Mae’r gwaharddiad anwedd untro yn atal cyflenwi, neu gynnig cyflenwi, cynhyrchion anwedd untro o 1 Mehefin 2025.
Yn y casgliad hwn
Nod y gyfraith yw atal y difrod a achosir i'r amgylchedd drwy gynhyrchu a gwaredu'r cynhyrchion hyn yn y ffordd anghywir.
Amserlenni
Bydd y gwaharddiad ar gynhyrchion fepio untro yn dechrau ar 1 Mehefin 2025 ac mae'n cynnwys fêps untro sydd â nicotin ynddynt a'r rheini nad oes ynddynt unrhyw nicotin.
Bydd gwerthu fêps y gellir eu hailddefnyddio yn parhau'n gyfreithlon.
Trosolwg
O dan Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 (“y Rheoliadau”), mae'n drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys am ddim) gynhyrchion fepio untro i ddefnyddwyr yng Nghymru.
Bydd y gwaharddiad yn dechrau o 1 Mehefin 2025 ymlaen, ond anogir busnesau i newid yn awr i gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio.