Cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi: crynodeb o’r ymatebion
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Diben yr ymgynghoriad
2.1 Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar dri opsiwn ar gyfer addasu cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yng Nghymru:
- dileu’r gyfradd is (mewn camau neu drwy un diwygiad)
- cynyddu’r gyfradd is yn sylweddol
- newid y deunyddiau y mae’r gyfradd is yn gymwys iddynt
2.2 Nod yr opsiynau hyn yw:
- cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn wlad Ddiwastraff erbyn 2050, a
- lleihau’r risg y caiff gwastraff ei gamddisgrifio er mwyn talu llai o dreth.
2.3 Cynhaliwyd yr ymgynghoriad dros gyfnod o wyth wythnos yn hytrach na’r cyfnod arferol o 12 wythnos. Mae’r cyfnod ymgynghori byrrach nag arfer yn adlewyrchu natur gryno a ffocws cul yr ymgynghoriad. Roedd y ddogfen ymgynghori yn esbonio’r opsiynau sy’n cael eu hystyried ac yn cynnwys cwestiynau i’r cyhoedd.
2.4 Gofynnodd Llywodraeth Cymru am farn y cyhoedd ar nifer o gwestiynau penodol ond roedd yn croesawu’r holl sylwadau ar yr opsiynau.
2.5 Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn helpu Llywodraeth Cymru wrth iddi ystyried costau, manteision ac effaith ehangach yr opsiynau, gan gynnwys o ran llesiant cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol, anfantais economaidd-gymdeithasol a’r Gymraeg.
2. Y broses ymgynghori
3.1 Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 19 Gorffennaf a 15 Medi 2024. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad yn Gymraeg a Saesneg ar dudalen we ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.
3.2 Gallai’r ymatebwyr gyflwyno eu safbwyntiau a’u sylwadau yn Gymraeg neu’n Saesneg, drwy’r post (copi caled), drwy e-bost neu gan ddefnyddio ffurflen ymateb ar-lein.
3.3 Nid oedd unrhyw ddyletswydd statudol benodol i ymgynghori ar y materion a ddisgrifir yn yr ymgynghoriad hwn. Dewisodd Llywodraeth Cymru ymgynghori ag aelodau o’r cyhoedd er mwyn ceisio eu barn ar fanteision ac effeithiau posibl yr opsiynau a’r cynigion a drafodwyd.
3.4 Mae egwyddorion treth Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r dull o ddatblygu trethi datganoledig a’u rhoi ar waith, gan nodi y dylai trethi Cymreig godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl, cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml, cael eu datblygu drwy gydweithio a chynnwys pobl, a chyfrannu’n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu Cymru sy’n fwy cyfartal.
3. Termau allweddol
Deunydd cymwys
3.1 Dim ond i "ddeunydd cymwys", gan gynnwys cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau, y mae cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn berthnasol. Mae wyth categori o ddeunydd cymwys:
- creigiau a phridd
- deunydd cerameg neu goncrit
- mwynau
- slag ffwrnais
- lludw
- cyfansoddion anorganig actifedd isel
- calsiwm sylffad
- calsiwm hydrocsid a heli
3.2 Er mwyn cael ei ystyried yn ddeunydd cymwys, mae’n rhaid iddo fodloni’r amodau a nodwyd yn adrannau 15 i 17 ac atodlen 1 i’r Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae atodlen 1 hefyd yn rhoi mwy o fanylion am bob categori.
Gronynnau mân
3.3 Gronynnau a gynhyrchir yn ystod proses trin gwastraff sy’n cynnwys triniaeth fecanyddol yw gronynnau mân. Gall gronynnau mân gael eu hystyried yn gymysgedd cymwys o ddeunyddiau, a chael eu gwaredu ar gyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, pan fyddant yn bodloni’r amodau a nodwyd yn:
- adran 16 ac 17 o’r Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi
- adran 4 o reoliadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (gweinyddu)
- hysbysiad gronynnau mân y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
Codau gwastraff
3.4 Mae’n rhaid i bob math o wastraff gael ei nodi a’i ddosbarthu cyn cael ei anfon i’w ailgylchu neu i’w waredu. Mae’r cod dosbarthu gwastraff, y cyfeirir ato hefyd fel y Rhestr Gwastraff neu’r Catalog Gwastraff Ewropeaidd, yn dosbarthu gwahanol fathau o wastraff yn ôl codau unigryw. Mae’n rhaid defnyddio’r codau cywir i nodi deunydd a anfonir i’w dirlenwi. Mae rhagor o ganllawiau ar ddosbarthu gwastraff ar gael ar wefan GOV.UK.
