Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn y Datganiad Ysgrifenedig ar 25 Gorffennaf 2024, cyhoeddais £36 miliwn o gyllid grant ar gyfer darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor drwy'r Gronfa Gynghori Sengl dros y tair blynedd ariannol nesaf.

Rheolwyd ceisiadau i'r Gronfa Cynghori Sengl drwy ymarfer grant agored. Roedd gan ymgeiswyr gyfnod o 12 wythnos i ymchwilio a datblygu eu cynigion ar gyfer darparu gwasanaethau cyngor hygyrch ac integredig sy'n cyrraedd pobl o gymunedau difreintiedig a chymunedau ymylol. Derbyniwyd deugain a naw o geisiadau am gyllid ac rwy'n diolch i bawb gyflwynodd eu cynigion. Cafodd pob un o'r ceisiadau eu gwerthuso ar sail meini prawf sgorio gwrthrychol i benderfynu pa mor effeithiol fyddai model cyflenwi gwasanaeth arfaethedig yn bodloni prif amcanion y Gronfa Gynghori Sengl.

Rwyf wedi dyfarnu grantiau i ddarparu gwasanaethau rhanbarthol a chenedlaethol y Gronfa Gynghori Sengl i'r ceisiadau sy'n cyfleu orau uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer modelau cydweithredol o ddarparu gwasanaethau cynghori integredig sy'n cyrraedd y bobl sydd â'r angen mwyaf. Hyderaf y bydd y gwasanaethau sy'n cael eu cyllido gan grant hwn nid yn unig yn datrys problem lles cymdeithasol person, ond hefyd yn cynnig mynediad iddynt i wasanaethau a fydd yn ychwanegu at eu gallu a'u hyder ac yn eu gwneud yn gryfach er mwyn osgoi problemau lles cymdeithasol yn y dyfodol. 

Mewn ymateb i'r sylwadau nad yw modelau cyflenwi cydweithredol ac integredig rhanbarthol a chenedlaethol y Gronfa Gynghori Sengl yn briodol ar gyfer pob darparwr, fe wnaethom gyflwyno grant unigol newydd. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu dyfarnu cyllid i nifer o sefydliadau sy'n eu cael eu gwerthfawrogi gan y grŵp poblogaeth sydd yn eu defnyddio yn eu hardaloedd. 

Bydd yr holl wasanaethau cyngor a ariennir gan grant yn gwbl hygyrch ac yn cael eu darparu trwy ystod o sianeli ymgysylltu, h.y., wyneb yn wyneb (o leoliadau yng nghanol cymunedau lleol), dros y ffôn, ac ar y we. Bydd swyddogion yn monitro perfformiad y rhai sy'n cael y grant yn fanwl ac yn sicrhau eu bod yn dangos pa mor effeithlon yw eu gwasanaethau drwy adrodd yn erbyn cyfres gynhwysfawr o fesurau perfformiad pwysig. 

Rwy'n gwerthfawrogi y bydd sefydliadau y mae eu cynigion wedi bod yn aflwyddiannus yn siomedig iawn. Fodd bynnag, derbyniwyd 49 o geisiadau ar gyfer y tri ar ddeg o grantiau a oedd ar gael a bu'n rhaid i'r panel asesu wneud rhai penderfyniadau anodd ac, mewn proses grant agored, ni all Llywodraeth Cymru warantu dyfarniadau grant i bob cais. Diolch i bawb a gyflwynodd gynigion ac rwy'n gobeithio nad yw'r ymgeiswyr hynny nad oedd yn llwyddiannus y tro hwn yn peidio â chyflwyno cynigion ar gyfer cyllid grant yn y dyfodol.

Rwy'n falch o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ariannu gwasanaethau cynghori.  Mae'n bwysicach nag erioed fod gennym sector cyngor yng Nghymru lle y defnyddir adnoddau mor effeithiol â phosibl a lle mae darparwyr o ansawdd sicr yn darparu gwasanaethau sydd wedi'u targedu at bobl yn ein cymunedau sydd eu hangen fwyaf. Ynghyd â'r gwaith yr ydym yn ei arwain i gynyddu incwm y cartref, mae ein prosiectau'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled Cymru.