Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad allanol o wasanaethau gofal llygaid yng Nghymru a gynhaliwyd gan Andy Pyott, sef offthalmolegydd ymgynghorol o'r GIG yn Ucheldiroedd yr Alban ar ran Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yn ystod 2020 ac ymlaen i 2021. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw ar ddiwedd 2021 ac roedd yn cynnwys nifer o argymhellion a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar ddefnyddio'r gweithlu sydd gennym yng Nghymru yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Yn dilyn yr adroddiad allanol hwn, cynhaliwyd yr uwchgynhadledd weinidogol gyntaf ar gyfer offthalmoleg ym mis Tachwedd 2022, lle cafodd GIG Cymru, Gweithrediaeth y GIG a chlinigwyr eu herio i ysgogi arbedion effeithlonrwydd o fewn y system bresennol er mwyn gwella perfformiad yn y byrdymor gyda'r nod o lunio strategaeth a throi argymhellion yr adroddiad allanol yn atebion ymarferol.

Mae cynnydd wedi'i wneud ers yr uwchgynhadledd ddiwethaf, gan gynnwys y canlynol:

  • mae tîm y rhaglen cael pethau'n iawn y tro cyntaf (GiRFT) wedi gweithio gyda phob bwrdd iechyd ac wedi llunio cynlluniau gweithredu er mwyn gwneud llwybrau cataract a glawcoma yn fwy effeithlon a chynhyrchiol
  • yn sgil diwygio'r contract optometreg, cyflwynwyd llwybrau clinigol newydd i gefnogi gwasanaethau gofal llygaid mewn ysbytai ac i hwyluso trefniadau i symud achosion risg is er mwyn iddynt gael eu rheoli gan bractisau optometreg gofal sylfaenol
  • mae'r rhwydwaith gweithredu clinigol offthalmoleg wedi cael ei sefydlu ac mae'r strategaeth glinigol ar gyfer offthalmoleg wedi cael ei datblygu drwy'r rhwydwaith hwn

Fodd bynnag, mae perfformiad yn erbyn targedau argymhelliad 1, sef y cleifion hynny sy'n wynebu'r risg fwyaf o golli golwg yn barhaol ac mewn ffordd na ellir ei gwrthdroi, wedi bod yn ddisymud ers dros flwyddyn, gyda thros 50% o gleifion yn aros yn hwy na'r dyddiad adolygu y cytunwyd arno'n glinigol ar eu cyfer. Mae'r cyfnodau aros ar gyfer cataractau a chyflyrau eraill hefyd yn cynyddu.

Yr uwchgynhadledd offthalmoleg weinidogol

Fel rhan o'r uwchgynhadledd offthalmoleg weinidogol a gynhaliwyd ym mis Hydref 2024, daeth swyddogion gweithredol, rheolwyr gweithredol, arweinwyr clinigol, uwch-glinigwyr a chynrychiolwyr o'r trydydd sector o bob rhan o Gymru at ei gilydd i drafod a chytuno ar gamau gweithredu i wella canlyniadau a pherfformiad.

Glawcoma, retina meddygol a chataractau oedd prif bwyslais yr uwchgynhadledd, a'r nod oedd cytuno ar gamau gweithredu, rhannu arferion gorau a mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sy'n atal gwelliant.

