Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Mae Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i mi gyflwyno adroddiad bob dwy flynedd o leiaf ar y cynnydd y mae Awdurdodau Tân ac Achub wedi’i wneud o ran cydymffurfio â Fframwaith Cenedlaethol y Gwasanaethau Tân ac Achub. Cyhoeddwyd yr adroddiad diwethaf o'r fath ym mis Gorffennaf 2015.
Ni fu erioed fwy o angen am Wasanaeth Tân ac Achub effeithiol. Fel y dangosodd trychineb tŵr Grenfell, mae tân yn parhau i fod yn fygythiad difrifol a all fod yn ddinistriol. Rwy'n falch o'r gwaith y mae ein Hawdurdodau Tân ac Achub yn ei wneud ar atal tanau ac ymateb iddynt pan fyddant yn digwydd, ac rwy'n falch o'r cynnydd a wnaethant ar gyflwyno'r gyd-agenda a nodwyd gennym yn y Fframwaith.
Mae'r Fframwaith cyfredol, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr y llynedd, yn wahanol iawn i Fframweithiau blaenorol. Roedd yn nodi’r angen i Awdurdodau Tân ac Achub newid, er mwyn iddynt allu ymdrin â heriau sylfaenol a strategol yn cynnwys cyni, poblogaeth sy'n heneiddio, a’r angen i ostwng nifer yr achosion o dân yn hirdymor. Yn benodol, galwai ar Awdurdodau Tân ac Achub i arallgyfeirio er mwyn ymateb i set wahanol o fygythiadau ehangach i ddiogelwch unigolion a chymunedau. Mae hyn yn her a fydd yn golygu gwneud newidiadau pellgyrhaeddol i adnoddau, gallu, hyfforddiant, diwylliant a gwerthoedd Awdurdodau Tân ac Achub ac yn un a fydd yn cymryd sawl blwyddyn i’w chyflawni’n briodol.
Am y rheswm hwn, crynodeb dros dro yn unig yw hwn o dystiolaeth a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg yw’r adroddiad diweddaraf hwn ar gyfer diweddariad llawnach yn y flwyddyn newydd.
Mae'r gostyngiad yn nifer yr achosion o danau a’r rhai sydd wedi eu hanafu gan dân yn dipyn o gamp. Mae'n golygu bod gwaith y Gwasanaeth Tân ac Achub yn canolbwyntio'n gynyddol ar atal - ar leihau'r risg o dân, ac yn gynyddol, ar leihau risgiau eraill hefyd. Mae'r dystiolaeth yn glir fod eu rhaglenni diogelwch tân craidd yn gweithio'n dda iawn ac mae’r gostyngiad cyffredinol yn nifer y tanau yn arwydd o hynny. Ond mae mentrau penodol Awdurdodau Tân ac Achub hefyd wedi cael effaith amlwg. Er enghraifft, mae’r gwaith amlasiantaethol ar leihau tanau glaswellt wedi arwain at ostyngiad o 50% dros ddwy flynedd; ac mae eu hymyriadau dwys gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu yn gyson yn cyflawni lefelau neilltuol o newid ymddygiad a llai o atgwympo.
Er hynny, ceir llawer o risgiau eraill i ddiogelwch pobl heblaw tân; ac mae'r gostyngiad yn nifer yr achosion o danau’n golygu y gall Awdurdodau Tân ac Achub chwarae rôl gynyddol yn mynd i'r afael â’r rheiny hefyd. Gwnaed peth gwaith da yn y maes hwn eisoes ond er mwyn sicrhau mwy o gydlyniant ac i wneud yn siŵr fod adnoddau’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau, mae’r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a minnau wedi cytuno ar flaenoriaethau strategol ar gyfer cymorth Awdurdodau Tân ac Achub i'r sector iechyd a gofal. Credwn fod potensial gwirioneddol i wella ansawdd bywyd yn hawdd ac yn gynaliadwy drwy, er enghraifft, atal codymau yn y cartref sy’n rhy aml yn arwain at gyfnod hir yn yr ysbyty neu mewn gofal preswyl. Rwy’n gobeithio y gall yr holl sefydliadau sydd ynghlwm wrth hyn weithio gyda ni i gyflawni ein blaenoriaethau.
