Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Heddiw, mae’r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir (Cymru) ('y Bil') a Memorandwm Esboniadol wedi'u gosod gerbron Senedd Cymru.
Mae gan Gymru dreftadaeth lofaol falch, ac mae ei gwaddol i'w gweld ar draws ein tirwedd heddiw. Mae'r Bil yn ymwneud â diogelwch tomenni glo a thomenni nad ydynt yn domenni glo yng Nghymru. Mae 2,573 o domenni glo nas defnyddir yng Nghymru, ac er eu bod yn bennaf yng nghymoedd y De, mae'r mater hwn yn effeithio ar Orllewin a Gogledd Cymru, ac amcangyfrifir bod 20,000 o domenni eraill nas defnyddir (hy. tomenni nad ydynt yn domenni glo) yng Nghymru.
Ym mis Chwefror 2020, yn dilyn stormydd Ciara a Dennis, cafwyd cyfres o dirlithriadau ar domenni glo yng Nghymru, gan gynnwys tirlithriad mawr ar domen nas defnyddir yn Tylorstown. Mae'r tirlithriadau hyn, yn ogystal â'r digwyddiad diweddar yng Nghwmtyleri, yn dangos y risgiau posibl y mae tomenni nas defnyddir yn eu hachosi i gymunedau.
Mae'n hanfodol bod gennym ddull strwythuredig o reoli tomenni nas defnyddir i sicrhau eu bod yn ddiogel ac nad ydynt yn fygythiad i'n cymunedau.
Ym mis Hydref 2020, gwahoddodd Llywodraeth Cymru Gomisiwn y Gyfraith i werthuso'r ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas â thomenni glo nas defnyddir. Yn 2022, cyhoeddodd adroddiad: Rheoleiddio Diogelwch Tomennydd Glo yng Nghymru. Roedd yn ystyried y fframwaith deddfwriaethol presennol yn Rhan 2 Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomennni) 1969 a nododd nad oedd y Ddeddf honno bellach yn darparu fframwaith rheoli effeithiol ar gyfer tomenni glo nas defnyddir yn yr unfed ganrif ar hugain. Argymhellwyd diwygio.
Ymrwymiad a blaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon, fel y nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu 2021, yw cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau diogelwch tomenni glo.
Mae'r Bil yn bodloni'r ymrwymiad hwnnw ac, i gydnabod argymhellion Comisiwn y Gyfraith ynglŷn â diffygion y fframwaith deddfwriaethol presennol, yn sefydlu cyfundrefn newydd sydd wedi'i chynllunio'n benodol i ddelio â'r tomenni nas defnyddir sy'n rhan o'r dirwedd ôl-ddiwydiannol yng Nghymru.
Prif ffocws y Bil yw diogelwch – diogelwch tomenni glo a thomenni nad ydynt yn domenni glo – gan sicrhau [amddiffyn lles pobl] bod cymunedau yng Nghymru yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi. Bydd y Bil yn cyflawni hyn drwy sefydlu corff cyhoeddus newydd, Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru ('yr Awdurdod'), a fydd â swyddogaethau mewn perthynas ag asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir.
I grynhoi, mae'r Bil:
- yn sefydlu'r Awdurdod fel corff corfforedig. Ei brif amcan wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Bil yw sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd,
- yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu, cofrestru a monitro tomenni nas defnyddir,
- yn cynnwys darpariaethau sy’n galluogi’r Awdurdod i ymdrin â thomenni ansefydlog a bygythiadau i sefydlogrwydd tomen. Mae hyn yn cynnwys pwerau i’w gwneud yn ofynnol i berchennog tir gynnal gweithrediadau ac i’r Awdurdod gynnal gweithrediadau ei hun, a darpariaethau cysylltiedig mewn perthynas â thaliadau mewn cysylltiad â gweithrediadau o’r fath,
- yn cynnwys darpariaethau atodol gan gynnwys pwerau mynediad, darpariaethau rhannu gwybodaeth a phwerau i ofyn am wybodaeth, ac
- yn creu troseddau cysylltiedig i gefnogi gorfodi’r gyfundrefn.
Edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau a rhanddeiliaid ar gynigion y Bil dros y misoedd nesaf.