Sefyllfa bresennol gwasanaethau offthalmoleg

Rhoddodd cyfarwyddwr cenedlaethol Gweithrediaeth GIG Cymru ar gyfer gofal a gynlluniwyd gyflwyniad ar sefyllfa bresennol gwasanaethau offthalmoleg ledled Cymru, gan dynnu sylw at yr amrywiadau rhwng byrddau iechyd. Roedd y pwyntiau allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • gan fod y boblogaeth yn heneiddio, mae rhagamcanion ar gyfer 2033 yn awgrymu y bydd cynnydd o 31.3% yn y galw am wasanaethau gofal llygaid i gleifion 80 oed a throsodd
  • dros y 9 mlynedd nesaf, disgwylir i nifer yr achosion o gataractau gynyddu 11%, sy'n golygu y bydd angen cynnal llawdriniaethau cataract i ymdrin ag o leiaf 25,000 o achosion y flwyddyn
  • disgwylir i nifer yr achosion o glawcoma gynyddu 13% o 88,700 i 100,130 dros y 9 mlynedd nesaf
  • disgwylir i'r prif glefydau retinol, dirywiad maciwlaidd cysylltiedig ag oedran a retinopathi diabetig gynyddu 13%
  • mae'r galw am ofal eilaidd (atgyfeiriadau) yn uwch na'r cyfraddau cyn COVID-19 ac yn parhau i gynyddu, ac er bod gweithgarwch cleifion allanol yn agos at lefelau hanesyddol, ar y cyfan mae'r niferoedd sydd ar restrau aros yn cynyddu ar gyfradd sylweddol
  • mae'r grŵp cleifion sy'n wynebu'r risg fwyaf (argymhelliad 1) yn cynyddu, ac mae'r nifer sydd fwy na 100% dros eu dyddiad targed yn fwy na dwbl y nifer yn 2019 ac 2020
  • mae'r triniaethau a gaiff eu cynnal yn is na'r lefelau cyn COVID-19 o hyd, sy'n golygu bod niferoedd cynyddol o gleifion yn aros am driniaeth
  • gallai pwysau ychwanegol o ganlyniad i driniaethau newydd ar gyfer cyflyrau nad oedd modd eu trin yn flaenorol, megis atroffi ynysog, ychwanegu oddeutu 30,000 o apwyntiadau ychwanegol ar gyfer pigiadau bob blwyddyn
  • mae integreiddio gofal sylfaenol i mewn i wasanaethau gofal llygaid wedi arwain at welliannau cadarnhaol i lefelau gweithgarwch gwasanaethau ac mae cyfleoedd pellach i reoli cleifion y tu allan i ofal eilaidd
  • gwelwyd cynnydd amlwg mewn gweithgarwch gofal sylfaenol yn ystod 6 mis cyntaf 2024 ac 2025
  • mae cyfleoedd i wella'r ffordd y caiff galw ei reoli drwy lwybrau optometreg ym maes gofal sylfaenol, gan roi proses hidlo cleifion WGOS 4 ar waith yn llawn ar gyfer glawcoma a retina meddygol a rhoi optometryddion rhagnodi annibynnol WGOS 5 ar waith yn llawn
  • gall defnydd pellach o'r gwasanaethau gofal sylfaenol leihau'r galw am ofal eilaidd, felly hefyd ddefnydd gwell o gyfleoedd triniaeth HVLC a PIFU/SOS
  • ar hyn o bryd, nid oes safbwynt cenedlaethol o ran y niwed cyffredinol yng Nghymru na'r ffordd y mae'r niwed hwnnw'n cael ei liniaru - mae'r niferoedd y rhoddir gwybod amdanynt yn genedlaethol fel digwyddiadau sy'n ymwneud â diogelwch cleifion yn fach ac mae'n bosibl nad ydynt yn adlewyrchu cyfanswm y niwed o ystyried y nifer mawr o gleifion sy'n parhau i fod ar restrau aros

Cyd-destun strategol

Cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau gofal llygaid ac effaith colli golwg ar unigolion, gan bwysleisio'r angen am fynediad gwell at ofal a thynnu sylw at y strategaeth offthalmoleg glinigol newydd.

Nodwyd y disgwyliadau canlynol ar gyfer byrddau iechyd: 

  • yr angen am ddull strategol i reoli'r galw cynyddol am wasanaethau gofal llygaid, gan gynnwys prosesau pellach i integreiddio a defnyddio optometryddion gofal sylfaenol a chymunedol
  • yr angen am gysondeb ac effeithlonrwydd o ran perfformiad byrddau iechyd er mwyn sicrhau lefelau cyfartal o ofal i gleifion ledled Cymru
  • mynd i'r afael ag aneffeithlonrwydd yn y system a rhoi'r camau gweithredu a'r argymhellion a bennwyd gan Wasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) a GiRFT ar waith
  • annog byrddau iechyd i gydweithredu a gweithio'n rhanbarthol ar feysydd o'r gwasanaeth lle ceir niferoedd uchel

