Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae trethi Cymru yn rhan hanfodol o'n trefniadau cyllidol, gan gyfrannu at y cyllid sydd ar gael ar gyfer ein cynlluniau gwariant sydd wedi'u nodi yn y Gyllideb Ddrafft heddiw, yn ogystal â darparu dull cyflawni pwysig ar gyfer rhai o'n blaenoriaethau polisi. 

Gyda'i gilydd, bydd Cyfraddau Treth Incwm Cymru, y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a'r Dreth Trafodiadau Tir yn cyfrannu tua £4 biliwn at Gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26.

Mae'r datganiad hwn yn amlinellu'r penderfyniadau allweddol yr ydym yn eu cynnig o ran trethi Cymru.

Cyfraddau Treth Incwm Cymru

 Rwy'n cynnig pennu cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2025-26 ar 10c ar gyfer y tair cyfradd treth incwm (sylfaenol, uwch ac ychwanegol). Bydd hyn yn sicrhau bod trethdalwyr yng Nghymru yn talu'r un cyfraddau treth incwm â threthdalwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw newidiadau i gyfraddau treth incwm Cymru yn ystod 2025-26.

Law yn llaw â'r Gyllideb Ddrafft hon, rwy'n cyhoeddi Canllaw Cyflym wedi'i ddiweddaru ynghylch Cyfraddau Treth Incwm Cymru. Mae'n rhoi amcangyfrifon o'r effaith y gallai newidiadau i bob un o dair cyfradd Cymru ei chael ar refeniw.

Y Dreth Trafodiadau Tir

 Mae cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir yn cynyddu un pwynt canran ar draws pob band yn y Gyllideb Ddrafft hon. Caiff y newidiadau hyn eu gwneud heddiw drwy reoliadau a byddant yn dod i rym ar 11 Rhagfyr. Bydd y trethdalwyr hynny sydd eisoes wedi cyfnewid contractau yn talu'r cyfraddau blaenorol cyn belled â'u bod yn cydymffurfio â'r rheolau trosiannol perthnasol.

Yn fras, bydd y newid hwn yn arwain at osod cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir bum pwynt canran yn uwch na'r prif gyfraddau preswyl. Amcangyfrifir y bydd y cynnydd hwn yn arwain at gyllid ychwanegol gwerth £7 miliwn yn ystod 2025-26, a fydd yn cynyddu'r cyllid sydd ar gael i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. 

Gweler y newidiadau i'r cyfraddau yn Atodiad 1. Mae'r rheoliadau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol 'gwnaed' a bydd pleidlais y Senedd i roi effaith barhaol i'r cyfraddau hyn yn cael ei chynnal ym mis Ionawr. 

Nid wyf yn cynnig newid unrhyw un o gyfraddau neu fandiau eraill y Dreth Trafodiadau Tir.

Mae'r trothwy cychwyn presennol ar gyfer prif gyfraddau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir yn dal i fod yn £225,000 gan sicrhau bod tua 60% o'r trafodiadau preswyl yn is na'r trothwy ar gyfer talu'r Dreth Trafodiadau Tir. 

Fel y manylir yn y Rhagolwg Trethi Cymreig a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr, mae'r refeniw a ragwelir o'r Dreth Trafodiadau Tir yn ystod 2025-26 yn cynnwys £2.6 miliwn o dderbyniadau trethi ychwanegol yn sgil buddsoddi adnoddau ychwanegol yn Awdurdod Cyllid Cymru. Bydd hyn yn caniatáu i'r Awdurdod ehangu ei waith i nodi a chywiro ffurflenni treth sy'n ceisio tan-adrodd yr atebolrwydd i dalu trethi ac yna adennill y symiau hynny.

Yn y flwyddyn newydd, byddaf yn gosod rheoliadau drafft gerbron y Senedd i wneud newidiadau i'r rhyddhad anheddau lluosog sydd ar gael wrth brynu dau annedd neu ragor yng Nghymru. Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau na fydd hawliadau am ryddhad anheddau lluosog yn cael eu caniatáu pan fo'r Esemptiad Anheddau Atodol yn cael ei gymhwyso. Byddai trethdalwyr sy'n ddarostyngedig i'r esemptiad felly'n talu'r prif gyfraddau preswyl ar gyfanswm y gydnabyddiaeth, heb fudd y rhyddhad anheddau lluosog. Dyma'r cam cyntaf tuag at wella'r gyfundrefn sy'n sail i brynu mwy nag un eiddo mewn trafodiad. Bydd rhagor o waith yn cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn sydd i ddod er mwyn ystyried y rhyddhad anheddau lluosog yng nghyfundrefn y dreth trafodiadau tir.

Bydd rheoliadau drafft hefyd yn cael eu gosod heddiw i estyn rhyddhad safleoedd treth arbennig newydd y Dreth Trafodiadau Tir, a roddir ar hyn o bryd i'r Porthladd Rhydd Celtaidd, i ardaloedd dynodedig perthnasol Porthladd Rhydd Ynys Môn. Mae'r rheoliadau hynny'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft, ac ym mis Ionawr, ceisir cymeradwyaeth y Senedd i sicrhau y bydd y rhyddhad ar waith pan ddaw rheoliadau dynodi Llywodraeth y DU i rym. 

Y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

 Mae'r Gyllideb Ddrafft hon yn cynnig codi cyfradd safonol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi o 1 Ebrill 2025 ymlaen, yn unol â'r cynnydd i Dreth Tirlenwi gyfatebol Llywodraeth y DU. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar refeniw trethi, gan hefydleihau'r risg o symud gwastraff ar draws ffiniau.

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, bydd yn cael ei godi i £6.30 y dunnell. Bydd hyn yn gosod y gyfradd is ar 5% o'r gyfradd safonol, ychydig o dan ddwbl y gyfradd bresennol. 

Caiff crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ei gyhoeddi heddiw.

Yn unol ag amcanion Llywodraeth Cymru, mae'r dull newydd ar gyfer gosod cyfraddau is ynghyd â'r cynnydd sylweddol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cydnabod yr angen i gynyddu cymhellion i leihau gwastraff a waredir drwy safleoedd tirlenwi, a hynny wrth geisio rheoli'r risgiau o ran twristiaeth gwastraff a'r cynnydd mewn troseddau gwastraff. 

Byddwn yn monitro effaith y newid hwn, ac rwy'n barod, yn ôl yr angen i helpu i gyrraedd ein nod o ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050, i gynyddu'r gyfradd ymhellach os na fydd tystiolaeth yn dangos lleihad yn swm y gwastraff graddfa is a waredir drwy safleoedd tirlenwi.

Bydd y gyfradd anawdurdodedig yn parhau i fod yn 150% o'r gyfradd safonol.

Bydd y Rheoliadau sy'n ofynnol i roi effaith i'r newidiadau hyn (a amlinellir yn Atodiad 2) yn cael eu gosod gerbron y Senedd yn gynnar yn 2025.

Adroddiad ar Bolisi Trethi Cymru

Caiff y pedwerydd Adroddiad ar Bolisi Trethi Cymru ei gyhoeddi heddiw hefyd. Mae'n adrodd yn erbyn Fframwaith Polisi Trethi a Chynllun Gwaith Polisi Trethi 2021-2026 Llywodraeth Cymru. Mae'n nodi cynnydd ar ystod o weithgareddau, gan gynnwys bwrw ati â'n hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu sy'n ymwneud â threthi o ran diwygio cyllid llywodraeth leol, a'r Bil ardoll ymwelwyr.