Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 ('Rheoliadau 2025') yn diwygio'r rheoliadau sy'n darparu ar gyfer cymorth statudol i fyfyrwyr a diogelu ffioedd dysgu (er mwyn i statws ffioedd cartref a ffioedd dysgu wedi'u capio fod yn gymwys) ar gyfer myfyrwyr cymwys sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac yn dilyn cwrs addysg uwch dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2025. 

Gallai'r trefniadau a ddisgrifir yn yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn newid, ac yn unol â Rheoliadau 2025. Nid yw'r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn cwmpasu pob agwedd ar bolisi ac nid yw'n gyfystyr â chyngor cyfreithiol na datganiad diffiniol o'r gyfraith. Er bod pob ymdrech wedi'i gwneud i sicrhau bod yr wybodaeth a gynhwysir yn gywir adeg ei chyhoeddi, ni ddylid dibynnu ar y canllawiau hyn fel crynodeb cyflawn a chywir o'r Rheoliadau, sydd eto i'w gwneud. Os bydd anghysondeb rhwng y canllawiau hyn a’r Rheoliadau, y Rheoliadau fydd drechaf.

Disgwylir i Reoliadau 2025 ddod i rym ym mis Chwefror 2025.

Unigolion sy'n cael statws preswylydd sefydlog yn y DU yn ystod blwyddyn academaidd

Ar hyn o bryd, gall myfyrwyr sydd â statws preswylydd sefydlog ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf cwrs israddedig neu ôl-raddedig dynodedig fod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr. Os caiff statws preswylydd sefydlog ei roi ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd y myfyriwr yn gymwys ac ni all gael cymorth i fyfyrwyr am weddill y cwrs. Mae darpariaethau tebyg yn berthnasol o ran diogelu ffioedd dysgu. Fodd bynnag, gall myfyriwr sy'n cael statws preswylydd sefydlog i ddinasyddion yr UE ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf fod yn gymwys am gymorth am weddill y cwrs.

Gall rhai categorïau eraill o bobl, fel ffoaduriaid, fod yn gymwys am gymorth i fyfyrwyr a mesurau diogelu ffioedd dysgu yn ystod blwyddyn academaidd ar ôl iddynt gael y statws hwnnw, hyd yn oed os ydynt wedi dechrau eu hastudiaethau.

Bydd Rheoliadau 2025 yn diwygio'r ddarpariaeth yn y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a'r rheoliadau diogelu ffioedd dysgu i newid y sefyllfa hon ar gyfer y categorïau canlynol o fyfyrwyr cymwys:

  • unigolion sydd wedi preswylio'n arferol yn y DU a'r Ynysoedd am dair blynedd (gweler, er enghraifft, baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 ("Rheoliadau 2018")
  • unigolion sydd wedi preswylio'n arferol yn y DU, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon am dair blynedd (er enghraifft, paragraff 1(3) o Reoliadau 2018)
  • unigolion sydd â statws preswylydd sefydlog sy'n dod i'r DU o Diriogaethau Tramor Prydeinig penodedig (er enghraifft, paragraff 6BB o Reoliadau 2018)

Mae'r diwygiadau yn galluogi unigolion sy'n cael statws preswylydd sefydlog yn y DU ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf (ac sy'n dilyn cwrs dynodedig) i fod yn gymwys i wneud cais am gymorth i fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn academaidd pan fyddant yn cael statws preswylydd sefydlog, ac i fod yn gymwys ar gyfer statws ffioedd cartref a'r cap ffioedd dysgu y flwyddyn academaidd ganlynol. 

Bydd y diwygiadau yn berthnasol i flwyddyn academaidd cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025, a byddant yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig newydd a phresennol cymwys.

Gwladolion Wcráin: Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin

Diwygiwyd rheoliadau cymorth i fyfyrwyr a diogelu ffioedd yn 2022 drwy Reoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o'u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 ("Rheoliadau 2022"). Roedd Rheoliadau 2022 yn darparu i wladolion Wcráin a gafodd ganiatâd cyfyngedig i ddod i'r DU neu aros yno o dan dri o gynlluniau mewnfudo'r Swyddfa Gartref (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, Cynllun Nawdd Cartrefi i Wcráin a Chynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin, neu drwy ganiatâd a roddwyd y tu allan i'r Rheolau Mewnfudo), y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel 'Cynllun Wcráin', fod yn gymwys am gymorth i fyfyrwyr a mesurau diogelu ffioedd dysgu.

Gwnaed diwygiadau pellach ym mis Rhagfyr 2023 drwy Reoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) (Cymru) 2023 i ddarparu i aelodau o deuluoedd gwladolion Wcráin fod yn gymwys am gymorth i fyfyrwyr a mesurau diogelu ffioedd dysgu. 

Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ei bod yn cyflwyno 'Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin' sy'n caniatáu 18 mis yn ychwanegol i'r rhai a gafodd ganiatâd yn flaenorol i aros yn y DU o dan Gynllun Wcráin. Mae disgwyl i newidiadau yn y Rheolau Mewnfudo gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU ddiwedd Hydref 2024. Disgwylir i'r caniatâd cyntaf a ddyfernir fod yn effeithiol o fis Mawrth 2025.

