Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant drwy nifer o raglenni ledled Cymru.
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn galluogi rhieni cymwys plant tair a phedair oed i gael hyd at 30 awr o addysg feithrin a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth am 48 wythnos y flwyddyn, sy'n cynnwys darpariaeth gwyliau. Mae'r Cynnig hefyd yn parhau i fod ar gael i rieni mewn sydd mewn addysg a hyfforddiant.
Mae Dechrau'n Deg, un o'n prif raglenni, yn cynnig gofal plant o ansawdd, wedi’i ariannu’n llawn, i rieni pob plentyn dwy oed cymwys am ddwy awr a hanner y diwrnod, pum diwrnod yr wythnos, am 39 wythnos y flwyddyn.
Rydym yn parhau i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg i gefnogi effeithiau hirdymor a chadarnhaol ar fywydau'r plant a'r teuluoedd hynny, ac rydym yn parhau yn ein hymrwymiad i gyrraedd pob plentyn dwy oed ledled Cymru.
Rydym yn cydnabod bod ein cynnig gofal plant yng Nghymru yn dibynnu ar becyn cymorth teg, cynaliadwy i ddarparwyr gofal plant. Dyma pam ein bod, ar 12 Tachwedd 2024, wedi gwneud rhyddhad ardrethi o 100% i fusnesau bach gofal plant cofrestredig yn barhaol. Mae hyn yn cadarnhau ein hymrwymiad i gefnogi gofal plant yng Nghymru a'n nod parhaus i sicrhau bod lleoliadau yn gynaliadwy yn ariannol, fel y nodir yn yr adolygiad a'r diweddariad o'n cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar.
Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i gefnogi amgylchedd lle y gall y sector ffynnu a thyfu er mwyn inni gyflawni ein huchelgeisiau a nodwyd yn ein Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar. Dyma pam fy mod, ar 20 Tachwedd, wedi cadarnhau y byddwn yn symud i adolygiadau ardrethi blynyddol ar ôl cwblhau'r adolygiad tair blynedd cyfredol. Bydd y dull gweithredu hwn yn helpu'r sector i gynllunio a gwella cynaliadwyedd. Bydd unrhyw arian ychwanegol yn y dyfodol yn cael ei ystyried yn unol â chynlluniau ehangach cyllidebol Llywodraeth Cymru.
Er mwyn parhau i gefnogi'r sector hwn, rydym yn cynyddu'r gyfradd fesul awr a delir i ddarparwyr gofal plant o £5.00 i £6.00 yr awr. Bydd y cynnydd hwn o 20% yn dod i rym o 7 Ebrill 2025 ymlaen – sef dydd Llun cyntaf y flwyddyn ariannol newydd. Byddwn hefyd yn darparu cyllid ychwanegol i gefnogi'r gwaith o barhau i alinio addysg feithrin a gofal plant Dechrau'n Deg.
Yn ogystal, rydym wedi adolygu'r canllawiau ar gyfer darparwyr ynghylch codi tâl am fwyd. Mae'n rhaid inni gydbwyso'n ofalus yr hyn sy'n fforddiadwy i'r darparwr ac yn fforddiadwy i rieni, gan gydnabod ar yr un pryd y pwysau parhaus o ran prisiau bwyd, cyfleustodau ac ynni. Dyma pam y bydd y gyfradd ddyddiol ar gyfer bwyd, o fis Ebrill 2025, yn cynyddu o £9.00 i £10.80. Bydd fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu â chyrff cynrychioliadol ledled Cymru i fireinio canllawiau ynghylch codi tâl fel rhan o'r Cynnig Gofal Plant er mwyn sicrhau mwy o eglurder i rieni a darparwyr gofal plant.
Bydd y pecyn cymorth hwn yn helpu i wneud pethau'n fwy cynaliadwy ar draws y sector gofal plant yng Nghymru, gan ofalu bod rhieni yn cael parhau i elwa o ofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a sicrhau bod ein polisïau i gefnogi plant a'u teuluoedd yn gydnaws er mwyn eu gwneud mor effeithiol â phosibl.