Serch hynny, gwaith craidd y Gwasanaeth Tân ac Achub o hyd yw ymateb i argyfwng - i danau, damweiniau ar y ffyrdd, llifogydd a llu o ddigwyddiadau eraill. Rwy’n falch o gofnodi bod y Gwasanaeth yn gyson yn ymateb yn gyflym ac yn effeithiol. Mae’r Awdurdodau Tân ac Achub hefyd wedi adolygu, neu yn y broses o adolygu, eu gallu gweithredol, gan anelu i gysoni hynny â lefelau risg hysbys a risg a ragwelir. Wrth wneud hynny, mae angen iddynt fod yn sicr eu bod yn mynd i’r afael â'r holl risgiau sy'n ymwneud â digwyddiadau y gall y Gwasanaeth ymateb iddynt - nid tanau’n unig.
Mae hynny'n arbennig o wir o ystyried y nod hirdymor o arallgyfeirio’r gwasanaeth, sy'n cynnwys ymateb i argyfwng yn ogystal ag atal a diogelu. Fel yr addawyd yn y Fframwaith, rydym bellach wedi cyflwyno dyletswydd statudol ar Awdurdodau Tân ac Achub i ymateb i ddigwyddiadau llifogydd ac achub o ddŵr - cam a ddenodd gefnogaeth yr Awdurdodau Tân ac Achub a’r undebau, ac a fu’n destun llawer o ganmoliaeth o'r tu allan i Gymru hefyd. Gwnaed gwaith da hefyd ar ddatblygu gallu Awdurdodau Tân ac Achub i gefnogi'r Gwasanaeth Ambiwlans drwy ymateb i fathau penodol o argyfyngau meddygol. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod cynnydd pellach yma yn dibynnu ar ddod i gytundeb gyda diffoddwyr tân a'u hundebau. Er fy mod yn glir fod dyfodol cynaliadwy ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub yn dibynnu ar y math hwn o arallgyfeirio, mae’n rhaid i ni a'r Awdurdodau Tân ac Achub gydnabod a mynd i'r afael â phryderon dilys diffoddwyr tân yn hyn o beth.
Mae cynnydd cynaliadwy hefyd yn golygu cael trefniadau llywodraethu sy'n cefnogi ac yn ysgogi newid strategol. Fodd bynnag, mae'r fframwaith cyfreithiol sy'n nodi strwythur a threfniadau llywodraethu ein Hawdurdodau Tân ac Achub yn dyddio o ganol y 1990au, ac nid yw bellach i’w weld yn addas i'r diben. Nid yw'n cynhyrchu digon o atebolrwydd am bolisïau neu berfformiad y Gwasanaeth Tân ac Achub, ac nid yw'n integreiddio penderfyniadau ynglŷn â gwasanaethau tân ac achub yn ddigonol â gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach. Yn amlwg, nid yw hyn yn feirniadaeth o gwbl ar aelodau Awdurdodau Tân ac Achub neu swyddogion eu hunain y credaf eu bod wedi gwneud cystal ag y gallant o fewn cyfyngiadau'r system bresennol. Ond er bod y Fframwaith yn galw am newid, mae'n dod yn amlwg nad yw hynny’n bosibl o fewn y trefniadau statudol sydd gennym.
Mae problem debyg yn bodoli gyda threfniadau cyllido Awdurdodau Tân ac Achub. Nid yw'r rhain yn galw am unrhyw gymeradwyaeth allanol neu her ffurfiol o gwbl: gall Awdurdodau Tân ac Achub godi cyfraniadau ar eu hawdurdodau lleol cyfansoddol fel y gwelant yn addas. Er eu bod wedi gwneud hynny’n gyfrifol at ei gilydd, mae’n dal i fod yn ffordd na ellir ei chyfiawnhau o reoli arian cyhoeddus. Mae'n cael gwared ar sbardun pwerus i sicrhau arbedion effeithlonrwydd. Er enghraifft, ac er gwaethaf ymrwymiadau clir yn y Fframwaith, rwy'n parhau’n awyddus i weld dau o'n Hawdurdodau Tân ac Achub yn gwneud rhagor eto i leihau nifer y galwadau diangen y maent yn ymateb iddynt. Rwy’n derbyn bod angen i hyn gael ei wneud yn ofalus ac ar sail asesiadau risg priodol, a bod y prif gyfrifoldeb am osgoi galwadau diangen ar berchnogion adeiladau, gan gynnwys y sector cyhoeddus yn arbennig. Fodd bynnag, mae’r cynnydd yn dal i fod wedi bod yn rhy araf. Mae eraill wedi dangos y gall lleihau galwadau diangen ryddhau adnoddau diffodd tân sylweddol heb beryglu diogelwch y cyhoedd mewn unrhyw ffordd.
