Mae ymgynghoriad yn agor heddiw ar restr fer o opsiynau ar gyfer amnewid Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494 yn Sir y Fflint.
Mae'r bont yn darparu cysylltiad hanfodol ar gyfer traffig sy'n croesi'r ffin rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, ac mae'n bwynt mynediad allweddol i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, un o ystadau diwydiannol mwyaf Ewrop.
Mae angen pont newydd gan fod y gofyn am waith atgyweirio ar y bont bresennol yn cynyddu. Mae'r gwaith archwilio a monitro a wnaed hyd yn hyn wedi dod i'r casgliad bod amlder atgyweiriadau a'r risg o atgyweirio ac ymyrraeth sylweddol a fyddai'n golygu cau'r bont yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
Mae'r opsiwn a ffefrir a nodwyd yn 2019 wedi'i adolygu i sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn well â pholisïau cyfredol, gan wella gwerth am arian a gwytnwch ar hyd y coridor strategol bwysig hwn a lleihau aflonyddwch yn ystod y gwaith adeiladu.
Mae'r bont yn cario tua 68,400 o gerbydau'r dydd, ac mae pum opsiwn ar gyfer amnewid y cyswllt pwysig hwn wedi'u cyflwyno yn destun ymgynghoriad. Caiff y cyhoedd a rhanddeiliaid eu gwahodd i roi eu barn ar yr opsiynau ar y rhestr fer.
Mae'r pum opsiwn i gyd yn cynnwys cynnig i ddarparu pont newydd ynghyd â llwybr newydd a rennir ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Byddai'r opsiynau'n sicrhau y gallai traffig barhau i ddefnyddio'r bont bresennol tra bod gwaith yn mynd rhagddo. Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd yr opsiwn a ffefrir yn cael ei ddatblygu.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates:
"Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon, ac mae amnewid croesfan Pont Dyfrdwy yn gynllun allweddol yr ydym yn ei ddatblygu.
"Mae'n borth hanfodol i ogledd Cymru, ac mae'n allweddol ar gyfer traffig sy'n croesi'r ffin. Mae'r strwythur presennol yn heneiddio a byddai cau'r bont yn ysbeidiol ar gyfer atgyweiriadau a monitro yn amharu ar draffig. Bydd hefyd yn cael effaith niweidiol yn y tymor hir gan y bydd angen gwneud mwy o waith.
"Felly, mae angen pont newydd yn lle'r hen un. Mae gan bawb gyfle nawr i ddweud eu dweud ar yr opsiynau posibl.
Byddwn yn gwrando'n astud ar farn pobl ac rydym yn disgwyl amlinellu'r ffordd ymlaen ym mis Mai y flwyddyn nesaf."
Mae'r ymgynghoriad yn dechrau heddiw (9 Rhagfyr) tan 4 Mawrth, a bydd arddangosfa gyhoeddus yn cael ei chynnal rhwng 10yb a 7yh ddydd Mawrth 21 Ionawr yn Eglwys Sant Andreas, Garden City.
Gellir gweld yr opsiynau a chyflwyno adborth gan ddefnyddio'r holiadur ar-lein drwy ymweld â'r dudalen ymgynghori.
Mae modd cysylltu â thîm y prosiect hefyd drwy A494RiverDeeBridgeConsultation@llyw.cymru neu drwy amlen wedi'i chyfeirio at 'Freepost A494'.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1bn i drwsio ffyrdd ar 1100 milltir o rwydwaith ers 2021, gan gynnwys £250m y flwyddyn ariannol hon.