gorffennol, NSA Afan oedd yn noddi prosiect STRIDES a ariennid gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop o dan Raglenni Gweithredol Cronfeydd Strwythurol 2007-13. Daeth y prosiect hwn i ben ym mis Ebrill 2015.

Mae ymchwiliad Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio’n bennaf ar p’un a oedd yna stiwardiaeth gywir ar gyllid cyhoeddus a’r ffordd mae hwnnw wedi cael ei wario a’i gofnodi gan NSA Afan. Mae tystiolaeth gref o afreoleidd-dra ariannol. Mae’r gwaith ymchwilio wedi codi pryderon difrifol ynghylch effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu a rheoli’r sefydliad. Mae’r dystiolaeth hon yn codi amheuaeth ynghylch gallu NSA Afan i reoli a gwarchod cyllid cyhoeddus.

Penderfynwyd, felly, y dylid dod â’r grantiau Cymunedau yn Gyntaf a Chymunedau am Waith a ddyfarnwyd i NSA Afan i ben.

Mae’r swyddogion yn parhau i drafod y mater hwn gyda’r heddlu.

Ni chymerwyd y penderfyniad hwn yn ddifeddwl. Rwy’n ymwybodol iawn o’r effaith bosibl ar drigolion ardal Sandfields, ac mae trafodaethau wedi’u cynnal gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot er mwyn ceisio diogelu’r gwasanaethau i’r bobl leol.