Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Flwyddyn yn ôl i heddiw, cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ei adroddiad 2016 ar gynnydd y Deyrnas Unedig o ran gweithredu ar hawliau plant ers yr adroddiad diwethaf yn 2008.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth o bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Bryd hynny, nododd y Pwyllgor gynnydd Cymru mewn perthynas â hawliau plant. Er enghraifft, nodwyd ein rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, sydd â’r nod o gefnogi’r gwaith o wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Nodwyd hefyd ymdrechion i gydlynu gwell ymateb i achosion o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant.  Yn ogystal, canmolodd y Pwyllgor ymdrechion Cymru i hyrwyddo’r hawl i chwarae.

Wrth gwrs, mae ein gwaith mewn perthynas â hawliau plant yn parhau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi hawliau plant wrth galon ein gwaith llunio polisïau yma yng Nghymru. Mae argymhellion Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig a’i sylwadau terfynol wedi rhoi cyfle arall inni adolygu ein gwaith ar hawliau plant ac ystyried sut gallwn barhau i wella.

Mae argymhellion y pwyllgor yn cyffwrdd â nifer o feysydd, gan gynnwys egwyddorion cyffredinol megis parchu barn plant; trais yn erbyn plant; amgylchedd teuluol a gofal amgen; anabledd; iechyd a lles sylfaenol; ac addysg, hamdden a gweithgareddau diwylliannol.

Mae rhai o’r argymhellion yn ymwneud â meysydd nad ydynt wedi’u datganoli ac fe weithiwn, wrth gwrs, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a cheisio dylanwadu arni wrth iddi ystyried y materion hynny.

Yng Nghymru, mae momentwm yn datblygu mewn sawl maes lle mae gennym y grymoedd i wneud gwahaniaeth. Isod, rwyf wedi pwysleisio rhai o’r meysydd allweddol lle mae cynnydd wedi cael ei wneud neu wrthi’n cael ei wneud.

Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad yn bwrw ymlaen â’u hymdrechion mewn perthynas â’r amcan o barchu barn plant, a hynny drwy roi mwy o gyfleoedd i blant gyfrannu at y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Yn dilyn pleidlais unfrydol gan Aelodau’r Cynulliad ar 19 Hydref 2016, cyhoeddodd y Llywydd ei bwriad i sefydlu Senedd ieuenctid. Ers hynny, mae Comisiwn y Cynulliad wedi gweithio gyda Grŵp Llywio’r Senedd Ieuenctid i ddatblygu ac ymgynghori ar y cynnig i sefydlu Senedd Ieuenctid. Rydym yn aros i’r ymgynghoriad hwnnw ddod i ben ac i’w ganlyniadau gael eu cyflwyno.

Bydd hyn yn ategu gwaith Cymru Ifanc sy’n ymgysylltu ac yn ymwneud â phlant a phobl ifanc drwy grwpiau, fforymau a chynghorau ieuenctid, a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol, gan roi cyfle iddynt ddweud eu dweud wrth Lywodraeth Cymru am y materion sydd o bwys iddyn nhw. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgysylltu ac yn ymgynghori â phobl ifanc ar faterion mewn perthynas â Brexit.

Mae rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn fater o bwys i bobl ifanc sydd am gael llais a dylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd yn eu hardal a’u gwlad. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn bwriadu ymgynghori’n fuan ar gynigion i newid yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau lleol. Mae’r Llywydd wedi sefydlu panel o arbenigwyr i ystyried yr oedran pleidleisio mewn etholiadau i’r Cynulliad. Mae hyn yn dod yn sgil darpariaethau yn Neddf Cymru 2017 a fydd, ar eu cychwyn, yn rhoi cyfrifoldeb am etholfraint etholiadau Cymru i’r Cynulliad. Rwy’n gobeithio y gwelwn bobl ifanc 16 ac 17 oed yn cymryd rhan lawn yn y broses ddemocrataidd yn y blynyddoedd nesaf.

Rydym oll yn gytûn na ddylai trais, cam-drin nac esgeulustod fod yn rhan o fywyd unrhyw blentyn.  Dyna pam mae Llywodraeth Cymru’n parhau i fod yn hollol ymrwymedig i gyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu’r amddiffyniad cosb resymol. Mae ein hymgyrch “Rhianta – Rhowch Amser Iddo” yn hyrwyddo technegau rhianta da, gan roi cyngor a chanllawiau, a chan gyfeirio at gymorth. Mae ein rhaglenni ymyrryd yn gynnar yn parhau i ymgysylltu’n rhagweithiol â phlant a theuluoedd i bwysleisio a thaclo materion, megis esgeuluso plant, a hynny cyn iddynt droi’n broblem, gobeithio.

O ran iechyd a lles sylfaenol, mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo lles emosiynol, meddyliol a chorfforol ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc.

Dyna pam rydym yn gweithio, a hynny ar draws y llywodraeth, i gydlynu polisïau a rhaglenni a all gael effaith gadarnhaol ar les plant a phobl ifanc. Mae hyn, wrth gwrs, o bwys mawr i’r portffolio Iechyd, Lles a Chwaraeon a’r portffolio Plant a Chymunedau. Er enghraifft, mae’r rhaglen Plant Iach Cymru, a lansiwyd mis Hydref diwethaf, yn rhaglen iechyd gyffredinol ar gyfer teuluoedd sydd â phlant 0-7 oed. Mae’n cynnwys ystod o ymyriadau cynnar, oll wedi’u seilio ar dystiolaeth, a chyngor a chanllawiau i gynorthwyo gyda rhianta a gwneud dewisiadau byw’n iach.

Mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, rydym wedi alinio elfennau iechyd y rhaglen gyda rhaglen Plant Iach Cymru er mwyn sicrhau cysondeb o ran amseru ymweliadau iechyd. Rydym hefyd yn dysgu o’r ymagwedd Dechrau’n Deg; hynny yw, bod gweithwyr proffesiynol yn cael eu lleoli gyda’i gilydd ac yn cydweithio’n agos  i ddarparu gwasanaethau cymorth ac ymyriadau holistaidd i deuluoedd lleol.

Mae gwaith a arweinir gan Gymru yn ymchwilio i effeithiau posibl profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac rwyf i’n ystyried sut orau i leihau’r achosion o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a helpu plant i fod yn gydnerth a gwydn. Fel rhan o hyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau’n cefnogi gwaith y Ganolfan Gymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod i alluogi pobl broffesiynol a sefydliadau, ar draws sectorau mor amrywiol ag addysg, tai a’r heddlu i ddysgu mwy am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a’u heffeithiau. Yn ddiweddar, cyhoeddais bum ardal arloesi Rhoi Plant yn Gyntaf. Bydd lleihau effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn rhan o’u gwaith; byddant yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn lleol, ac yn gwrando arnynt, er mwyn ceisio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gwrs eu bywydau.

O ran iechyd meddwl, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau y gall cymorth iechyd meddwl o safon cael ei ddarparu i blant a phobl ifanc yn yr ysgol. Y nod yw helpu a chefnogi athrawon i ymateb i blant  a phobl ifanc sy’n cael anawsterau megis pryder, iselder, hunan-niweidio, neu anhwylderau cymhellol neu ymddygiadol, a datblygu cysylltiadau defnyddiol sy’n ymestyn o’r ystafell ddosbarth i wasanaethau iechyd meddwl arbenigol.

Mae Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, ochr yn ochr  â’i waith i wella mynediad at wasanaeth clinigol pan fo’i angen, yn mapio a gwerthuso rhaglenni atal ac ymyrryd yn gynnar drwy ei ffrwd gwaith Ymyriadau Cynnar a Gwell Cymorth i Grwpiau sy’n Agored i Niwed. Mae hyn yn cynnwys Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol, sy’n gwneud gwaith i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd angen cymorth penodol yn ei gael mewn ffordd gydlynol.

Rydym hefyd yn buddsoddi mewn gofal plant o safon, er mwyn cefnogi teuluoedd â’u dewisiadau, a sicrhau bod plant yn derbyn gofal a chymorth er mwyn iddynt allu datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd.

Mae cyflawni ein cynnig gofal plant yn un o brif ymrwymiadau’r llywodraeth ar gyfer y tymor hwn: 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar wedi’i ariannu gan y llywodraeth i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair blwydd oed, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn. Gan ddod ag addysg gynnar a gofal plant at ei gilydd, rydym yn cefnogi plant i bontio i addysg llawn amser ac, ar yr un pryd, yn galluogi rhieni i gael mynediad at gyflogaeth gan wella rhagolygon teuluoedd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i gryfhau ac ategu ein hymrwymiad i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu byw eu bywydau mewn ffordd sy’n eu caniatáu i ffynnu a llwyddo, a hynny mewn amgylchedd diogel sy’n helpu i’w meithrin. Bydd hyn yn golygu y bydd angen i bob rhan o lywodraeth weithio gyda’i gilydd a chyda phartneriaid y tu allan i lywodraeth, ac rwyf innau’n edrych ymlaen at ein gweld yn gwneud cynnydd pellach yn y blynyddoedd i ddod.

Mae adroddiad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, wele ddolen isod. Gofynnaf i bawb, yn enwedig pobl sydd â diddordeb ym maes plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, i ystyried yr argymhellion a wnaed a sut gallwn ni i gyd helpu i sicrhau bod hawliau plant yn greiddiol i’n cymdeithas.

http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/children-and-young-people/rights/?lang=cy