Tynnwyd sylw at yr amseroedd aros presennol ac amrywiadau mewn perfformiad. Mae mynd i'r afael â hyn yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i fyrddau iechyd wneud y canlynol:

  • rhoi'r llwybrau delfrydol cenedlaethol ar waith
  • sicrhau y caiff capasiti ei ddefnyddio'n briodol a bod y cleifion mwyaf priodol yn cael eu hatgyfeirio at ofal eilaidd
  • buddsoddi yng nghapasiti'r gweithlu ac ad-drefnu gwasanaethau bregus
  • manteisio ar unrhyw ddatblygiadau technolegol a digidol arloesol er mwyn helpu i wella effeithlonrwydd

Y strategaeth glinigol genedlaethol ar gyfer offthalmoleg

Cyflwynodd yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer offthalmoleg y strategaeth glinigol genedlaethol ar gyfer offthalmoleg.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Weithrediaeth y GIG i ddatblygu glasbrint a arweinir yn glinigol ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmoleg ledled Cymru. Wrth ddatblygu'r strategaeth hon, mae'r rhwydwaith gweithredu clinigol wedi ymgysylltu â meddygon ymgynghorol offthalmoleg mewn cyfres o weithdai, yn ogystal â:

  • chlinigwyr anfeddygol sy'n ymdrin â chleifion
  • staff cymorth gweinyddol
  • arweinwyr gweithredol byrddau iechyd
  • timau gofal sylfaenol
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • partneriaid trydydd sector

Mae gan Gymru un o'r cymarebau isaf o ran meddygon ymgynghorol fesul pen o'r boblogaeth o blith y 4 gwlad ar hyn o bryd ac mae'r gweithlu yn wynebu heriau recriwtio a chadw ym mhob gradd feddygol ym maes offthalmoleg.

Mae ystadau offthalmoleg yng Nghymru mewn cyflwr gwael ac nid oes ganddynt y capasiti ffisegol i ateb y galw am y gwasanaeth yn ddigonol.

Nid oes yr un uned offthalmoleg yng Nghymru wedi rhoi system cofnodion cleifion electronig gwbl weithredol ar waith er bod buddsoddiad sylweddol wedi'i wneud ers 2019. Hefyd, nid oes gan optometreg gofal sylfaenol fynediad at gofnodion gofal eilaidd sy'n cyfyngu ar y gallu i roi llwybrau ac atebion WGOS ar waith.

Mae'r strategaeth yn cynnig nifer o atebion i fynd i'r afael â'r themâu hyn, a gofynnwyd i fyrddau iechyd a rhanddeiliaid ymrwymo i roi'r strategaeth hon ar waith. Mae 4 elfen strategol y ddogfen fel a ganlyn:

  • diwygio sefydliadol: cynyddu'r gweithlu er mwyn trin cleifion yn y ffordd orau
  • rhwydweithiau clinigol: i ddarparu gofal cyfartal
  • trawsnewid llwybrau: gwella llwybrau o'r dechrau i'r diwedd a'r profiad i gleifion
  • model cyflawni cynaliadwy: gweithio ar draws ffiniau byrddau iechyd yn sefydliadol ac yn ffisegol

Mae'r strategaeth glinigol genedlaethol ar gyfer offthalmoleg yn sail i waith y rhwydwaith gweithredu clinigol offthalmoleg. Dyma'r fframwaith ar gyfer cyfres o adroddiadau a gaiff eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf, gan gynnwys:

  • adroddiadau is-arbenigedd
  • hyfforddiant ac ymchwil i'r gweithlu
  • agweddau digidol
  • gofal sy'n canolbwyntio ar y claf

Atal achosion o golli golwg a niwed na ellir ei wrthdroi

Yna canolbwyntiodd yr uwchgynhadledd ar y risgiau difrifol yn y system gyda chyflwyniadau gan Lywydd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr a Fforwm Golwg Cymru.

