Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyhoeddodd Estyn ei ail adolygiad thematig ar gynnydd ysgolion ac awdurdodau lleol wrth iddynt fynd ati i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae'r adolygiad hwn yn gwerthuso pa mor dda y mae'r ysgolion a'r lleoliadau sy'n cymryd rhan yn gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ALNET) a'r Cod ADY, ac yn asesu'r cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol.

Hoffwn ddiolch i Estyn am ei waith pwysig a'i ffocws parhaus ar ddiwygiadau ADY ar draws ei waith arolygu. Rwyf hefyd yn diolch i'r holl randdeiliaid yn y sector addysg am eu dirnadaethau a'u cyfraniadau gwerthfawr i'r adolygiad hwn.

Mae canfyddiadau Estyn yn dangos bod diwygiadau ADY yn dechrau gwella'r gefnogaeth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ledled y wlad. Lle mae'r diwygiadau wedi'u gweithredu'n llwyddiannus, mae llawer o ddisgyblion wedi dangos cynnydd o'u mannau cychwyn gwreiddiol. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod llawer o arweinwyr ysgolion a staff yn meithrin diwylliant ac ymarfer cynhwysol, gyda phwyslais cryf ar ddysgu a lles pob disgybl.

Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn nodi anghysondebau wrth roi diwygiadau ADY ar waith ar draws yr ysgolion a'r lleoliadau sy'n cymryd rhan. Rwy'n pryderu efallai nad yw rhai plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae cryn dipyn o waith da yn cael ei wneud, gydag enghreifftiau gwych o ysgolion yn cefnogi plant a phobl ifanc drwy feithrin diwylliant cynhwysol a gwella darpariaeth ADY ledled Cymru. Rwy'n falch bod yr adroddiad yn nodi arfer effeithiol o ran cefnogi addysg gynhwysol, datblygu strategaethau ar gyfer cefnogi disgyblion ag ADY, gwella’r gefnogaeth sydd ar gael yn Gymraeg, a chryfhau dysgu proffesiynol, sicrhau ansawdd, a rolau'r Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a Swyddogion Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar.

Mae argymhellion Estyn yn canolbwyntio ar bedair thema allweddol: addysgu a dysgu o ansawdd uchel, CADY, darpariaeth ADY deg drwy gyfrwng y Gymraeg, a Darpariaeth Dysgu Ychwanegol. Rwy'n falch o gyhoeddi fy ymateb, gan dderbyn yr argymhellion a amlinellir yn adroddiad Estyn a rhannu gwybodaeth am y camau sy'n mynd rhagddynt i fynd i'r afael â'r meysydd hyn.

Ym mis Chwefror, bydd Estyn yn cyflwyno ei ganfyddiadau allweddol ac yn tynnu sylw at yr arferion da a nodwyd ganddo yn ein digwyddiad ymarfer effeithiol ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid.

Byddaf yn ysgrifennu'n uniongyrchol at awdurdodau lleol i dynnu eu sylw hwythau at argymhellion yr adroddiad.