Polisi a strategaeth, Dogfennu
Cynllun ar gyfer gofal iechyd a chymdeithasol 2024
Yn dilyn cefnogaeth gan y Cabinet yn haf 2024, cytunwyd ar gyfres o gamau wedi’u hadnewyddu i gefnogi’r gwaith o gyflawni Cymru iachach.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 96 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ataliol:
- Hyrwyddo cyfrifoldeb ar y cyd i gynnal iechyd da ar gyfer unigolion, cymunedau a’r system iechyd a gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar atal iechyd gwael a chlefydau rhag taro, ac ar nodi ac ymyrryd yn gynnar pan fo clefyd yn taro.
- Drwy wasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol a chymdeithasol, helpu pobl i aros yn iach yn eu cartrefi neu’n nes atynt, drwy ddull integredig o wella iechyd a lles y genedl; gan ganolbwyntio ar adsefydlu, ailalluogi ac adfer, darparu cymorth gweithredol i gadw pobl yn iach a chynnal eu hannibyniaeth.
- Atal a chanfod clefydau a salwch yn gynharach i wella canlyniadau iechyd unigolion a’r boblogaeth drwy raglen sgrinio iechyd wedi’i thargedu, rhoi fframwaith imiwneiddio cenedlaethol Cymru ar waith a chyflawni targedau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer dileu clefydau.
- Adeiladu a chryfhau’r system diogelu iechyd i atal bygythiadau i ddiogelwch iechyd, paratoi ar eu cyfer ac ymateb iddynt, nawr ac yn y dyfodol, gan gynnwys pandemigau, ar sail dull gweithredu ‘pob perygl’.
Canolbwyntio ar yr unigolyn:
- Sicrhau y gall pob dinesydd gael gwasanaethau iechyd a gofal amserol yn deg, waeth beth fo’i anghenion o ran iaith neu fformat cyfathrebu.
- Sefydlu a chyflawni gweledigaethau a chynlluniau clir ar gyfer iechyd menywod ac iechyd plant o’r cyfnod cyn geni hyd at ddiwedd oes.
- Parhau i weithredu system gofal cymunedol integredig ar gyfer Cymru sy’n darparu gofal di-dor seiliedig ar leoedd, a gaiff ei gynllunio a’i ddarparu o amgylch anghenion unigolion a grwpiau o bobl.
- Creu Cymru oed-gyfeillgar sy’n cefnogi pobl o bob oed i fyw, heneiddio a marw’n dda.
Cynaliadwy:
- Ymgorffori camau gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd wrth wneud penderfyniadau a chynllunio ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol.
- Drwy gyfarwyddyd cenedlaethol y Bwrdd Gwerth a Chynaliadwyedd, gwreiddio dull gofal iechyd seiliedig ar werth ar draws y system i ganolbwyntio ar sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau yn ddoeth i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar sail tystiolaeth i gleifion.
- Ymgorffori Cymru iachach mewn cynllun cenedlaethol, y gellir ei roi ar waith wedyn yn y GIG drwy’r fframwaith cynllunio sy’n rhaeadru i brosesau cynllunio ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.
- Adfer, ailosod a thrawsnewid gwasanaethau gofal a gynlluniwyd drwy ganolbwyntio ar gael gwared â’r ôl-groniad o ran pobl sy’n aros am driniaeth, ailosod y gwasanaeth gan ganolbwyntio ar fodel gwasanaeth effeithlon a gaiff ei arwain gan werth, ac ysgogi trawsnewid drwy wreiddio gwasanaethau cynaliadwy.
- Sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn darparu’r gofal gorau posibl i gleifion bob amser drwy’r fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio perfformiad.
- Sicrhau bod trefniadau partneriaeth ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn sbarduno newid, effeithlonrwydd a chynaliadwyedd systemau drwy gydweithio, a dull ‘un gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru’.
Teg:
- Lleihau anghydraddoldebau iechyd drwy sicrhau mynediad cyfartal i’r system iechyd a gofal cymdeithasol, a fydd yn arwain at ganlyniadau teg.
- Sicrhau bod y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cyflawni ei gweledigaeth i ddarparu dull system gyfan deg, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn cyflawni canlyniadau iechyd a llesiant mwy cyfartal i boblogaeth Cymru.
Ansawdd uchel a diogel:
- Safoni a lleihau amrywiaeth mewn llwybrau, modelau gwasanaeth a phrosesau, drwy weithredu modelau safonol a gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ar sail unwaith i Gymru.
- Gyrru’r gwaith o gyfyngu ar ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd, ei reoli a’i liniaru, yng Nghymru, y DU a thu hwnt.
- Gwneud y defnydd gorau o Weithrediaeth y GIG i ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch y gofal.