Arall
3.5 Mae Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pecynnu yn un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu. Mae’n golygu y bydd yn rhaid i fusnesau sy’n cyflenwi ac yn defnyddio deunydd pecynnu dalu am ei reoli pan ddaw’n wastraff.
3.6 Mae’r Cynllun Masnachu Allyriadau yn ei gwneud yn ofynnol i lygrwyr dalu am eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr.
4. Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad
4.1 Cafwyd 21 o ymatebion. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r ymatebion ac nid yw’n cyfeirio at bob pwynt a godwyd gan ymatebwyr.
4.2 Nid yw’r ymatebion wedi cael eu nodi ar ffurf canrannau a oedd yn cytuno neu’n anghytuno, ac ati, â chwestiynau’r ymgynghoriad, a hynny am fod rhai o’r ymatebwyr wedi dewis peidio ag ateb llawer o’r cwestiynau.
4.3 Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, ni waeth sut yr atebwyd y cwestiynau. Mae’r ystod eang o safbwyntiau a gynrychiolwyd gan yr ymatebion yn cefnogi’r broses ymgynghori. Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch i bawb a ymatebodd.
4.4 Ymatebion i gwestiynau ar bob opsiwn
Cwestiwn 1. Mae egwyddorion treth Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai trethi Cymru: godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl, cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml, cael eu datblygu drwy gydweithio a chyfranogi, cyfrannu’n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu Cymru sy’n fwy cyfartal.
A ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod yr opsiynau hyn yn gyson ag egwyddorion treth Llywodraeth Cymru? Esboniwch eich ymateb.
4.5 Cwestiwn lefel uchel oedd hwn, a gasglodd sawl ymateb a oedd yn cwmpasu amrywiaeth o faterion. Cafwyd cymysgedd o ymatebion mewn perthynas â’r opsiynau a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd rhai ymatebwyr yn cytuno bod yr opsiynau yn unol ag egwyddorion treth Llywodraeth Cymru ond roedd eraill yn ansicr. Roedd rhai yn pryderu y byddai unrhyw newidiadau i’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn gwneud y dreth yn fwy cymhleth ac felly’n llai clir a syml.
Roedd rhai ymatebwyr yn pryderu y gallai newidiadau fynd yn groes i ymdrechion i gefnogi’r economi gylchol ddi-wastraff. Roedd rhai am gynnwys bandiau ychwanegol ar gyfer deunyddiau penodol ynghyd â gofynion treth ychwanegol. Cafwyd pryder cyffredinol ynglŷn â gorfodi. Roedd llawer yn cefnogi mwy o orfodi mewn perthynas â chamddisgrifio ac roedd rhai o blaid mwy o orfodi mewn perthynas â’r gyfradd is yn hytrach na’i diddymu. Mynegwyd rhywfaint o bryder hefyd y byddai gwahaniaethau yn y cyfraddau yn arwain at waredu gwastraff dros y ffin yn hytrach nag annog ymdrechion i ailddefnyddio deunyddiau penodol.
Cwestiwn 2. Yn eich barn chi, pa effeithiau cadarnhaol, os o gwbl, y byddai’r opsiynau hyn yn eu cael ar: yr amgylchedd, yr economi, pobl Cymru, chi a/neu’ch busnes?
4.6 Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo y byddai newidiadau yn annog busnesau i chwilio am ffyrdd amgen yn lle tirlenwi, gan ddargyfeirio deunyddiau cymwys o dirlenwi a chodi mwy o refeniw o bosibl a hybu ymdrechion i ailddefnyddio deunyddiau megis agregau a phriddoedd. Roedd rhai yn credu y byddai llai o angen i gloddio am ddeunyddiau newydd o ganlyniad i hynny. Roedd eraill yn credu bod lle i dynhau cyfundrefn bresennol y prawf colled wrth danio ar gyfer gronynnau mân gwastraff, a fyddai’n helpu i leihau twyll treth.
Gwnaeth llawer y sylw y byddai unrhyw leihad yn y defnydd o dirlenwi yn cael budd cadarnhaol ar yr amgylchedd. Gallai refeniw ychwanegol sy’n cael ei godi drwy dirlenwi gael ei ddefnyddio at achosion amgylcheddol eraill. Nododd rhai y potensial i greu mwy o swyddi o ganlyniad i ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff. Ymhlith y manteision i fusnesau roedd cael gwared ar dwyll a chamddisgrifio a fyddai’n sicrhau tegwch i bawb ac o bosibl yn ysgogi buddsoddiad.
