Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Yn bresennol

  • Frances Duffy, Cadeirydd
  • Saz Willey, Is-gadeirydd
  • Bev Smith, aelod
  • Kate Watkins, aelod
  • Dianne Bevan, aelod
  • Sara Rees, ysgrifenyddiaeth
  • Leighton Jones, ysgrifenyddiaeth

Rhanddeiliaid allanol oedd yn bresennol yn y cyfarfod

Cynrychiolwyr o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

  • Roger Ashton-Winter
  • Cher Cooke 

Cyflwyniad

Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mawrth 19 Tachwedd. 

Nod y cyfarfod oedd:

  • Adolygu'r cofnodion a'r crynodeb o gyfarfod mis Hydref a chytuno arnynt, nodi diweddariad yr Ysgrifenyddiaeth a'r diweddariad ar y gyllideb, ac adolygu a diweddaru'r cynllun gweithredol ar gyfer 2024 i 2025.
  • Ystyried a chytuno ar nifer o bapurau a gyflwynwyd i'r Panel, sef: 
    • dadansoddiad o'r holl lwfansau a dalwyd i aelodau prif gynghorau, awdurdodau tân ac achub, ac awdurdodau'r parciau cenedlaethol yn 2023 i 2024
    • dadansoddiad o'r holl lwfansau a dalwyd i aelodau cynghorau cymuned a thref yn 2023 i 2024
    • taliadau cydnabyddiaeth ariannol i aelodau cyfetholedig mewn prif gynghorau
    • adolygu'r adroddiad etifeddiaeth sydd wedi ei ddiweddaru

Isod, ceir crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau'r Panel. 

Camau gweithredu, yr Ysgrifenyddiaeth a'r gyllideb: diweddariadau

Cytunodd y Panel ar y cofnodion a'r crynodeb o gyfarfod mis Hydref, gan nodi'r diweddariad ar y gyllideb.

Fe wnaeth y Panel adolygu a thrafod yr ohebiaeth a oedd wedi dod i law oddi wrth dri Chyngor Cymuned a Thref, a dau Brif Gyngor, a'i ymateb i bob un.

Datganiad o daliadau 2023 i 2024: prif gynghorau, awdurdodau tân ac achub, ac awdurdodau'r parciau cenedlaethol

Ystyriodd y Panel bapur ar ddatganiad ynghylch y taliadau a wnaed i aelodau prif gynghorau, awdurdodau tân ac achub, ac awdurdodau'r parciau cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn 2023 i 2024. 

Rhoddodd y papur ddadansoddiad i'r Panel o'r holl lwfansau a dalwyd, ynghyd â'r tueddiadau blynyddol dros y pum mlynedd diwethaf. Mae'r wybodaeth hon yn helpu i greu sail ar gyfer gwaith yn y dyfodol, ac i weld pa mor effeithiol yw'r fframwaith taliadau cydnabyddiaeth ledled Cymru. 

Datganiad taliadau 2023 i 2024: cynghorau cymuned a thref

Bu'r Panel yn ystyried papur ar y datganiad ynghylch y taliadau a wnaed i aelodau Cynghorau Cymuned a Thref yn ystod 2023 i 2024.

Rhoddodd y papur ddadansoddiad i'r Panel o'r holl lwfansau a dalwyd, ynghyd â'r tueddiadau blynyddol dros y pum mlynedd diwethaf. Mae'r wybodaeth hon yn helpu i greu sail ar gyfer gwaith yn y dyfodol, ac i weld pa mor effeithiol yw'r fframwaith taliadau cydnabyddiaeth ledled Cymru. 

Adroddiad etifeddiaeth 

Rhoddwyd diweddariad i'r Panel ar hynt yr adroddiad etifeddiaeth. Bydd yr adroddiad hwn yn cynnwys meysydd o ddiddordeb y gallai fod angen rhoi ystyriaeth bellach iddynt yn y dyfodol, megis cynrychiolaeth ieuenctid ac aelodau cyfetholedig.

Taliadau cydnabyddiaeth i aelodau cyfetholedig y prif gynghorau

Cyflwynwyd papur i’r Panel ar daliadau cydnabyddiaeth ariannol i aelodau cyfetholedig y prif gynghorau. Mae’r Panel o’r farn y dylai’r cyfraddau hyn fod yn gysylltiedig â’r lefelau o daliadau cydnabyddiaeth ariannol sydd wedi’u gosod gan Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, fel y meincnod mwyaf perthnasol, ond peidio â newid y lefelau ar gyfer 2025 i 2026 yw dymuniad y Panel. Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben.

Unrhyw faterion eraill

Y cyfarfod nesaf

Bydd cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gynnal ar 7 Ionawr 2025. 

Os bydd gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda’r Panel, mae croeso ichi gysylltu drwy'r Ysgrifenyddiaeth, cyfeiriad e-bost: IRPMailbox@llyw.cymru.