- Tuag at wasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol i Gymru.
Digidol a data:
- Ar y cyd â phartneriaid yn y diwydiant, rhoi systemau clinigol, cofnodion gofal electronig, a thechnolegau meddygol llwyddiannus ar waith i safoni llwybrau gofal yn well, gwella cynhyrchiant a chefnogi clinigwyr a gweithwyr proffesiynol wrth iddynt wneud penderfyniadau a chaniatáu ar gyfer cynllunio iechyd y boblogaeth yn ehangach.
- Trwy gyfrwng proffesiwn digidol a data cryfach, rhoi hwb sylweddol i’r aeddfedrwydd digidol a data sy’n ofynnol i fodloni arferion a safonau gorau rhyngwladol mewn seiber, seilwaith, dylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, rhannu a chofnodi data, datblygu’r gweithlu, cofnodion iechyd a llesiant electronig, caffael hyblyg a diogelwch clinigol.
- Sefydlu saernïaeth fenter genedlaethol glir a chytunedig sy’n seiliedig ar safonau craidd a dealltwriaeth glir o sut mae data, cymwysiadau a thechnoleg yn sail i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cenedlaethol a blaenoriaethau polisi.
- Sicrhau bod galluoedd digidol cenedlaethol allweddol yn cael eu defnyddio’n llawn, megis systemau diagnostig ac arbenigol, ap GIG Cymru a rhagnodi electronig i helpu cleifion a’r cyhoedd i gael mynediad at eu data eu hunain a rheoli eu gofal, gan sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl o ganlyniad i allgáu digidol.
- Rhoi’r defnydd o ddata, mewnwelediad a dadansoddeg, a ddefnyddir mewn modd saff a diogel, wrth wraidd y system iechyd a gofal i sicrhau gwell canlyniadau iechyd a llesiant.
Gweithlu:
- Sicrhau gweithlu cynhwysol, hyblyg, amlbroffesiynol sy’n gallu gweithio ar draws sectorau a ffiniau traddodiadol drwy sicrhau bod strategaeth y gweithlu yn cael ei gweithredu a’i hategu gan brosesau data a chynllunio’r gweithlu rhagorol i ddenu, recriwtio a chadw pobl dalentog i hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru.
- Gwreiddio arweinyddiaeth dosturiol a datblygu diwylliant cadarnhaol ar draws y GIG a’r system gofal cymdeithasol yng Nghymru i fod yn gyflogwyr enghreifftiol ar gyfer iechyd, llesiant, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith gyda’r bwriad o rannu’r dull hwn ar draws yr economi ehangach.
- Defnyddio’r gweithlu yn effeithiol ac yn effeithlon i fanteisio i’r eithaf ar ein buddsoddiad yn sgiliau’r gweithlu ac mewn technoleg i sicrhau canlyniadau diogel i gleifion.
Ymchwil, datblygu ac arloesi:
- Cryfhau’r gallu a’r capasiti i ymchwilio, a chodi ymwybyddiaeth o ymchwil ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddatblygu cynlluniau gwella wedi’u targedu a phartneriaethau ariannu strategol, a hyrwyddo’r defnydd effeithiol o ymchwil i lywio polisi a gwella gwasanaethau.
- Datblygu a chyflwyno gweledigaeth gynhwysfawr ar gyfer gwyddorau bywyd ac arloesedd sy’n gatalydd ar gyfer gwella iechyd a chyfoeth poblogaeth Cymru a’i heconomi.
- Defnyddio technolegau, datblygiadau arloesol a biowyddorau modern a newydd, gan gynnwys genomeg a thriniaethau wedi’u personoli, i sicrhau mwy o werth a chynaliadwyedd ar draws yr holl raglenni a mentrau gwella a thrawsnewid cenedlaethol.
Cydgynhyrchu a phartneriaeth:
- Sicrhau bod gan bobl Cymru lais cryf i lywio datblygiad parhaus system iechyd a gofal cymdeithasol effeithiol a chydgysylltiedig.
- Sicrhau bod unigolion a’u gofalwyr yn cael eu galluogi i weithio fel partneriaid allweddol wrth gydgynhyrchu a pherchnogi eu cynlluniau iechyd a gofal eu hunain.
Integreiddio:
- Datblygu ac ehangu modelau o wasanaethau integredig yn y gymuned yn unol ag anghenion iechyd a llesiant y boblogaeth i gyflawni model cyson o ofal cymunedol integredig ledled Cymru.
- Adeiladu ar drefniadau partneriaeth rhanbarthol a lleol i sicrhau mwy o gysondeb wrth gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau iechyd a gofal er mwyn gwneud y mwyaf o asedau ac adnoddau.