Neidio i'r prif gynnwy

1. Cefndir

Gofynnodd Llywodraeth Cymru am farn ar gynigion i newid agweddau ar bysgodfa cregyn moch Cymru drwy ymgynghoriad pythefnos o hyd. 

Mae'r newidiadau arfaethedig ar gyfer cyfnod trwyddedau cregyn moch 2025-2026 yn dechrau ar 1 Mawrth 2025 ac maent yn cynnwys: 

  • ffi'r drwydded, a fydd yn cynyddu gyda chostau chwyddiant i £309     
  • bydd y Terfyn Dalfa Blynyddol yn lleihau 5% o 4,768 tunnell i 4,529 tunnell;
  • ni fydd unrhyw newid i'r Terfyn Dalfa Misol cychwynnol sef 50 tunnell
  • fydd amodau’r trwydded Cregyn moch yn aros yr un fath.

2. Cyfnod ymgynghori a dosbarthu

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 22 Tachwedd a 6 Rhagfyr 2024 yn gynhwysol. 

Cafodd yr ymgynghoriad ei gyhoeddi ar LLYW. CYMRU ac anfonwyd llythyr at holl bysgotwyr cofrestredig Cymru yn ogystal â physgotwyr eraill y gwyddys eu bod yn pysgota am gregyn moch yn ym mharth Cymru a phrynwyr/proseswyr cregyn moch. 

Roedd ymatebwyr yn gallu ymateb drwy e-bost neu drwy ddarparu ymateb ysgrifenedig. 

3. Ymatebion

Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gyflwyno eu barn ac ymateb i'r ymgynghoriad, bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried cyn cyflwyno amodau'r drwydded.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, derbyniwyd ymatebion gan 2 unigolyn sydd â diddordeb ym mhysgodfa cregyn moch Cymru.

4. Ymgynghoriad

Roedd yr ymgynghoriad yn holi barn ar y cynnydd arfaethedig o ffi'r drwydded i £309, y Bydd y Terfyn Dalfa Blynyddol yn lleihau 5% o 4,768 tunnell i 4,529 tunnell,

ni fydd unrhyw newid i'r Terfyn Dalfa Misol cychwynnol sef 50 tunnell a ni fydd unrhyw newis i amodau’r twydded. Bydd yr amodau hyn yn berthnasol i drwyddedau a fydd yn ofynnol gan unrhyw un sy'n dymuno pysgota am gregyn moch sy'n defnyddio potiau yn fasnachol ym mharth Cymru ar gyfer y cyfnod trwyddedu rhwng 1 Mawrth 2025 a 28 Chwefror 2026.

5. Crynodeb

Derbyniwyd dau sylw yn ystod y cyfnod ymgynghori anffurfiol. Holodd un am yr ostyngiad i'r Terfyn Dalfeydd Blynyddol. Cytunodd un sylw fod y cynigion yn ymddangos yn rhesymol. Gofynnodd ymatebydd pellach i weld yr arolwg stoc cregyn moch.

6. Camau nesaf

Mae swyddogion polisi Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr holl ymatebion a sylwadau a dderbyniwyd. Bydd swyddogion nawr yn paratoi briff i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y canlyniadau.

Mae swyddogion yn disgwyl agor y bysgodfa cregyn moch a ganiateir ar 1 Mawrth 2025. 

Rhagwelir y bydd cyfnod ymgeisio am drwydded yn agor ym mis Rhagfyr a bydd swyddogion yn darparu gwybodaeth i bob pysgotwr bryd hynny.

Bydd unrhyw amodau ychwanegol i'r drwydded sy'n ofynnol i gydymffurfio â Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 yn cael eu cadarnhau cyn i gyfnod cyntaf y drwydded ddechrau ar 1 Mawrth 2025.

Gwybodaeth ychwanegol

ISBN 978-1-80391-458-9