Cwestiwn 3: Sut y gellid addasu’r opsiynau hyn er mwyn cynyddu neu ychwanegu at unrhyw effeithiau cadarnhaol?
4.7 Codwyd rhai pryderon ynglŷn â chael gwared ar gyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi gyda rhai ymatebwyr ond yn gweld effeithiau negyddol penderfyniad o’r fath. Roedd rhai o’r farn y byddai codi cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac adolygu deunyddiau cymwys ac ychwanegu haen arall ar gyfer deunyddiau penodol yn ffordd o gael mwy o effeithiau cadarnhaol er mwyn cefnogi ailgylchu a rhoi hwb i refeniw. Roedd rhai o blaid rhoi digon o amser i’r sector gwastraff ymaddasu i gyfleoedd newydd. Awgrymodd rhai y dylid rhoi canllawiau i fusnesau ar y prosesau ailgylchu cywir, gan nodi’r cymhellion i fusnesau unigol.
Roedd rhai yn credu y gellid ehangu Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr i eitemau y tu hwnt i ddeunydd pecynnu a’r Cynllun Masnachu Allyriadau, gan ymgorffori effaith tirlenwi. Ystyriwyd y byddai’r dull gweithredu hwn yn fwy dilys ar sail y DU gyfan. Dylai rhestrau wedi’u diweddaru o ddeunyddiau cymwys fod yn seiliedig ar ddiffiniadau mwy manwl gywir a nodi lle y gellir sicrhau’r manteision amgylcheddol mwyaf posibl. Awgrymodd rhai y dylai’r arian a godir gael ei neilltuo’n benodol ar gyfer y sector gwastraff a’r sector rheoli gwastraff.
Cwestiwn 4. Yn eich barn chi, pa effeithiau negyddol, os o gwbl, y byddai’r opsiynau hyn yn eu cael ar: yr amgylchedd, yr economi, pobl Cymru, chi a/neu’ch busnes?
4.8 Nododd ymatebwyr fod yr effeithiau negyddol yn cynnwys costau cynyddol i fusnesau sydd eisoes yn wynebu cyfnod heriol gyda chost ynni a deunyddiau crai eisoes yn uchel iawn. Roedd rhai yn credu y gallai penderfyniad i ddileu’r gyfradd is neu unrhyw addasiadau effeithio ar hyfywedd busnesau gyda goblygiadau i’r amgylchedd ac unrhyw refeniw a godir drwy’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Crybwyllwyd twristiaeth gwastraff gan rai ymatebwyr fel y brif effaith negyddol o ystyried y gwahaniaethau yng nghyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi rhwng Cymru a Lloegr. Gall newidiadau olygu na fydd busnesau yn symud gwastraff i fyny’r hierarchaeth, os caiff math penodol o ddeunydd ei ddileu o’r gorchymyn deunyddiau cymwys. Yna, ni fyddai unrhyw gymhelliant i fusnesau gymhwyso prosesau sy’n troi’r hyn a fyddai’n wastraff yn ddeunydd cymwys dihalog anadweithiol a all gael ei ailddefnyddio neu ei waredu gyda diben defnyddiol (e.e. llenwi chwarel).
Roedd rhai yn pryderu am ganlyniadau anfwriadol megis oedi wrth ddatblygu safleoedd tir llwyd, dod o hyd i ddeunydd gorchuddio digonol, gwaredu deunyddiau’n anghyfreithlon a’r potensial i gynyddu lefelau llosgi.
Cwestiwn 5. Sut y gellid addasu’r opsiynau hyn er mwyn lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
4.9 Roedd rhai ymatebwyr yn credu y dylai newidiadau ystyried anghenion busnesau unigol ac edrych ar effeithiau costau, gan gynnwys a yw busnes yn gwneud popeth o fewn ei allu i leihau i’r eithaf y gwastraff sy’n cael ei waredu yn hytrach na’i ailgylchu. Roedd rhai yn awyddus i ddatblygu newidiadau tebyg neu unfath yn Lloegr a’r Alban ond roeddent yn cydnabod y byddai angen cefnogaeth drawswladol i wneud hynny. Roedd rhai yn awyddus i gadw’r cyfraddau a’u haddasu’n unol â chwyddiant yn unig. Drwy roi ffocws ar weithredu mewn meysydd lle mae cryn dipyn o wastraff yn cael ei gamddisgrifio, megis gronynnau mân gograu tro, gallai hynny helpu i sicrhau’r gwelliannau amgylcheddol mwyaf posibl a hefyd osgoi tarfu diangen ar rannau eraill o’r sector. Argymhellodd rhai ymatebwyr y dylid cael mwy o reoleiddio, defnyddio technegau olrhain gwastraff digidol a gwneud mwy o graffu er mwyn goresgyn y cynnydd mewn twyll a thipio anghyfreithlon yn y byrdymor.