Felly, ac fel y cyhoeddwyd gennym fis Ionawr diwethaf yn ein Papur Gwyn llywodraeth leol, bwriadaf ddatblygu ac ymgynghori ar newid trefniadau ariannol a dull o lywodraethu Awdurdodau Tân ac Achub. Bydd y dull newydd yn cadw'r patrwm presennol o Awdurdodau Tân ac Achub sydd gennym, a bydd yn cydnabod gofynion penodol rheoli a darparu gwasanaethau argyfwng, ond bydd yn cynhyrchu arweinyddiaeth gryfach ac atebolrwydd cliriach.
Hefyd, dylai'r newidiadau hynny wella'r cydweithio rhwng Awdurdodau Tân ac Achub ac asiantaethau eraill, yn enwedig ar y lefel strategol. Hyd yn hyn, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod Awdurdodau Tân ac Achub wedi gwneud eu gorau i gydweithio o fewn y trefniadau sydd gennym. Maent i’w gweld yn gweithio’n eithaf da gyda’i gilydd wrth gytuno ar arferion cyffredin a sicrhau arbedion effeithlonrwydd, drwy eu Pwyllgor Materion Cenedlaethol. Mae ein Hawdurdodau Tân ac Achub wedi sefydlu cysylltiadau effeithiol gydag asiantaethau eraill hefyd, yn enwedig i gefnogi arallgyfeirio’r gwasanaeth at faterion megis atal troseddau ac iechyd gwell; ac maent yn dod yn bartneriaid effeithiol a gwerthfawr ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, cafwyd enghreifftiau hefyd o arferion sydd heb fod cystal, er enghraifft mewn perthynas â sefydliadau eraill yn rhannu gwybodaeth am bobl sy’n wynebu risg uchel o dân. Er ei bod yn ymddangos bod yr achosion hynny wedi’u datrys, mae'n rhaid i ni sicrhau bob amser fod ymrwymiad ar y cyd i gadw pobl yn ddiogel yn goresgyn plwyfoldeb sefydliadol.
Yn olaf, ond yr un mor bwysig, mae gan yr Awdurdodau Tân ac Achub rwymedigaethau clir tuag at eu gweithlu. Ni fyddai cyflawniadau’r gorffennol yn bosibl, ac ni fydd posibiliadau’r dyfodol yn cael eu gwireddu, heb ymroddiad parhaus ein diffoddwyr tân. Rwy'n falch fod ein Hawdurdodau Tân ac Achub yn amlwg o ddifrif ynglŷn â’r rhwymedigaethau hyn, ac yn anelu at ddarparu gyrfaoedd sy’n werthfawr ac yn rhoi boddhad. Rwy’n falch hefyd fod eu perthynas hwy a ninnau ag undebau diffoddwyr tân wedi bod yn gyfeillgar ac yn gynhyrchiol.
Fodd bynnag, nid perthynas waith gyffredin mohoni: mae gofyn i ddiffoddwyr tân ymdrin â'r sefyllfaoedd mwyaf peryglus a hynny’n rheolaidd, ac mae eu diogelwch, o reidrwydd, o’r pwys mwyaf. O’r herwydd, heddiw rwyf hefyd yn cyhoeddi Adolygiad Thematig gan fy Mhrif Gynghorydd Tân ac Achub, "Iechyd a Diogelwch yn y Gwasanaeth Tân ac Achub - Ymgorffori’r Gwersi a Ddysgwyd."
Mae hynny, unwaith eto, yn arbennig o bwysig yn dilyn digwyddiad tŵr Grenfell: trwy ddysgu o ddigwyddiadau fel hyn yn unig y gallwn ni a'r Awdurdodau Tân ac Achub gadw dinasyddion a diffoddwyr tân yn ddiogel. Mae'r Adolygiad yn tynnu sylw at y ffaith fod gweithdrefnau’r Awdurdodau Tân ac Achub yn gadarn at ei gilydd, er y gellid gwneud gwelliannau pellach i sicrhau bod dysgu beirniadol ynglŷn â risg yn cael ei gyfathrebu’n effeithiol i'r holl staff rheng flaen. Er bod yr adolygiad wedi’i gynnal cyn trychineb Grenfell, mae’r pwyntiau y mae'n eu gwneud hyd yn oed yn fwy perthnasol yng ngoleuni hynny. Rwy'n gwybod bod ein holl Awdurdodau Tân ac Achub eisoes yn rhoi camau cyflym ar waith i sicrhau bod diffoddwyr tân yn dysgu o ddigwyddiad tŵr Grenfell, ac rwy’n sicr y byddant yn gwneud y gwelliannau ehangach y mae’r Adolygiad yn galw amdanynt hefyd.