Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Mae’r datganiad hwn yn nodi Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar Ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig. Cafodd y fersiwn flaenorol ei chyhoeddi yn 2021.
Rwyf wedi rhannu’r egwyddorion hyn â’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ac â Llywodraeth y DU yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Bwriedir i'r egwyddorion hyn fod yn sail i hwyluso trafodaethau adeiladol â Llywodraeth y DU ar ddeddfwriaeth y DU sy'n ymwneud â materion datganoledig, gan adeiladu ar yr ymgysylltu llawer mwy cadarnhaol a chalonogol sydd wedi datblygu dros y misoedd diwethaf. Byddant hefyd yn sail i argymhellion a wneir gan Weinidogion Cymru i'r Senedd mewn cysylltiad â chydsyniad deddfwriaethol ar gyfer deddfwriaeth o'r fath, yn unol â Rheol Sefydlog 29.
Ein hegwyddor gychwynnol o hyd yw y dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan y Senedd. Mae’r fersiwn ddiwygiedig hon o’r egwyddorion yn mynd ymhellach, fodd bynnag, ac yn adlewyrchu’n glir yr un safbwynt ar gyfer is-ddeddfwriaeth y DU, sef y dylai deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan Weinidogion Cymru pan fo cymhwysedd gweithredol.
Rwyf o’r farn y bydd mynegi un dull symlach o ymdrin â holl ddeddfwriaeth y DU – deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth – yn helpu i sicrhau cysondeb a thryloywder.
Mae’r egwyddorion yn parhau i gydnabod y gallai fod yn briodol, o dan rai amgylchiadau, i ddeddfwriaeth y DU gynnwys darpariaeth i Gymru mewn meysydd datganoledig gyda chydsyniad y Senedd, neu gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru yn achos is-ddeddfwriaeth – gall sefyllfaoedd godi pan fo hyn er budd gorau Cymru.
Rydym wedi manteisio ar y cyfle i wella tryloywder ymhellach drwy:
- Egluro ein safbwynt ynghylch yr ystyriaethau o ran amserlen a all fod yn berthnasol wrth ystyried deddfwriaeth y DU;
- Cryfhau ein safbwynt na ddylai deddfwriaeth y DU gyflwyno materion a gedwir yn ôl na chyfyngiadau newydd mewn perthynas â'r setliad datganoli;
- Adlewyrchu y dylai llywodraethiant cyrff trawsffiniol ddarparu rôl ystyrlon i Lywodraeth Cymru sy’n diogelu datganoli ac atebolrwydd democrataidd.