Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Y mis diwethaf, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi hwb i fuddsoddiad mewn seilwaith cyhoeddus drwy ddefnyddio’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) newydd yr ydym wedi ei ddatblygu; yn ogystal â’m bwriad i gychwyn trafodaethau gyda phartneriaid posibl ynghylch darparu tri chynllun.
Ar 23 Mawrth, daeth dros 200 o arweinwyr o bob rhan o’r sector adeiladu a’r sector cyllido i ddigwyddiad yng nghanolfan Cymuned Ddysgu Penarth. Yno, bu Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a finnau yn rhoi mwy o fanylion am y model, gan roi’r newyddion diweddaraf am bob un o’r cynlluniau sydd ar y gweill.
Y tri chynllun, sydd â gwerth cyfalaf o dua £1 biliwn, yw: ailddatblygu Canolfan Ganser Felindre; deuoli rhannau pump a chwech o’r A465; a buddsoddiad sylweddol yng nghymal nesaf y rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Roedd y diddordeb yn y digwyddiad yn dangos yn glir bod lefel uchel o ddiddordeb ymysg partneriaid posibl mewn cynlluniau MIM a bod awydd i fuddsoddi yn y seilwaith cyhoeddus yng Nghymru. Roedd y digwyddiad yn llwyfan rhagorol ar gyfer datblygu cysylltiadau gyda phartneriaid, a nawr byddwn yn mynd ati i ymgysylltu ymhellach ac yn fwy trylwyr â’r farchnad mewn perthynas â phob un o’r prosiectau uchod.