Neidio i'r prif gynnwy

Mae pleidlais wedi'i phasio yn y Senedd heddiw yn cyflwyno rheoliadau newydd i wahardd cyflenwi fêps untro yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd cyflwyno Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 i wahardd cyflenwi fêps untro (gan gynnwys am ddim) yng Nghymru yn gam hanfodol arall wrth fynd i'r afael â'r llygredd sbwriel a phlastig sy'n difetha ein strydoedd a'n hamgylchedd.

Yn dilyn y bleidlais yn y Senedd, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies:

 "Mae hwn yn gam mawr ymlaen wrth fynd i'r afael â diwylliant taflu i ffwrdd ac effeithiau amgylcheddol fêps untro. Mae hon yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn parhau i weithio gyda gwledydd eraill y DU i fynd i'r afael â'r heriau hyn.

"Bydd cael gwared ar fêps untro o'r gadwyn gyflenwi yn eu hatal rhag niweidio bywyd gwyllt a'r amgylchedd pan fyddant yn creu sbwriel neu'n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Bydd y gwaharddiad hwn yn golygu ein bod yn cynhyrchu llai o wastraff, yn glanhau ein strydoedd, ac yn diogelu natur a bywyd gwyllt."

Daw y Rheoliadau i rym ar 1 Mehefin 2025. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau Datganoledig eraill ar y mater hwn, gyda phob gwlad yn dechrau'r gwaharddiadau ar yr un pryd. Bydd hyn yn galluogi'r gwaharddiadau i gael eu cydlynu i wella cydymffurfiaeth a helpu i ddarparu dull cyson o orfodi ledled y DU.

Ni ellir gwerthu na rhoi fêps untro am ddim ar ôl 1 Mehefin 2025.  Dylai busnesau siarad â'u cyflenwyr nawr am archebu dewisiadau amgen a dechrau addysgu staff a hysbysu cwsmeriaid.  Bydd angen i fusnesau drefnu, i'w cwsmeriaid, gael gwared â'u fêps untro yn ddiogel yn y pen draw.