Nod y Bil hwn yw atal tomenni segur (glo a di-lo) rhag bygwth lles dynol oherwydd ansefydlogrwydd.
Dogfennau
Asesiad effaith integredig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 410 KB
Asesiad o’r effaith at hawliau plant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 472 KB
Asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 422 KB
Asesiad o’r effaith ar prawfesur gwledig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 247 KB
Asesiad o’r effaith ar ddiogelu data , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 438 KB
Asesiad o’r effaith ar y Gymraeg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 356 KB
Asesiad o’r effaith ar fioamrywiaeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 224 KB
Asesiad dyletswydd economaidd-gymdeithasol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 538 KB
Asesiad o’r effaith ar sgrinio iechyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 242 KB
Asesiad o’r effaith ar gyfiawnder , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 489 KB
Manylion
Mae 2,573 o domenni glo nas defnyddir yng Nghymru, yn bennaf yng nghymoedd y De, ac amcangyfrifir bod dros 20,000 o domenni eraill nas defnyddir (hy. tomenni nad ydynt yn domenni glo) yng Nghymru. Ym mis Chwefror 2020, yn dilyn stormydd Ciara a Dennis, cafwyd cyfres o dirlithriadau ar domenni glo yng Nghymru, gan gynnwys tirlithriad mawr ar domen nas defnyddir yn Tylorstown, ac ym mis Tachwedd 2024, achosodd Storm Bert dirlithriad ar domen lo nas defnyddir yng Nghwmtyleri. Mae’r tirlithriadau hyn yn dangos y risgiau posibl i gymunedau a berir gan domenni nas defnyddir.
Mae gan Gymru dreftadaeth lofaol y mae'n falch ohoni, ac mae'n hanfodol bod gennym ddull strwythuredig o reoli tomenni nas defnyddir i sicrhau eu bod yn ddiogel ac nad ydynt yn fygythiad i'n cymunedau. Nid yw'r fframwaith deddfwriaethol presennol yn Neddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomennni) 1969 bellach yn darparu fframwaith rheoli effeithiol ar gyfer tomenni glo nas defnyddir yn yr unfed ganrif ar hugain. Ymrwymiad a blaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon, fel y nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu 2021, yw cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau diogelwch tomenni glo.
Mae'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) ("y Bil") yn bodloni'r ymrwymiad hwnnw. Prif ddiben y Bil yw atal tomenni nas defnyddir - tomenni glo a thomenni nad ydynt yn lo - rhag bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd. Bydd y Bil yn cyflawni hyn drwy sefydlu corff cyhoeddus newydd, Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru ('yr Awdurdod'), a fydd â swyddogaethau mewn perthynas ag asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir.
I grynhoi, mae'r Bil:
- yn sefydlu'r Awdurdod fel corff corfforedig. Ei brif amcan wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Bil yw sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd,
- yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu, cofrestru a monitro tomenni nas defnyddir,
- yn cynnwys darpariaethau sy’n galluogi’r Awdurdod i ymdrin â thomenni ansefydlog a bygythiadau i sefydlogrwydd tomen. Mae hyn yn cynnwys pwerau i’w gwneud yn ofynnol i berchennog tir gynnal gweithrediadau ac i’r Awdurdod gynnal gweithrediadau ei hun, a darpariaethau cysylltiedig mewn perthynas â thaliadau mewn cysylltiad â gweithrediadau o’r fath,
- yn cynnwys darpariaethau atodol gan gynnwys pwerau mynediad, darpariaethau rhannu gwybodaeth a phwerau i ofyn am wybodaeth, ac
- yn creu troseddau cysylltiedig i gefnogi gorfodi’r gyfundrefn.
Cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru), yn ogystal ag ymgysylltiad parhaus â rhanddeiliaid allweddol yn ystod datblygiad y Bil.