Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Osteoporosis ac Iechyd Esgyrn, sy'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwell gofal a gwasanaethau trwy gydol bywyd person, yn enwedig i'r bobl hynny sydd â'r risg uchaf o ddioddef torasgwrn breuder.
Mae torasgwrn breuder yn effeithio ar hanner menywod dros 50 oed, ac un o bob pump o ddynion. Gall hyn gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd unigolyn. Ar ôl torri asgwrn am y tro cyntaf, mae siawns un mewn tri o gael toriad arall o fewn 12 mis.
Yn aml, ceir diagnosis o osteoporosis yn dilyn torasgwrn breuder, ond gall toriadau dilynol arwain at gronni morbidrwydd penodol i dorasgwrn dros amser. Mae hyn yn cael ei ddisgrifio fel y rhaeadriad toresgyrn. Rhaid inni hybu iechyd esgyrn i bawb – gan ddechrau cyn beichiogi a pharhau drwy gydol oes pobl.
Mae'r datganiad ansawdd wedi cael ei lunio ar y cyd ag arweinwyr clinigol cenedlaethol ym maes osteoporosis ac iechyd esgyrn, gyda mewnbwn gan y rhwydwaith clinigol strategol ar gyfer iechyd cyhyrysgerbydol, partneriaid y trydydd sector, y rhai sydd â phrofiad bywyd a chydweithwyr yn y maes iechyd esgyrn o bob cwr o Gymru. Mae'n nodi lle rydym yn disgwyl gweld y GIG yn canolbwyntio ar gynllunio gwasanaethau a sut y bydd cymorth cenedlaethol yn galluogi gwelliant.
Ein nod yw gwella ac amddiffyn iechyd esgyrn y boblogaeth trwy ddarparu'r fframwaith trosfwaol ar gyfer darparu gofal i bobl ag osteoporosis, o gamau atal i driniaeth a chefnogi adferiad pobl. Bydd y llwybrau cenedlaethol a rhanbarthol a fydd yn cael eu datblygu yn ysgogi gwelliannau system gyfan drwy leihau amrywiadau mewn gofal a sicrhau canlyniadau gwell.
Mae cynnydd da eisoes yn cael ei wneud wrth i wasanaethau cyswllt toresgyrn gael eu cyflwyno ledled Cymru. Mae'r rhain yn sicrhau bod iechyd esgyrn a risg o gwympiadau pobl 50 oed a hŷn sydd wedi torri asgwrn ar ôl cwympo yn cael eu hasesu a'u rheoli er mwyn lleihau'r risg o doresgyrn dilynol. Mae'r gwasanaethau'n cynnwys tîm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac maent wedi dangos eu bod o fudd i unigolion ac yn ymyrraeth gynnar glinigol a chosteffeithiol.
Ond nid yw'r daith yn gorffen yno. Mae'r holl fyrddau iechyd wedi gwneud ymrwymiad hirdymor i barhau i ddatblygu a gwella gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion eu cymunedau lleol a lleihau effeithiau cwympiadau a thoresgyrn ar unigolion ac ar y GIG.
Rhaid i hyn gynnwys ffocws parhaus ar gyflawni'r dangosyddion perfformiad allweddol. Y safonau lleiaf ar gyfer gwasanaethau cyswllt toresgyrn o ansawdd yw nodi 80% o'r toriadau breuder disgwyliedig, dechrau triniaeth ar gyfer 50% a monitro 80% o'r rhai sydd wedi dechrau derbyn triniaeth ar gyfer esgyrn erbyn 16 wythnos a 52 wythnos.
Nid yw'r safon hon yn cael ei chyrraedd yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae byrddau iechyd ar wahanol gamau wrth sefydlu eu gwasanaeth cyswllt toresgyrn. Fodd bynnag, mae ymrwymiad ac uchelgais clir gan bob bwrdd iechyd i fodloni safonau cenedlaethol a darparu gofal o ansawdd.
Dyna pam rwyf i heddiw yn cyhoeddi ymrwymiad newydd i gyflawni'r safon gwasanaeth cyswllt toresgyrn cenedlaethol 80/50/80 yng Nghymru erbyn 2030.
Er mwyn sicrhau bod Cymru'n cynnig gofal osteoporosis ac iechyd esgyrn teg ac o ansawdd, ein ffocws yng ngham nesaf y gwaith hwn fydd meithrin datblygiad gwasanaethau yn barhaus a pharhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i gryfhau ei darpariaeth gwasanaethau cyswllt toresgyrn.
Byddwn yn gweithio gyda'r rhwydwaith clinigol strategol ar gyfer iechyd cyhyrysgerbydol i gefnogi byrddau iechyd i gyflawni'r dyheadau a nodir yn y datganiad ansawdd ar gyfer osteoporosis ac iechyd esgyrn, gan gynnwys y safon 80/50/80.
Mae mynediad amserol i wasanaethau sgan Amsugniametreg Pelydrau X Egni-Deuol (DXA) hefyd yn hanfodol. Mae DXA yn dechneg delweddu meddygol a ddefnyddir i fesur dwysedd mwynol esgyrn ac fe'i hystyrir yn safon aur ar gyfer gwneud diagnosis o osteoporosis ac asesu risg o doresgyrn. Mae canlyniadau sganiau DXA yn helpu clinigwyr i werthuso iechyd esgyrn, monitro newidiadau dros amser ac arwain penderfyniadau ynghylch triniaethau.
Mae gwasanaethau DXA yng Nghymru yn wynebu nifer o heriau o ran capasiti, ansawdd a'r gweithlu. Mae ein harweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer cwympiadau ac eiddilwch, Dr Inder Singh, a'r Grŵp Sicrhau Ansawdd a Datblygu Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn yn gweithio gyda byrddau iechyd i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o achosion mewn gwasanaethau DXA, gwella mynediad at sganiau a phrosesau, a buddsoddi mewn hyfforddi a datblygu'r gweithlu.