Nodau'r ymchwil hon oedd asesu dichonoldeb gwerthuso'r gwaith o weithredu a chyflawni'r Warant i Bobl Ifanc (YPG) a'i heffeithiau hirdymor, a datblygu fframwaith gwerthuso ar ei chyfer.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cefndir
Mae’r YPG yn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gynnig cymorth yn barhaus i bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru i ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu fynd yn hunangyflogedig. Mae Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid (YEPF) Llywodraeth Cymru yn ymwneud â darparu cymorth i bobl ifanc 11 i 18 oed sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu'n ddigartref, neu sy'n NEET.
Diben
Mae'r adroddiad hwn yn trafod a ddylid gwerthuso'r YPG a sut y gellid gwneud hyn. Mae hefyd yn cwmpasu gwerthusiad o'r YEPF oherwydd bod y polisi hwn yn gorgyffwrdd â'r YPG ac yn ei hategu.
Cwmpas
Mae'r adroddiad yn nodi:
- tair damcaniaeth newid rhyng-gysylltiedig ar gyfer y YPG a'r YEPF, sy'n ymwneud â pholisi ac arferion, pobl ifanc ac effaith gymdeithasol ehangach
- damcaniaeth newid lefel uchel ('meta') ar gyfer yr YPG
- dulliau damcaniaethol cymdeithasol perthnasol
- cwestiynau gwerthuso arfaethedig
- trosolwg ac asesiad o argaeledd a digonolrwydd y data presennol neu ddata posibl i ateb y cwestiynau.
- dangosyddion perfformiad allweddol arfaethedig ar gyfer yr YPG, yr YEPF, a'r YPG a'r YEPF gyda'i gilydd
Casgliadau
Mae modd gwerthuso'r YPG i raddau. Fodd bynnag, mae priodoli effaith ar ganlyniadau i bobl ifanc a'r effaith gymdeithasol ehangach yn debygol o fod yn heriol. Felly, dylid defnyddio dull seiliedig ar theori o werthuso effaith, fel dadansoddi cyfraniadau.
Gallai hyn ddarparu tystiolaeth a chyflwyno rhesymau ynghylch y cyfraniad y mae'r YPG ac YEPF wedi'i wneud i ganlyniadau a ddogfennwyd ar gyfer pobl ifanc a'r gymdeithas ehangach, hyd yn oed os nad yw'n bosibl mesur maint neu raddfa'r effeithiau.
Adroddiadau
Y Warant i Bobl Ifanc: asesiad gwerthuso a fframwaith gwerthuso arfaethedig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Y Warant i Bobl Ifanc: asesiad gwerthuso a fframwaith gwerthuso arfaethedig (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 524 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.