Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth inni gyhoeddi’r Cynllun Iechyd Menywod heddiw, a blwyddyn wedi i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd gyhoeddi ei adroddiad i ganser gynaecolegol, mae’r datganiad hwn yn rhoi diweddariad am y gwaith i wella gwasanaethau’r GIG i fenywod â chanser gynaecolegol.

Gwelwyd rhai gwelliannau hirdymor pwysig yn y cyfraddau goroesi ar gyfer y rhan fwyaf o ganserau gynaecolegol ac mae llawer o fenywod yn rhoi gwybod eu bod wedi cael profiad cadarnhaol wrth dderbyn triniaeth. 

Ond nid yw’r perfformiad presennol gan fyrddau iechyd ar gyfer canserau gynaecolegol yn ddigon da yn erbyn y targed canser 62 diwrnod – mae oddeutu 38%. Golyga hyn nad yw digon o fenywod yn cael y safon gofal y byddem yn ei ddisgwyl.

Mae gwella gwasanaethau a chanlyniadau canser yn brif flaenoriaeth gennym ar gyfer y GIG. Rydym wedi nodi ein disgwyliadau ar gyfer darpariaeth yn fframwaith cynllunio'r GIG a fframwaith perfformiad y GIG. Mae hyn yn cynnwys gweithredu'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser fel rhan o’r prosesau cynllunio lleol a sicrhau bod y targed canser o 62 diwrnod yn cael ei gyflawni ar gyfer 75% o achosion.

Rydym yn gweithio gyda'r GIG yng Nghymru i wella mynediad fel bod menywod yn cael diagnosis cynharach ac yn dechrau triniaeth cyn gynted â phosibl. Mae dau fwrdd iechyd wedi sicrhau cydymffurfiaeth o fwy na 60% â tharged y llwybr yn y ffigurau perfformiad diweddaraf – ond mae lle i wella eto i sicrhau y gall pob menyw yng Nghymru gael safon gwasanaeth tebyg.

Rydym wedi cyhoeddi o'r blaen ein bod yn rhoi cyllid o 2 miliwn y flwyddyn ar gyfer Rhaglen genedlaethol Gweithrediaeth y GIG ar gyfer Gofal a Gynlluniwyd i ddarparu Rhaglen Adfer Canser i ganolbwyntio ar wella’r llwybrau canser sydd â'r perfformiad gwaethaf, fel canserau gynaecolegol. Mae tîm y rhaglen yn gweithio gyda byrddau iechyd i weithredu'r pedwar llwybr y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer canser gynaecolegol – canserau ceg y groth, yr endometriwm, yr ofari, a'r fwlfa.

Mae'r rhain yn rhan o'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser ac yn rhoi amlinelliad i fyrddau iechyd o ran sut mae'n rhaid iddynt gynllunio a darparu gwasanaethau. Rydym wedi pwysleisio’r gofyniad hwn mewn dau Gylchlythyr Iechyd Cymru, ac mewn dwy uwchgynhadledd Weinidogol gydag arweinwyr gwasanaethau'r GIG yn ystod y 12 mis diwethaf

Mae Clinigwyr sy'n ymwneud â'r Rhaglen Adfer Canser a Rhwydwaith Canser Cymru yn datblygu llwybr newydd ar gyfer menywod sy'n cael presgripsiwn am Therapi Adfer Hormonau ac sy'n profi gwaedu annisgwyl. Bydd hyn yn helpu’r GIG i ymchwilio i achosion sy'n cael eu hatgyfeirio oherwydd amheuaeth o ganser, a hynny yn fwy prydlon.

Mae angen inni hefyd wneud yn siŵr fod menywod sy’n dod at y GIG gyda symptomau’n cael eu clywed ac yn cael eu hatgyfeirio’n briodol.

Rhaid i’r Cynllun Iechyd Menywod fod yn gatalydd ar gyfer newid gwirioneddol yn y GIG. Rhaid iddo sicrhau bod profiadau menywod yn cael eu cydnabod yn briodol a bod menywod yn cael gwrandawiad.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cyflwyno deunydd dysgu digidol i bob practis cyffredinol i helpu timau clinigol i asesu pobl sy'n adrodd am symptomau, a gwneud penderfyniadau atgyfeirio da. Mae’r Canolfannau Diagnostig Cyflym, a sefydlwyd ar gyfer pobl â symptomau nad ydynt yn cyd-fynd â’r meini prawf atgyfeirio ar gyfer amheuaeth o ganser, wedi datblygu llwybrau sy’n rhoi opsiwn ychwanegol i feddygon teulu pan fyddant yn amau canser, ond nad yw'r symptomau'n cyd-fynd yn glir â chanllawiau atgyfeirio ar gyfer canser. Mae'r rhain ar waith ledled Cymru ac yn helpu i sicrhau bod ffordd arall o gynnig ymchwiliad cyflym i fenywod lle amheuir canser. 

Rydym hefyd yn canolbwyntio ar wella mynediad at ddiagnosteg ac rydym wedi nodi ein dull gweithredu yn y Strategaeth Adfer a Thrawsnewid Diagnosteg. 

Yn fwy eang, mae’r cyfraddau uchel sy’n manteisio ar frechlynnau rhag HPV a sgrinio serfigol yn debygol o gael effaith hirdymor ar niferoedd achosion canser ceg y groth yn y blynyddoedd i ddod, ac rydym wedi cyflwyno archwiliad clinigol o ofal canser yr ofari i wella ansawdd triniaeth. Mae'r ymyriadau penodol hyn yn cyd-fynd â nifer o newidiadau a buddsoddiadau pwysig i wasanaethau, gan gynnwys datblygu'r ganolfan gynaecoleg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, y gwaith adeiladu parhaus i Ganolfan Ganser newydd Felindre, a disodli offer radiotherapi yn ein tair canolfan ganser ranbarthol.

Mae llawer mwy i’w wneud o hyd i wella gwasanaethau i fenywod â chanser gynaecolegol. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio gyda'r GIG i wneud y gwelliannau hyn.