Risgiau o fewn gwasanaethau offthalmoleg

Yng nghyflwyniad Llywydd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr (y Coleg) ar y risgiau o fewn gwasanaethau offthalmoleg, tynnwyd sylw at y canlynol:

  • Pwysigrwydd gweithlu digonol o feddygon ymgynghorol a buddsoddiad mewn unedau offthalmoleg er mwyn ateb y galw am y gwasanaeth. Mae prinder gweithlu yn rheswm allweddol dros ddiffygion mewn capasiti. Er mwyn mynd i'r afael â phrinder gweithlu a gwella'r ffordd y caiff gofal llygaid ei ddarparu, mae Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yn galw am gynllun graddol i ychwanegu 36 o leoedd hyfforddiant ar gyfer offthalmoleg yng Nghymru erbyn 2031. Yn 2023, mae 62 o feddygon ymgynghorol CALl yng Nghymru, sy'n gyfystyr ag 1.97 o feddygon ymgynghorol CALl fesul 100,000 o'r boblogaeth. Mae hyn yn sylweddol is nag yn Lloegr a'r Alban. Y gymhareb sylfaenol a argymhellir ar gyfer y gymhareb meddygon ymgynghorol i'r boblogaeth ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid mewn ysbytai yw 3 fesul 100,000.
  • Canfu'r arolwg o arweinwyr clinigol offthalmoleg a gynhaliwyd ledled y DU yn 2024 mai lleoliadau digonol ar gyfer cynnal clinigau oedd y ffactor pwysicaf ar y cyd er mwyn gwella gwasanaethau, a nodwyd gan 71%.
  • Mae nifer y cleifion sy'n wynebu'r risg fwyaf sy'n aros am ofal wedi cynyddu'n sylweddol, ac mae'r nifer sy'n cael eu trin wedi aros yn gymharol sefydlog.
  • Mae'n bwysig bod digwyddiadau difrifol yn cael eu cofnodi a bod canllawiau'r Coleg ar niwed yn cael eu dilyn. Mae'n rhaid blaenoriaethu cyflyrau a all arwain at achosion o golli golwg na ellir eu gwrthdroi, ac mae angen i fyrddau iechyd gytuno ar strategaeth ranbarthol i fynd i'r afael â'r risgiau.
  • Mae pryderon bod y broses o roi system cofnodion cleifion electronig ar gyfer offthalmoleg (OpenEyes) ar waith wedi arafu. Mae angen systemau cofnodion cleifion electronig rhyngweithredol sydd wedi'u mabwysiadu'n gyffredinol a safonau delweddu a rennir er mwyn hwyluso prosesau cyfathrebu rhwng byrddau iechyd a gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd.
  • Yr angen i flaenoriaethu cleifion sydd â chyflyrau sy'n arwain at achosion o golli golwg na ellir eu gwrthdroi ac y gellir eu hatal drwy fabwysiadu gweithgarwch ar raddfa fawr a chynnal llawdriniaethau dilyniannol dwyochrog ar gyfer cataractau lle y bo'n briodol.
  • Mireinio prosesau cynllunio swyddi, disgrifiadau swydd a chyfleoedd hyfforddiant er mwyn annog mwy o bobl i wneud cais am swyddi ym maes offthalmoleg a helpu i gadw staff.

Pryderon o safbwynt y claf

Rhannodd y cyflwyniad ar ran Fforwm Golwg Cymru nifer o astudiaethau achos a thynnwyd sylw at faterion o safbwynt profiad y claf, gan gynnwys y canlynol:

