Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir (TTT) a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) fel rhan o'r Gyllideb ddrafft ar gyfer 2025 i 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Llywodraeth Cymru sy'n gosod y newidiadau hyn. Fe’u cyhoeddwyd mewn Datganiad Ysgrifenedig ar 10 Rhagfyr 2024.

Treth Trafodiadau Tir 

Mae'r newidiadau canlynol wedi'u gwneud i TTT:

Newidiadau ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch yng Nghymru 

Y cyfraddau newydd yw: 

BandCyfradd
Y gyfran hyd at ac yn cynnwys £180,000 5%
Y gyfran dros £180,000 hyd at ac yn cynnwys £250,000 8.5%
Y gyfran dros £250,000 hyd at ac yn cynnwys £400,000 10%
Y gyfran dros £400,000 hyd at ac yn cynnwys £750,000 12.5%
Y gyfran dros £750,000 hyd at ac yn cynnwys £1,500,000 15%
Y gyfran dros £1,500,000 17%

Nid yw'r cyfraddau a'r bandiau treth ar gyfer y brif gyfraddau breswyl a thrafodiadau amhreswyl wedi newid o'r rhai a ddaeth i rym o 22 Rhagfyr 2020. 

Cyfraddau a bandiau 

Rydym wedi diweddaru'r dudalen ar gyfraddau a bandiau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, a'n cyfrifianellau digidol.  

Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell TTT i’ch helpu i gyfrifo faint o dreth i’w thalu. Bydd y gyfrifiannell yn defnyddio'r dyddiad y byddwch yn ei nodi i gyfrifo pa gyfraddau a bandiau sy'n berthnasol. 

Rheolau trosiannol 

Os yw'r prynwr yn cwblhau pryniant eiddo: 

  • cyn 11 Rhagfyr, rydych yn talu'r cyfraddau treth blaenorol 
  • ar neu ar ôl 11 Rhagfyr, byddwch yn talu'r cyfraddau treth newydd 

Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir defnyddio’r cyfraddau blaenorol pan fydd contractau’n cael eu cyfnewid ar neu cyn 10 Rhagfyr 2024, ond nad yw’r pryniant wedi’i gwblhau tan ar neu ar ôl y dyddiad hwn.

Mae gennym ganllawiau trosiannol ar gyfer y newid i gyfraddau preswyl uwch Rhagfyr 2024. Mae hyn yn ymhelaethu ar y rheoliadau ac yn cwmpasu pa gyfraddau fydd yn berthnasol i drafodiad. 

Sut i ffeilio ffurflen dreth gan ddefnyddio’r rheolau trosiannol 

Os ydych chi'n ffeilio ffurflen dreth bapur, dylech: 

  1. Anghytuno â'r cyfrifiad treth a gaiff ei gynhyrchu. 
  2. Nodi’r dreth sy’n ddyledus a gyfrifiwyd gan ddefnyddio'r cyfraddau a'r bandiau blaenorol. Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell dreth i’ch helpu i gyfrifo'r dreth sy'n ddyledus. Ond dylech ddefnyddio'r dyddiad cyfnewid fel y dyddiad y daeth y trafodiad i rym fel bod y cyfrifiad yn cael ei wneud gan ddefnyddio'r cyfraddau a'r bandiau cywir. 
  3. Dewiswch ‘rheolau trawsnewidiol yn berthnasol' fel y rheswm dros anghytuno â'r cyfrifiad treth ac eglurwch sut y daethoch i'ch cyfrifiad. 

Os ydych yn ffeilio ffurflen dreth bapur dan gwestiwn 100, dewiswch 'rheolau trosiannol yn berthnasol' os ydych wedi defnyddio'r rheolau trosiannol i gyfrifo'r dreth yn seiliedig ar y cyfraddau ar gyfer TTT cyn 11 Rhagfyr 2024.

Treth Gwarediadau Tirlenwi 

Newidiadau i gyfraddau Treth Gwarediadau Tirlenwi yng Nghymru 

O 1 Ebrill 2025 ymlaen, mae cyfraddau Treth Gwarediadau Tirlenwi yn newid. Y cyfraddau newydd yw: 

Cyfraddau’r Dreth Tirlenwi Cyfradd o 1 Ebrill 2025
Cyfraddau safonol (fesul tunnell) £126.15
Cyfraddau is (fesul tunnell) £6.30
Cyfradd Gwarediad heb ei Awdurdodi (fesul tunnell)£189.25

Rydym wedi diweddaru'r dudalen ar y cyfraddau TGT sydd wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru. 

Cymorth a gwybodaeth   

Os oes gennych ymholiad ynglŷn â thrafodiad, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.