Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £157 miliwn o gyllid newydd i helpu i gyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog eleni. Mae'r cyllid hwn ar gael o ganlyniad i symiau canlyniadol a gafwyd yng Nghyllideb Hydref Llywodraeth y DU.
Cyfanswm o £57 miliwn ar gyfer y portffolio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Cymru Iachach gan gynnwys £21 miliwn ar gyfer offer diagnostig i'r GIG i helpu i leihau amseroedd aros a £19 miliwn ar gyfer yr her 50 diwrnod i wella'r trefniadau ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty a gofal cymunedol.
£95 miliwn i gefnogi cyfleoedd i bob teulu, gan hybu safonau mewn ysgolion a cholegau a darparu rhagor o gartrefi ar gyfer y sector rhent cymdeithasol, gan sicrhau bod pob teulu yn cael cyfle i lwyddo. Mae hyn yn cynnwys £20 miliwn ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion a cholegau.
£4 miliwn ar gyfer swyddi gwyrdd a thwf – creu swyddi gwyrdd sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn adfer natur, gan sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill; gan gynnwys paratoadau er mwyn cyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru.
£1 miliwn ar gyfer sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, a fydd yn cefnogi 60 o sefydliadau.
Gellir defnyddio'r cyllid at ddibenion refeniw neu gyfalaf.
Bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu gan Ysgrifenyddion Cabinet portffolio dros yr wythnosau nesaf.
Bydd yr holl gyllid ychwanegol yn cael ei reoleiddio yn ail gyllideb atodol Llywodraeth Cymru a fydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Chwefror.