  • Mae llawer o gleifion yn teimlo rhwystredigaeth ac anobaith gyda'r gwasanaeth oherwydd eu bod ofn colli eu golwg yn barhaol o ganlyniad i amseroedd aros hir a chyfathrebu gwael gan fyrddau iechyd. 
  • Mae rhwystrau i ofal yn cynnwys:
    • problemau gyda chludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys gan nad yw'r cerbydau hyn bob amser yn addas i gleifion sydd wedi colli golwg
    • gall clinigau gofal llygaid fod yn anhygyrch i gleifion sydd â golwg gwael neu sydd wedi colli golwg
    • weithiau, gall pwysau ar y gweithlu arwain at achosion o ryngweithio digymwynas
    • mae 1 o bob 3 chlaf dall a rhannol ddall wedi colli apwyntiadau o ganlyniad i ddulliau cyfathrebu a gwybodaeth anhygyrch
  • Pwysigrwydd y llwybr cymorth gofal llygaid, sy'n amlinellu'r cymorth sydd ei angen ar bob cam o'r llwybr ar gyfer gofal claf.
  • Cysondeb o ran rôl y swyddogion cyswllt gofal llygaid, a chyllid iddynt gael eu dyrannu fel rhan o gyllidebau staffio offthalmoleg craidd.
  • Pryder ynghylch lefel isel y digwyddiadau difrifol y rhoddir gwybod amdanynt a bod y diffyg prosesau goruchwylio a chraffu strategol yn cuddio i ba raddau y mae cleifion yn dioddef achosion o golli golwg na ellir eu gwrthdroi o ganlyniad i oedi cyn triniaethau.
  • Mae angen camau gwell i integreiddio byrddau iechyd a sefydliadau trydydd sector er mwyn darparu cymorth parhaus i gleifion a sicrhau nad ydynt yn cael eu gadael heb gymorth ar ôl eu hapwyntiadau clinigol.

Sut rydym yn trawsnewid ein gwasanaethau

Canolbwyntiodd y rhan hon o'r uwchgynhadledd ar y gwaith da sy'n mynd rhagddo i drawsnewid gwasanaethau a sut y gellir rhannu hyn ar draws byrddau iechyd. Rhoddwyd nifer o gyflwyniadau gan Weithrediaeth y GIG a 3 bwrdd iechyd, fel a ganlyn.

Llwybrau a dull gweithredu cenedlaethol

Canolbwyntiodd y cyflwyniad gan y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal a gynlluniwyd sy'n rhan o Weithrediaeth y GIG ar y llwybrau clinigol y cytunwyd arnynt, ynghyd ag:

  • esbonio rôl y rhwydwaith gweithredu clinigol offthalmoleg o ran ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau offthalmoleg ledled Cymru drwy osod safonau a datblygu llwybrau gwasanaethau
  • annog cydweithrediad rhwng byrddau iechyd a'r rhwydwaith gweithredu clinigol er mwyn sicrhau mynediad cyfartal i gleifion, partneriaethau â gwasanaethau gofal sylfaenol a'r trydydd sector, gwelliannau i safleoedd, a phwyslais penodol ar is-arbenigeddau
  • nodi sut y byddent yn cefnogi'r broses o roi'r strategaeth offthalmoleg ar waith drwy fynd i'r afael â:
    • heriau'r gweithlu
    • gwelliannau i ystadau
    • seilwaith TG gwell

Datblygu llwybr glawcoma

Canolbwyntiodd y cyflwyniad gan Brifysgol Caerdydd ar y gwelliannau a wnaed i'r llwybr glawcoma, gan gynnwys:

  • manteision defnyddio clinigau "addysgu a thrin" i ddarparu lleoliadau clinigol i optometryddion ennill cymwysterau uwch a helpu i gwtogi rhestrau aros
  • llwyddiant wrth leihau atgyfeiriadau drwy ryddhau cleifion i glinigau gofal cymunedol a gofal sylfaenol a rheoli achosion o fewn y lleoliadau hyn
  • hierarchaeth glir o gymwysterau proffesiynol ar gyfer glawcoma i optometryddion, a chanllawiau clir o ran yr hyn y gall optometryddion cleifion ymdrin ag ef yn ddiogel mewn lleoliad gofal sylfaenol
  • budd hirdymor hyfforddi mwy o optometryddion i ymdrin â glawcoma yn y gymuned
  • tystiolaeth bod potensial i optometryddion gofal sylfaenol ymdrin â chleifion glawcoma gyda chymorth contractau WGOS er mwyn:
    • lleihau amseroedd aros
    • cynnal profiad y claf
    • rhyddhau capasiti mewn ysbytai

Cyfeiriodd y cyflwyniad at bapur diweddar yn gwerthuso rôl gwasanaethau optometrig gofal sylfaenol wrth ymdrin â glawcoma a dirywiad maciwlaidd cysylltiedig ag oedran y tu allan i ysbytai.