Cwestiwn 6. A ydych yn credu y dylai’r dreth gynnwys cyfradd is, fel y mae ar hyn o bryd? Esboniwch eich ymateb
4.10 Roedd y mwyafrif llethol o’r ymatebwyr yn credu y dylai’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi gynnwys cyfradd is. Rhoddwyd ychydig o resymau, gan gynnwys yr angen am ddeunydd gorchuddio ar gyfer safleoedd tirlenwi ac fel deunydd cymwys, mae’n achosi llai o risg amgylcheddol. Awgrymodd yr ymatebwyr nad oeddent yn credu y dylai fod cyfradd is fod cyfradd is yn annog arferion dioglyd a gwastraffus, a fyddai’n lleihau’r risg o gamddisgrifio a thwyll.
Ymateb Llywodraeth Cymru
4.11 Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn parhau i weithredu mewn ffordd eglur a syml a’i phwysigrwydd o ran dylanwadu ar ymddygiadau fel rhan o’r ymdrechion ehangach i gefnogi’r economi gylchol ddiwastraff. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud penderfyniadau ynglŷn â pholisi treth ar gyfer trethi Cymreig sy’n seiliedig ar ei hegwyddorion treth.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr effeithiau a nodwyd gan ymatebwyr wrth ystyried y camau nesaf priodol ac wrth asesu’r opsiynau i ddatblygu’r dreth ymhellach yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cadw cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Bydd y gyfradd yn parhau i gael ei hadolygu er mwyn sicrhau ei heffeithiolrwydd o ran cyfrannu at y nod o wneud Cymru yn wlad ddiwastraff erbyn 2050.
5. Ymatebion – opsiwn a, dileu’r gyfradd is
Ymatebion i gwestiynau ymgynghori
Cwestiwn 7. Gellid dileu’r gyfradd is drwy un diwygiad, neu mewn camau. Beth yw manteision ac anfanteision pob opsiwn yn eich barn chi? Esboniwch eich ymateb.
5.1 Mynegwyd rhai pryderon y byddai dileu’r gyfradd is drwy un diwygiad yn arwain at gostau mawr i rai busnesau ac roedd yn well gan ymatebwyr pe bai’n cael ei dileu mewn camau er mwyn lleihau’r effeithiau i’r eithaf. Dywedodd llawer y byddai angen digon o amser i addasu i unrhyw newidiadau. Nid oedd rhai yn cefnogi penderfyniad i ddileu’r gyfradd is o gwbl nes bod fframwaith ar gyfer lleihau neu ailddefnyddio ar waith.
Roedd rhai yn credu y byddai un diwygiad yn gwella’r broses orfodi ac yn ateb yr heriau presennol yn fuan heb yr oedi mawr a allai fod yn gysylltiedig â dull fesul cam, yn enwedig os yw’n cael ei roi ar waith ar y cyd â pholisïau tirlenwi eraill ac iddynt amcanion amgylcheddol tebyg, megis olrhain gwastraff digidol a gwaharddiad ar dirlenwi gwastraff organig. Byddai hyn hefyd yn ei gwneud yn haws i werthuso effeithiolrwydd y polisi heb ddryswch dull gweithredu fesul cam.
Cwestiwn 8. Pe bai’r gyfradd is yn cael ei dileu mewn camau, beth fyddai’r ffordd orau o’i dileu’n raddol yn eich barn chi a pham?
5.2 Unwaith eto, roedd rhai yn ffafrio dileu’r gyfradd is mewn camau er mwyn lleihau’r effeithiau ar fusnesau ac roedd eraill yn awgrymu y dylid ei dileu’n seiliedig ar y math o wastraff drwy asesu effaith cael gwared ar fathau penodol o wastraff. Dylai’r bwlch rhwng pob cynnydd cynyddrannol fod yn ddigon mawr er mwyn rhoi cyfle i weithredwyr tirlenwi fonitro effeithiau a rhannu data. Cadarnhaodd eraill eu dymuniad i gadw’r gyfradd is unwaith eto.
