Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Grant Cyfalaf Ynni Cymru

3. Sail gyfreithiol y DU

  • Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
  • Adran 1 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975

4. Amcanion polisi penodol y Cynllun

Roedd y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cynnwys uchelgais gyffredin i sefydlu cwmni ynni sy'n eiddo cyhoeddus i Gymru, Ynni Cymru. Mae'r cwmpas presennol ar gyfer Ynni Cymru yn canolbwyntio ar y gweithgareddau craidd canlynol:

  • ‌Gwneud y mwyaf o brosiectau defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd o dan berchnogaeth leol sy'n bodoli eisoes. 
  • ‌Hybu twf prosiectau defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd o dan berchnogaeth leol. 
  • Cynyddu perchnogaeth leol mewn prosiectau ynni adnewyddadwy.
  • Cydgasglu prosiectau ynni adnewyddadwy sydd o dan berchnogaeth leol i alluogi mynediad i farchnadoedd ynni ehangach.
  • Datblygu marchnadoedd ynni lleol lle gellir cydbwyso cyflenwad a galw ac i alluogi budd i ddefnyddwyr a chynhyrchwyr fel ei gilydd.
  • Darparu Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) ledled Cymru, lle mae'r cyflenwad ynni adnewyddadwy yn cael ei ehangu i ateb y galw cynyddol ac mae'r cyflenwad yn cael ei gydbwyso'n well â'r galw.

Mae SLES yn ffordd o ddod â gwahanol asedau ynni ynghyd mewn ardal leol a gwneud iddynt weithredu mewn ffordd fwy clyfar. Gall SLES:

  • hwyluso datgarboneiddio a chyflymu'r defnydd o dechnolegau carbon isel
  • defnyddio adnoddau lleol presennol i ddiwallu anghenion ynni cymunedau
  • cyfrannu at gyflawni sero net yn lleol ac yn genedlaethol
  • creu ystod eang o fanteision economaidd a chymdeithasol
  • osgoi risgiau mewn seilwaith ynni
  • gwella gwytnwch ynni lleol
  • lleihau biliau ynni a mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

Mae potensial gan SLES i greu ystod eang o fuddion economaidd a chymdeithasol i gymunedau lleol, gan gynhyrchu gwerth ehangach sy'n llawer mwy na'u costau. Er mwyn cefnogi'r gwaith o ddarparu SLES ledled Cymru, mae dyraniad cyfalaf o £10m ar gyfer Ynni Cymru yn y flwyddyn ariannol gyfredol (2024-25). Mae Swyddogion Polisi Llywodraeth Cymru a thîm Ynni Cymru wedi gwneud gwaith i archwilio opsiynau ar gyfer defnyddio'r cyllid hwn. Y cynnig yw cynnig cyllid grant i sefydliadau cymwys a all gyflawni prosiectau SLES yn y flwyddyn ariannol bresennol.

Er mwyn cyflawni amcanion polisi, cafodd ceisiadau eu gwerthuso, ar sail gystadleuol yn erbyn ceisiadau eraill, ar sail y meini prawf canlynol:

  • Cyd-fynd ag egwyddorion SLES ac amcanion ehangach Ynni Cymru
  • Ymarferoldeb cyflawni’r cynllun 
  • Effaith
  • Gwerth am arian

5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Bydd y sefydliadau canlynol, sydd â'u pencadlys neu sydd â man gweithredu yng Nghymru, yn cael gneud cais: 

  • Sefydliadau cymunedol
  • Mentrau Cymdeithasol â chyfansoddiad cyfreithiol. Gall Menter Gymdeithasol fod, ymhlith eraill, yn:
    • Gwmni Buddiannau Cymunedol
    • Cwmni cyfyngedig drwy warant neu gyfranddaliadau
    • Cymdeithas Gydweithredol a Chymdeithas Budd Cymunedol
    • Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus
    • Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
    • Elusen gofrestredig:
  • Busnesau Bach a Chanolig cyfreithiol, sydd hefyd yn cyflogi pobl yng Nghymru
  • Cyrff sector cyhoeddus