Caiff y rheoliadau eu diwygio i sicrhau parhad y cymorth a'r cymhwysedd am fesurau diogelu ffioedd dysgu. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n cael caniatâd i ddod i'r DU o dan Gynllun Estyn Caniatâd Wcráin yn gallu gwneud cais am gymorth i fyfyrwyr o'r adeg y bydd Cynllun y Swyddfa Gartref yn lansio (Mawrth 2025 yn ôl pob tebyg) yn ystod blwyddyn academaidd 2024 i 2025 yn ogystal â blynyddoedd academaidd i ddod. Bydd myfyrwyr a gafodd ganiatâd blaenorol o dan Gynllun Wcráin ac a ddechreuodd eu cyrsiau cyn Mawrth 2025 eisoes yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr am weddill blwyddyn academaidd 2024 i 2025, hyd yn oed os yw eu caniatâd cyfredol i aros yn dod i ben (neu os cânt ganiatâd wedyn i ddod i'r DU neu aros yno o dan y Cynllun newydd).

Bydd y diwygiad yn weithredol o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau i rym, a bydd yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig newydd a phresennol cymwys.

Dinasyddion Prydeinig o dras Chagosaidd

Diwygiwyd rheoliadau cymorth i fyfyrwyr a diogelu ffioedd yn 2023 drwy Reoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 ("Rheoliadau 2023"). Roedd Rheoliadau 2023 yn darparu i unigolion sydd â statws preswylydd sefydlog yn y DU, y rhai sy'n dod o dan wahanol Gytundebau Ymadael â'r UE, a'r rhai â hawliau gwarchodedig sy'n dod o Diriogaethau Tramor Prydeinig penodedig a Thiriogaethau Tramor Ewropeaidd penodedig sy'n astudio yng Nghymru, fod yn gymwys am gymorth ffioedd dysgu israddedig, mesurau diogelu ffioedd dysgu a benthyciadau ar gyfer cyrsiau Meistr a Doethuriaeth ôl-raddedig. Ni fydd unigolion o'r fath yn gymwys i wneud cais am gymorth cynhaliaeth israddedig, grantiau ar gyfer dibynyddion, na grantiau i fyfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig anabl.

Mae'r term 'Chagosiaid' yn cyfeirio at grŵp o bobl a gafodd eu tynnu o Ynysoedd Chagos gan Lywodraeth y DU rhwng 1968 a 1971, mae'r term hefyd yn cynnwys eu disgynyddion uniongyrchol. Mae Ynysoedd Chagos bellach yn rhan o Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India. Rhoddodd Deddf Tiriogaethau Tramor Prydeinig 2002 ddinasyddiaeth Brydeinig i Chagosiaid a anwyd yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India a'u plant i gydnabod eu statws unigryw. Roedd Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 yn ymestyn yr hawl i ddinasyddiaeth Brydeinig i unrhyw un sy'n ddisgynnydd uniongyrchol i rywun a anwyd (neu a fabwysiadwyd) yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India.

Ar hyn o bryd, nid yw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr o dras Chagosaidd a gafodd ddinasyddiaeth Brydeinig o dan y trefniadau a gyflwynwyd yn 2022 gan Lywodraeth y DU yn gymwys am gymorth i fyfyrwyr neu fesurau diogelu ffioedd dysgu gan nad ydynt yn gallu bodloni'r gofyniad o fod wedi preswylio'n arferol am dair blynedd yn y DU neu'r Ynysoedd.

Caiff y categori cymhwysedd presennol sy'n ymwneud â Thiriogaethau Tramor Prydeinig ei ddiwygio, i gyflwyno llwybr cymhwysedd newydd ar gyfer Chagosiaid a gafodd ddinasyddiaeth Brydeinig. O dan y llwybr newydd hwn, ni fyddai'n ofynnol i Chagosiaid â dinasyddiaeth Brydeinig fodloni'r gofyniad o fod wedi preswylio'n arferol am dair blynedd yn y DU neu'r Ynysoedd, a gynhwysir yn y categori cymhwysedd presennol sy'n ymwneud â Thiriogaethau Tramor Prydeinig. Yn hytrach, dylid trin y grŵp hwn o fyfyrwyr fel pe baent wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Tiriogaethau Tramor Prydeinig am y cyfnod tair blynedd pan nad ydynt wedi bod yn preswylio'n arferol yn y DU a'r Ynysoedd.

Bydd y diwygiad yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig newydd a phresennol cymwys sy'n cychwyn blwyddyn academaidd cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025.