Cwestiwn 9. Pe bai’r gyfradd is yn cael ei dileu drwy un diwygiad, faint o amser y byddai ei angen i baratoi ar gyfer y newid hwn, yn eich barn chi? Os yw’n berthnasol, pa gamau y byddai angen ichi eu cymryd i baratoi’ch busnes ar gyfer y newid hwn?
5.3 Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebion i’r cwestiwn hwn y byddai angen digon o amser i fusnesau ystyried unrhyw gynnydd mewn costau a hefyd i ymgorffori hyn yn briodol i’w rhagolygon ariannol. Awgrymodd rhai o’r ymatebion nifer o flynyddoedd ar gyfer gweithredu a mynegodd eraill unwaith eto eu barn na ddylid dileu’r gyfradd is, yn enwedig drwy un diwygiad.
Cwestiwn 10. Pe bai’r gyfradd is yn cael ei dileu, pa rwystrau, os o gwbl, a fyddai’n cael eu hwynebu wrth addasu i’r newid hwnnw, yn eich barn chi?
5.4 Mynegwyd pryderon y byddai gweithredwyr yn rhoi’r gorau i’w llinellau ailgylchu gan na fyddai unrhyw reswm dros ddidoli deunyddiau na gronynnau mân o ystyried na fyddai unrhyw gymhelliant ariannol i wneud hynny. Gallai’r effaith ganlyniadol gynnwys risg wirioneddol o golli capasiti a seilwaith gwastraff gan y byddai hyfywedd llawer o fusnesau yn y sector gwastraff yn cael ei danseilio, a fyddai’n effeithio ar refeniw treth arall, e.e. TAW, Treth Gorfforaeth, Treth Incwm Talu Wrth Ennill (TWE) a chyfraniadau Yswiriant Gwladol a hefyd ar gyflogaeth gan y byddai busnesau o bosibl yn cau ac yn diswyddo staff.
Gwnaeth llawer o’r ymatebwyr y pwynt bod gweithrediadau ailgylchu gwastraff wedi cael eu sefydlu ar sail y ddwy gyfradd dreth. Bydd dileu’r gyfradd is yn gyfan gwbl yn cael effaith sylweddol ac mae’n debygol o effeithio ar hyfywedd economaidd rhai cwmnïau.
Nodwyd, o ran awdurdodau lleol, y byddai’r newid hwn yn golygu ymaddasu i ffioedd uwch mewn perthynas â thirlenwi deunyddiau. Mae hyn yn berthnasol iawn os nad yw’n cyd-fynd â’r arian a dderbynnir drwy Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, a/neu newidiadau arfaethedig i UK ETS. Oherwydd eu dyletswydd i gasglu, mae cyfyngiadau ar awdurdodau lleol o ran dylanwadu ar gyfansoddiad gwastraff a gesglir o gartrefi, ac mae proses o ddatblygu seilwaith fel dewis amgen yn lle tirlenwi yn debygol o fod yn araf, ac yn ddibynnol ar fuddsoddiad preifat gyda dylanwad cyfyngedig gan awdurdodau lleol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
5.5 Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro effeithiolrwydd cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi o ran cyfrannu at y nod o wneud Cymru yn Wlad Ddiwastraff erbyn 2050. Mae Llywodraeth Cymru yn parchu’r angen i gael amser i ymaddasu i newidiadau sylweddol i’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i chwilio am gyfleoedd i sicrhau bod y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cefnogi gweithgareddau eraill, megis Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, er mwyn cefnogi economi gylchol ddiwastraff.
Er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn gymhelliant i ddidoli deunyddiau sy’n addas i’w hailgylchu a’u hailddefnyddio ac, yn bwysig ddigon, i ddidoli’r deunyddiau cymwys hynny a deunyddiau nad ydynt yn gymwys, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod bod cymhellion ariannol eraill ar gyfer gweithgarwch o’r fath yn niffyg Treth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfradd is.
6. Ymatebion i gwestiynau ar opsiwn b: cynyddu’r gyfradd is
Ymatebion i gwestiynau ymgynghori
Cwestiwn 11. Pe bai’r gyfradd is yn cael ei chadw, beth ddylai’r gyfradd honno fod, yn eich barn chi, a pham?
