Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth
Mae'n hanfodol ein bod yn cydweithio â'r diwydiant telathrebu symudol, Ofcom ac adrannau eraill o'r Llywodraeth i sicrhau bod Cymru'n cael y signal ffonau symudol y mae arni ei hangen.
Yng ngoleuni'r trafodaethau hyn a chan gydnabod bod angen gwneud rhagor o waith yn hyn o beth, rwyf yn bwriadu cyhoeddi cynllun gweithredu ar delathrebu symudol er mwyn gwella cysylltedd symudol yng Nghymru, a byddaf hefyd yn amlinellu’r camau y byddwn yn eu cymryd er mwyn cyrraedd y nod yn hynny o beth.
Aed ati hefyd i drafod newidiadau gan Ofcom i'r ffordd y mae'n rheoleiddio'r diwydiant, trafodwyd cymorth i arloesi ym maes seilwaith symudol er mwyn cyrraedd ardaloedd gwledig iawn, a hefyd pa mor bwysig yw sicrhau cysylltedd ar hyd llwybrau trafnidiaeth.
Cytunwyd bod angen gwneud rhagor o waith i ddeall yr effaith y byddai gostwng ardrethi annomestig ar gyfer safleoedd telathrebu symudol newydd yn ei chael ar benderfyniadau buddsoddi a chytunwyd hefyd fod angen asesu faint o safleoedd newydd y gellid eu cynnwys.
Trafodwyd y defnydd o asedau cyhoeddus ar gyfer seilwaith telathrebu symudol, yn benodol, sut i'w gwneud yn haws i ddarparwyr seilwaith symudol gysylltu â pherchenogion tir y sector cyhoeddus ac i weithio gyda nhw. Rwyf wedi gofyn i swyddogion gydweithio â pherchenogion safleoedd a'r diwydiant er mwyn helpu i'w gwneud yn haws i gael mynediad at asedau cyhoeddus ar gyfer seilwaith symudol.
O ran diwygio'r system gynllunio, cytunodd y cwmnïau ffonau symudol a'r darparwyr seilwaith i ddarparu tystiolaeth i lywio'r gwaith sydd ar y gweill i asesu a fyddai diwygio'r drefn gynllunio bresennol yn beth da, gan edrych yn benodol ar Hawliau Datblygu a Ganiateir, er mwyn sicrhau y byddai unrhyw newidiadau a gâi eu hystyried yn cael eu teilwra ar gyfer tirwedd Cymru a'i phatrymau poblogaeth.
Roedd yn gyfarfod adeiladol iawn a chytunwyd ar nifer o gamau ymarferol.
Yr wythnos diwethaf, cynheliais gyfarfod o amgylch y bwrdd gyda chynrychiolwyr y diwydiant ffonau symudol, Ofcom, swyddogion cynllunio lleol a swyddogion Llywodraeth Cymru i ystyried sut y gall y Llywodraeth, y rheoleiddiwr a'r diwydiant gydweithio i wella gwasanaethau ffôn ledled Cymru.
Mae’n hollbwysig inni sicrhau bod gan Gymru'r cysylltedd symudol a fydd yn caniatáu i bobl a 'phethau' gysylltu â'i gilydd mewn ffordd ddibynadwy lle bynnag y bont.
Yn y dyfodol, bydd technoleg symudol 5G yn cael ei chyflwyno, bydd rhyngrwyd o bethau yn cael ei datblygu lle bydd peiriannau a synwyryddion yn defnyddio cysylltedd symudol i drosglwyddo hyd yn oed fwy o wybodaeth.
Mae signal symudol gweithredol a dibynadwy yn fanteisiol i'r economi hefyd, am ei fod yn caniatáu i bobl gadw mewn cysylltiad â'i gilydd wrth deithio ac yn caniatáu hefyd i beiriannau rannu gwybodaeth amser real.
Mae cysylltedd symudol yn fwyfwy pwysig erbyn hyn wrth i ragor o bobl ddefnyddio dyfeisiau symudol o ddydd i ddydd ar gyfer gorchwylion dyddiol fel bancio, at ddibenion adloniant ac er mwyn cadw mewn cysylltiad â chyfeillion a pherthnasau.