Grant teithio i fyfyrwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal

Gall myfyrwyr israddedig llawn amser fod yn gymwys i gael grant tuag at gostau teithio mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig. Nid yw'r polisi yn ei gwneud yn ofynnol asesu incwm myfyriwr sydd â phrofiad o fod mewn gofal wrth wneud cais am grant o'r fath. Rhaid i fyfyrwyr wneud cyfraniad tuag at eu costau teithio yn seiliedig ar incwm eu haelwyd. Bydd myfyriwr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn gymwys yn awtomatig i gael talu'r cyfraniad is o £303, yn hytrach na'r cyfraniad o £1,000, sy'n daladwy gan y rhai o gefndiroedd incwm uwch.

Bydd Rheoliadau 2025 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i adlewyrchu'r polisi. Bydd y diwygiad yn berthnasol i flwyddyn academaidd cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025, a bydd yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig newydd a phresennol.

Dileu cyfeiriadau at gynllun Ysgoloriaeth Sgiliau'r Economi Wybodaeth 2 ('KESS 2') o fewn rheoliadau cymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig

Roedd cynllun KESS 2 yn darparu cyfleoedd PhD ac ymchwil feistr wedi'u hariannu ym mhrifysgolion Cymru. Er mwyn osgoi cyllido dwbl, nid oedd myfyrwyr yn gymwys i gael cymorth statudol i fyfyrwyr. Dechreuodd y rownd olaf o brosiectau a ariannwyd ym mis Ionawr 2023 a daeth i ben ym mis Rhagfyr 2023. Mae'r cynllun wedi cau bellach.

Caiff y rheoliadau ôl-raddedig eu diwygio i ddileu cyfeiriadau amherthnasol at KESS2.

Asesu incwm unigolion nad yw eu domisil yn y DU

Defnyddir asesiad incwm ar sail incwm trethadwy i gyfrifo swm y cymorth (grantiau a benthyciadau) sy'n daladwy i fyfyrwyr cymwys ar sail prawf modd. 

Er mwyn sicrhau nad yw statws annomisiliedig unigolyn yn cael ei ddefnyddio i leihau'n artiffisial yr incwm a gynhwysir wrth gyfrifo cyfraniad rhieni, mae'r ddeddfwriaeth gyfredol yn darparu nad yw domisil yn cael ei ystyried wrth asesu incwm, ac felly nid oes unrhyw fantais i unigolyn annomisiliedig mewn perthynas â swm unrhyw gymorth i fyfyrwyr y gallai fod yn gymwys ar ei gyfer.

Yng Nghyllideb y Gwanwyn 2024, cyhoeddodd y Canghellor y byddai Llywodraeth y DU yn diddymu'r system dreth bresennol ar gyfer unigolion annomisiliedig ac yn gosod system fodern yn ei lle. O 6 Ebrill 2025 ymlaen, bydd y sail bresennol ar gyfer trethiant yn cael ei diddymu ar gyfer unigolion annomisiliedig sy'n preswylio yn y DU. 

Caiff y rheoliadau eu diwygio i ddileu cyfeiriadau diangen at 'ddomisil', a byddant yn dod i rym ar 6 Ebrill 2025 i gyd-fynd â'r flwyddyn ariannol newydd. Bydd hyn yn berthnasol i fyfyrwyr newydd a phresennol.

Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn ystod 'blwyddyn ryngosod'

Ar hyn o bryd, nid yw myfyrwyr yn gymwys i gael grantiau ar gyfer costau byw a chostau eraill, gan gynnwys Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, mewn blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod os yw'r cyfnodau astudio llawn amser yn llai na 10 wythnos i gyd (oni bai bod y cyfnod o brofiad gwaith yn lleoliad di-dâl o fath a bennir yn y rheoliadau).

Er gwaethaf hyn, gall myfyrwyr gael cymorth yn eu blwyddyn ryngosod os yw eu cyfarpar yn datblygu nam, gan fod gwarant ar eu cyfer sy'n seiliedig ar yswiriant. Dyma fydd y drefn tan fis Tachwedd 2024. Bryd hynny, bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn ymgymryd â pholisi sy'n talu i atgyweirio neu newid yr eitem ddiffygiol yn ôl yr angen. 

Caiff y rheoliadau eu diwygio i alluogi myfyrwyr sy'n derbyn Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ac sy'n ymgymryd â blwyddyn ryngosod i gael cymorth ar gyfer eitemau cyfarpar a gymeradwywyd neu a ddarparwyd yn flaenorol gan Weinidogion Cymru.

Bydd myfyrwyr yn gallu trefnu i eitem o gyfarpar gael ei thrwsio neu gael fersiwn arall addas, a bydd y costau sy'n gysylltiedig â'r cymorth technegol, yr atgyweiriadau a (neu'r) eitemau newydd yn cael eu hariannu o fewn y flwyddyn academaidd y bydd eu hangen.

Bydd y diwygiad yn weithredol o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau i rym, a bydd yn berthnasol i fyfyrwyr newydd a phresennol.

Ymholiadau

Os oes gennych ymholiadau am geisiadau, sut i wneud cais, taliadau neu unrhyw agwedd arall ar y gwasanaeth, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn, cysylltwch ag Is-adran Strategaeth a Chyllid Llywodraeth Cymru drwy e-bostio

Gallwch ofyn am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.