6.1 Roedd yn well gan lawer o’r ymatebwyr gadw’r gyfradd is ac awgrymodd rhai mai dim ond yn unol â chwyddiant y dylai gynyddu. Roedd llawer yn awyddus i sicrhau y dylai unrhyw gynnydd uwchlaw chwyddiant gael ei gyflwyno’n raddol er mwyn rhoi sicrwydd i fusnesau ac osgoi unrhyw effaith ar gyfraddau ailgylchu.
Roedd rhai yn fwy parod i dderbyn yr opsiwn hwn, gan awgrymu y byddai cynyddu’r gyfradd is ar gyfer deunyddiau penodol megis priddoedd sy’n addas i’w hailgylchu yn gwneud i gynhyrchwyr gwastraff chwilio am opsiynau ailgylchu yn lle dewis yr opsiwn hawdd i dirlenwi. Pe bai’r opsiwn tirlenwi yn ddrutach, byddai’n caniatáu i gyfleusterau ailgylchu priddoedd ac agregau godi ffioedd clwyd uwch, dod yn fwy economaidd hyfyw, buddsoddi mewn technoleg a seilwaith newydd ac annog mwy o ailgylchu yn unol â thargedau ac amcanion Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nodwyd nad yw rhai deunyddiau cymwys penodol ar gyfer y gyfradd is yn addas i’w hailgylchu am nad oes modd eu prosesu’n hawdd yn gynnyrch y gellir ei farchnata neu ei ddefnyddio ac mai tirlenwi yw’r opsiwn mwyaf addas o hyd. Dylid ystyried yr effaith ar y deunyddiau hyn, megis clai a gronynnau mân, pe bai cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei chynyddu.
Dylai unrhyw gynnydd yn y gyfradd geisio cydbwyso’r angen i fuddsoddi mewn gweithrediadau ailgylchu/adfer â’r angen i osgoi canlyniadau anfwriadol. Roedd eraill yn fwy na pharod i weld y gyfradd is yn cael ei diddymu, ond ni wnaethant nodi unrhyw resymau pellach.
Cwestiwn 12. Pa rwystrau, os o gwbl, a fyddai’n cael eu hwynebu wrth addasu i gynnydd sylweddol yn y gyfradd is, yn eich barn chi?
6.2 Roedd rhai yn credu mai’r brif broblem a fyddai’n codi pe bai’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei chynyddu’n sylweddol oedd y byddai gweithredwyr yn rhoi’r gorau i ailgylchu gan na fyddai unrhyw reswm dros ddidoli deunyddiau cymwys neu ronynnau mân pe na fyddai unrhyw gymhelliant ariannol i wneud hynny, h.y. dibyniaeth ar gyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Tynnodd rhai sylw at yr anfantais gystadleuol yng Nghymru pe na bai rhannau eraill o’r DU yn gwneud yr un peth.
Gall costau cynyddol sydyn heb eu cynllunio i fusnesau a chynghorau os na allant ailddefnyddio’r holl ddeunydd sydd wedi’i gategoreiddio’n ddeunydd cyfradd is arwain at ganlyniadau croes a mwy o risg o droseddau sy’n ymwneud â gwastraff.
I awdurdodau lleol, gall y newid hwn gynnwys ymaddasu i ffioedd uwch mewn perthynas â thirlenwi deunyddiau. Mae hyn yn berthnasol iawn os nad yw’n cyd-fynd â’r arian a dderbynnir drwy Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, a/neu newidiadau arfaethedig i UK ETS. Oherwydd eu dyletswydd i gasglu, mae cyfyngiadau ar awdurdodau lleol o ran dylanwadu ar gyfansoddiad gwastraff a gesglir o gartrefi, ac mae proses o ddatblygu seilwaith fel dewis amgen yn lle tirlenwi yn debygol o fod yn araf, ac yn ddibynnol ar fuddsoddiad preifat gyda dylanwad cyfyngedig gan awdurdodau lleol. Fel y cyfryw, mae’n debygol na fydd modd osgoi unrhyw gynnydd mewn costau ar ddeunydd y mae awdurdodau lleol yn ei dirlenwi ar hyn o bryd. Fel arall, efallai y bydd awdurdodau lleol yn ceisio ystyried opsiynau gwaredu amgen y tu allan i Gymru lle y byddai costau gwaredu yn rhatach, gan arwain at fwy o ofynion cludo a chynyddu effaith amgylcheddol gwaredu.
