Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, wedi cyhoeddi y bydd awdurdodau lleol yn derbyn £6.1bn gan Lywodraeth Cymru i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol.
Daw'r buddsoddiad sylweddol hwn o'r Grant Cynnal Refeniw ac ardrethi annomestig ac mae'n golygu y bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn cynyddu 4.3% y flwyddyn nesaf.
Bydd aelwydydd sy'n agored i niwed ac incwm isel yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw ostyngiad mewn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae'r setliad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd cyn belled ag y bo modd, gan gefnogi'r aelwydydd sydd wedi eu taro galetaf, a blaenoriaethu swyddi.
"Rydym wedi bod trwy gyfnod hir o gyni gyda chynnydd anferth yn y galw am y prif wasanaethau, pandemig a chyfnod o chwyddiant anghyffredin.
"Rydym wedi bod yn gwrando ar lywodraeth leol i barhau i ddeall yr heriau y maent yn eu hwynebu, a diolch i'r cyllid ychwanegol o Gyllideb yr Hydref, rydym wedi cynyddu ein setliad cyffredinol ar gyfer 2025 i 2026 o fwy na £1bn.
"Rydym yn gwybod y bydd ein cynghorau yn dal i wynebu penderfyniadau anodd yn lleol hyd yn oed gyda'r cynnydd hwn. Fodd bynnag, ni fydd yr un awdurdod lleol yn gweld cynnydd o lai na 2.8% y flwyddyn nesaf a byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ar feysydd lle y gallem ddarparu cyllid ychwanegol erbyn amser y gyllideb derfynol."
Amlinellodd y Gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg gynnydd i gyllid cyfalaf cyffredinol awdurdodau lleol i £200m, gan gydnabod effaith chwyddiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r Grant Gwres Carbon Isel hefyd wedi cynyddu i £30m i gefnogi awdurdodau gyda datgarboneiddio ac i barhau â'r ffocws ar gyfrannu at gynllun Cymru Sero Net.
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Bydd yn cymryd amser i gyllid cyhoeddus adfer ar ôl 14 mlynedd hir o gyni, ond byddwn yn parhau i weithio gyda'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol i sicrhau'r defnydd gorau o adnoddau a chyflawni ar gyfer pobl Cymru."