Rhoi ffocws o'r newydd i'n gwasanaethau retina meddygol

Esboniodd y cyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe y ffordd y mae'r bwrdd iechyd wedi trawsnewid ei wasanaethau retina meddygol. Roedd elfennau allweddol y broses drawsnewid hon yn cynnwys:

  • sicrhau cysondeb yn y llwybr drwy ddefnyddio algorithmau syml
  • newidiadau optometreg:
    • sefydlwyd y llwybrau mireinio atgyfeiriadau ar gyfer retinopathi diabetig a dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig ag oedran yn y gymuned
    • gwnaed mwy o ddefnydd o optometryddion rhagnodi annibynnol a llwybr sefydledig
    • trosglwyddo'r llwybrau hyn a'u hymgorffori fel rhan o lwybrau WGOS 4 a 5 o fewn y bwrdd iechyd
    • o ganlyniad i'r newidiadau mewn perthynas â retinopathi diabetig, mae cyfanswm o 2111 o gleifion ar y rhestr aros gyda 96% ohonynt yn cael eu gweld erbyn y dyddiad targed neu o fewn 25% i'r dyddiad targed
  • newidiadau ysbytai:
    • datblygu a defnyddio ymarferwyr anfeddygol ar gyfer rhoi pigiadau, adolygu, prosesau laser, cydsyniad ac wfeitis
    • rhoi protocol trin ac estyn ar waith a gwneud dewisiadau call o ran cyffuriau
    • twf clinigau rhithwir
    • sefydlu 2 ystafell lân

Datblygiadau'r llwybr cataract

Tynnodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud i roi'r clinig cataractau un stop ar waith er mwyn atal cleifion rhag gorfod mynychu sawl gwaith a gwella profiad y claf o leiaf 25% cyn cael llawdriniaeth erbyn mis Medi 2025.

Mae manteision disgwyliedig y rhaglen yn cynnwys:

  • gwasanaeth mwy cynhyrchiol
  • profiad gwell i gleifion
  • datblygu'r gweithlu yn fwy
  • prosesau gwell o fewn y gwasanaeth
  • lleihau ôl troed carbon y bwrdd iechyd

Mae'r bwrdd iechyd ran o'r ffordd drwy'r broses o roi'r llwybr hwn ar waith ac mae'r camau nesaf yn cynnwys:

  • rhoi amserlen lawn o glinigau cataractau un stop ar waith yn Ysbyty Glangwili o fis Tachwedd 2024
  • gweithio drwy'r broses o roi clinig cataractau un stop ar waith yng nghlinig llygaid Ffordd y Gogledd yn Aberystwyth ym mis Tachwedd 2024
  • proses safonedig ar gyfer blaenoriaethu cataractau er mwyn helpu i ymdrin ag achosion brys ac achosion rheolaidd mewn ffordd fwy effeithlon
  • cwblhau'r weithdrefn weithredu safonol ar gyfer ymdrin â chleifion sy'n symud o gam 1 i gam 4
  • adolygu prosesau cyflawni theatrau gyda'r nod o gynyddu cyflawniad yn unol ag arbed amser cyn llawdriniaethau

Trafodaeth grŵp

Roedd pwyntiau allweddol o'r drafodaeth grŵp yn cynnwys y canlynol:

  • Mae angen gwell cyfathrebu rhwng byrddau iechyd a chleifion er mwyn rheoli disgwyliadau cleifion o newidiadau i lwybrau er mwyn lleihau dryswch, oedi cyn triniaethau a'r angen i ailatgyfeirio cleifion. Nodwyd bod is-grŵp cyfathrebu a hygyrchedd y rhwydwaith gweithredu clinigol yn gweithio tuag at lunio llythyr safonedig ar gyfer Cymru a fydd ar gael i fyrddau iechyd ei ddefnyddio. 
  • Dylai byrddau iechyd roi'r strategaeth glinigol genedlaethol ar gyfer offthalmoleg ar waith er mwyn safoni ansawdd gofal ledled Cymru. 
  • Rhaid i lais y claf fod yn rhan o'r broses o ddatblygu pob agwedd ar y strategaeth glinigol genedlaethol ar gyfer offthalmoleg a'i rhoi ar waith. 
  • Mae angen buddsoddi yn y gweithlu offthalmoleg ac mewn ystadau er mwyn gwella'r gwasanaethau a ddarperir. 
  • Pwysigrwydd trawsnewid digidol er mwyn ysgogi gwelliannau cynaliadwy o fewn gwasanaethau offthalmoleg. 
  • Mae angen gweithredu er mwyn mynd i'r afael â'r cleifion glawcoma hynny nad ydynt o bosibl yn cael arweiniad ar sut i ddefnyddio'r diferion llygaid a ragnodwyd iddynt. 
  • Yr angen am waith cynllunio cynhwysfawr ar gyfer pob agwedd ar offthalmoleg. 
  • Nodwyd nad yw theatrau gofal llygaid Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu defnyddio'n ddigonol ac y gellid ystyried cyfleoedd i gynnig cyd-gymorth ac i gydweithio â byrddau iechyd eraill. 
  • Dylai byrddau iechyd sicrhau bod timau clinigol yn deall sut i roi gwybod am niwed i gleifion a chofnodi achosion. Defnyddiwyd panel adolygu niwed offthalmoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fel enghraifft o sut y gellid gwneud hyn. 
  • Rôl swyddogion cyswllt gofal llygaid wrth gefnogi cleifion pan fyddant yn cael diagnosis eu bod yn colli eu golwg drwy hefyd gynnig arweiniad i gleifion ar ôl eu diagnosis ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. 
  • Mae angen i fyrddau iechyd wneud ymdrech weithredol i integreiddio a chydgysylltu'n well â gwasanaethau anghlinigol, megis gwasanaethau adsefydlu golwg yn y sector gofal cymdeithasol oedolion a chymorth emosiynol ac ymarferol yn y trydydd sector, er mwyn cynyddu'r cyfleoedd i gleifion fyw'n annibynnol gartref.

Camau gweithredu a'r camau nesaf

Cytunwyd ar yr ymrwymiadau a'r camau gweithredu canlynol a chaiff cynnydd yn erbyn y rhain ei fonitro:

  • Byrddau iechyd i roi llwybrau optometreg WGOS ar waith er mwyn lleihau'r galw am ofal eilaidd a chynyddu capasiti a monitro effaith defnyddio'r llwybrau hyn.
  • Byrddau iechyd, gyda chymorth y rhwydwaith gweithredu clinigol, i fabwysiadu modelau llwybr integredig ar gyfer y llwybr glawcoma, offthalmoleg/optometreg retina meddygol a'r llwybr un stop ar gyfer cataractau.
  • Byrddau iechyd i gynyddu'r capasiti i ymdrin â chataractau yn eu cynlluniau tymor canolig integredig yn unol â'u dadansoddiad o alw a chapasiti a chynllunio sut y gellir rhoi llawdriniaethau dwyochrog ar waith.
  • Byrddau iechyd i ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiadau GiRFT cenedlaethol a lleol.
  • Byrddau iechyd i symud tuag at roi rhestrau cymhlethdod cymysg ar raddfa fawr ar waith.
  • Y rhwydwaith gweithredu clinigol i ddatblygu protocol safonedig ar gyfer rhoi gwybod am niwed yn seiliedig ar ganllawiau Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr a'i roi ar waith ym mhob bwrdd iechyd.
  • Llywodraeth Cymru i gyflymu'r broses o roi'r system cofnodion cleifion electronig ar waith er mwyn gwella dulliau cyfathrebu ac effeithlonrwydd rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd a gwella diogelwch cleifion.
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru i gynnal adolygiad o'r gweithlu er mwyn nodi bylchau ac anghenion ymhlith staff offthalmoleg ar bob lefel, gan gynnwys rolau anghlinigol.
  • Byrddau iechyd i sicrhau y defnyddir dulliau hygyrch i gyfathrebu â chleifion a bod llythyrau apwyntiadau yn cael eu hanfon mewn fformatau y gall cleifion eu darllen yn annibynnol.
  • Byrddau iechyd i ddatblygu achosion busnes yn amlinellu'r buddsoddiad sydd ei angen er mwyn sicrhau gwasanaethau offthalmoleg cynaliadwy, gan gynnwys gwelliannau i'r gweithlu ac ystadau.