Dywedodd rhai y byddai angen osgoi achosion o gamddosbarthu a thwyll pe bai gwahaniaeth sylweddol rhwng y gyfradd is a’r gyfradd safonol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
6.3 Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion am unrhyw newidiadau i gyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn y Gyllideb Ddrafft ar 10 Rhagfyr 2024.
7. Ymatebion i Gwestiynau ar opsiwn c: newid y deunyddiau sydd ar y gyfradd is
Ymatebion i gwestiynau ymgynghori
Cwestiwn 13. A oes unrhyw ddeunyddiau cymwys sy’n arbennig o anodd i’w lleihau, eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu gwaredu drwy ddulliau mwy cynaliadwy na thirlenwi? Esboniwch eich ymateb.
7.1 Cadarnhaodd rhai ymatebwyr eu bod yn chwilio am fwy o ffyrdd o ailgylchu er mwyn lleihau cost anfon deunydd i’w dirlenwi. Mae rhai yn credu bod mwy y gellir ei wneud gyda deunydd megis slag, creigiau, priddoedd a mwynau sydd wedi cael eu hanfon i’w tirlenwi, neu eu defnyddio fel deunydd gorchuddio yn y gorffennol.
Nid yw rhai deunyddiau cymwys yn addas i’w hailgylchu neu gallant fod yn beryglus i’r amgylchedd o bosibl ac felly mae tirlenwi yn cynnig opsiwn gwaredu amgylcheddol synhwyrol a diogel sy’n cydymffurfio â’r gyfraith ar eu cyfer. Mae enghreifftiau yn cynnwys gwastraff adeiladu a dymchwel cymysg, yn enwedig os yw wedi’i halogi ag asbestos a/neu gypswm neu blastrfwrdd gweddilliol, mathau penodol o wydr arbenigol nad oes modd eu defnyddio wrth weithgynhyrchu gwydr wedi’i ailgylchu.
Roedd rhai yn credu, pe bai mentrau lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff yn cael eu defnyddio yn y fan a’r lle, y bydd hyn yn ei gwneud yn haws ailgylchu mwy o ddeunyddiau cymwys.
Mae llawer o gyfleusterau ailgylchu yng Nghymru yn defnyddio prosesau mecanyddol i ddidoli deunyddiau gwerth uwch. Mae ailgylchu deunyddiau cymwys yn deillio o werth a hwylustod didoli. Y rhwystr mwyaf sy’n gysylltiedig ag ailgylchu deunydd cymwys yw diffyg gorfodi a’r gwerth cyfyngedig sy’n gysylltiedig â’r rhan fwyaf o ddeunydd cymwys.
I bob diben, y gronynnau mân a gynhyrchir fel sgil gynnyrch prosesau trin mecanyddol uwch yw’r ffracsiwn o’r gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Yr ateb gorau ar gyfer y gronynnau mân hyn yw tirlenwi.
Nodwyd mai’r categori sy’n cynyddu o ran nifer y tunelli a anfonir i’w tirlenwi yw’r “Mathau o Wastraff Cyfradd Is Eraill” sy’n cynnwys cyfansoddion anorganig actifedd isel, calsiwm sylffad a chalsiwm hydrocsid a heli ar y rhestr o ddeunyddiau cymwys. Roedd y categori hwn yn cyfrif am 7% o gyfanswm y gwastraff cyfradd is a anfonwyd i’w dirlenwi yn ystod 2021/22 ond roedd wedi cynyddu i tua 20% yn ystod 2023/24. Roedd rhai yn awyddus i ddeall pam mae mwy o’r deunyddiau hyn yn cael eu hanfon i’w tirlenwi.
Ymhlith y deunyddiau eraill y nodwyd eu bod yn heriol i’w hailddefnyddio roedd lludw ehedog llosgyddion o safleoedd biomas a anfonir i’w dirlenwi fel deunydd cymwys, plastigion anodd i’w hailgylchu a gwastraff biosefydledig y tynnwyd deunydd ailgylchu ohono nad oes opsiwn trin mwy cynaliadwy ar eu cyfer. Cyfeiriwyd at wastraff asbestos sawl gwaith a hefyd at wastraff adeiladu a dymchwel cymysg a all gynnwys gypswm neu blastrfwrdd gweddilliol.