7. Sector(au) a gefnogir

Cyflenwi trydan, nwy, ager ac aerdymheru

8. Hyd y cynllun

30 Awst 2024 i 31 Rhagfyr 2025.

Sylwch fod yn rhaid cwblhau prosiectau erbyn 31 Mawrth 2025 a hawlio'r cyllid yn llawn erbyn 31 Mai 2025. Nodir diwedd y cynllun fel 31 Rhagfyr 2025, er mwyn caniatáu ar gyfer gwaith monitro ôl-osod parhaus a phrosesau cau Cynllun Llywodraeth Cymru.

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun

£10,000,000

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Cynhwyswyd diffiniad cadarn o SLES yng nghanllawiau'r cynllun sy'n manylu ar egwyddorion, technolegau a ffurfweddiad perthnasol technolegau sy'n angenrheidiol i fodloni gofynion y SLES. 

  • Mae cyllideb o hyd at £10 miliwn o gyllid grant cyfalaf.
  • Rhaid cwblhau prosiectau erbyn 31 Mawrth 2025.
  • Y grant lleiaf y gellir ei roi i brosiect unigol yw £25,000.
  • Y grant mwyaf y gellir ei roi i brosiect unigol yw £1m. 
  • Nid oes yn rhaid wrth gyllid cyfatebol, ond bydd ceisiadau sydd ag elfen o arian cyfatebol yn cael blaenoriaeth.
  • Mae cyllid ar gael i ariannu prosiectau SLES newydd, neu elfennau o brosiect sy'n arwain at greu SLES. 
  • Rhoddir blaenoriaeth i'r prosiectau hynny sy'n brosiectau SLES amlfector (ag elfennau pŵer, gwres a thrafnidiaeth). 
  • Anogir ceisiadau cydweithredol. Ar gyfer ymgeiswyr sy'n Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau), bydd ceisiadau cydweithredol rhwng BBaChau a sefydliadau cymunedol yn cael blaenoriaeth. 

Yn ogystal â chost y technolegau, gellir cynnwys gwaith galluogi rhesymol - megis y rhai sy'n ymwneud â dylunio a pheirianneg, cyflenwi prosiectau, offer, gosod a chomisiynu - ar yr amod eu bod yn uniongyrchol gysylltiedig â'r technolegau sy'n cael eu gosod. Gellir cynnwys hefyd ffioedd ymgynghori a rheoli allanol sy'n gysylltiedig â gosod/adeiladu'r prosiect.

Grant cyfalaf o 100% ar gyfer costau prosiect cymwys. Wedi'i dalu mewn ôl-ddyledion yn seiliedig ar gyflwyno ffurflen hawlio grant wirioneddol a darparu tystiolaeth ategol ynghylch cyflawni'r prosiect.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Roedd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno cais erbyn 5pm ar 18 Hydref 2024. Er mwyn cyflawni amcanion polisi yn effeithiol, cafodd ceisiadau eu gwerthuso, ar sail gystadleuol yn erbyn ceisiadau eraill. Fel rhan o'r ffurflen gais, roedd gofyn i ymgeiswyr nodi:

  • Faint o grant Ynni Cymru oedd ei angen ar y prosiect, a pha gyfran o gost y prosiect yr oedd hyn yn ei gynrychioli. 
  • Pam fod angen arian cyhoeddus, a'r gwahaniaeth y byddai arian cyhoeddus yn ei wneud i'r prosiect. 

Oherwydd yr amserlen dynn ar gyfer defnyddio'r cyllid hwn a natur arloesol prosiectau math SLES, cynigir bod cyllid grant o 100% ar gael yn ystod y flwyddyn gyfredol. Y grant lleiaf y gellir ei roi i brosiect unigol yw £999,999.99.

13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£999,999.99

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image