Cwestiwn 14. Pa ddeunyddiau cymwys y dylid eu cadw ar y gyfradd is, yn eich barn chi? Esboniwch eich ymateb.
7.2 Rhoddwyd amrywiaeth o ymatebion gwahanol i’r cwestiwn hwn. Dylai deunydd anadweithiol a gwastraff penodol sy’n deillio o wneud dur (cacen hidlo/slag), priddoedd nad oes modd eu hailgylchu’n hawdd, lludw gwaelod llosgyddion, lludw ehedog llosgyddion o safleoedd pren a biomas, deunydd a gesglir o gartrefi, yn enwedig creigiau a phridd, deunydd cerameg neu goncrit a gronynnau mân, aros ar y gyfradd is. Argymhellodd rhai ymatebwyr y dylid ychwanegu deunydd sydd wedi’i halogi ag asbestos at y rhestr.
Cwestiwn 15. Pa ddeunyddiau cymwys y dylid eu symud i’r gyfradd safonol, yn eich barn chi? Esboniwch eich ymateb.
7.3 Roedd rhai yn credu y dylai Llywodraeth Cymru restru unrhyw ddeunydd peryglus ar y gyfradd safonol. Nodwyd ei bod hi’n ddigon syml ailgylchu gypswm. Fodd bynnag, mae’n cael ei ddosbarthu’n ddeunydd cymwys ac mae ar y gyfradd dreth is, sy’n rhoi cymhelliant i sefydliadau waredu’r gwastraff drwy ei dirlenwi yn hytrach na’i ailgylchu. Mae hyn yn cael effeithiau amgylcheddol niweidiol a all ddigwydd pan fydd gypswm yn cael ei waredu’n amhriodol mewn safleoedd tirlenwi. Tynnwyd sylw at briddoedd a cherrig unwaith eto a nododd rhai y bu cynnydd sylweddol o ran faint o’r deunydd hwn sy’n cael ei dirlenwi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Awgrymodd rhai fod dulliau hyfyw i osgoi gwaredu deunyddiau priddoedd a cherrig addas eisoes o’r diwydiant datblygu ac na fydd rhestru’r rhain ar y gyfradd safonol yn cael effaith negyddol ar hyn.
Roedd rhai yn credu y byddai’n fuddiol o bosibl i gadw’r gyfradd is yn benodol ar gyfer deunyddiau nad ydynt yn addas i’w hailgylchu, eu hailddefnyddio, neu eu gwaredu mewn ffordd fwy cynaliadwy. Fodd bynnag, pe bai Llywodraeth Cymru yn gwneud y newid hwn, mae’n hollbwysig bod y diffiniad o’r deunyddiau cymwys hyn yn cael ei nodi’n fanylach, er mwyn sicrhau bod y gyfradd is yn cwmpasu’r holl ddeunyddiau nad oes dull gwaredu amgen gwell ar gael ar hyn o bryd na thirlenwi.
Dywedodd ymatebion eraill na ddylid newid y rhestr bresennol o ddeunyddiau cymwys a bod rhesymau dilys dros y rhestr bresennol a luniwyd gan y diwydiant. Roedd un ymatebydd yn awyddus i weld pob math o wastraff yn dod yn wastraff cyfradd safonol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
7.4 Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith i fyfyrio ar y deunyddiau y cyfeiriodd amrywiol ymatebwyr atynt er mwyn sicrhau bod y driniaeth briodol yn cael ei chymhwyso a bod cyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cyfrannu at fwriadau polisi ehangach.
8. Ymatebion i’r cwestiynau ehangach
Ymatebion i gwestiynau ymgynghori
Cwestiwn 16. Pa ddulliau o leihau, ailddefnyddio, ailgylchu neu waredu deunyddiau cymwys mewn ffordd fwy cynaliadwy rydych yn ymwybodol ohonynt? Os yw’n berthnasol, pa ddulliau ydych chi’n eu defnyddio ar hyn o bryd?
8.1 Cafwyd sawl ymateb i’r cwestiwn hwn. Cadarnhaodd rhai ymatebwyr yn syml fod amrywiaeth o ddulliau ailgylchu a bod busnesau yn gweithio’n galed i ddod o hyd i bartneriaid i wneud defnydd o gynhyrchion gwastraff. Dywedodd rhai fod angen gwneud rhagor o waith i gefnogi allbynnau safleoedd golchi a phrosesu er mwyn datblygu fframwaith ar gyfer ailddefnyddio deunyddiau nad ydynt yn achosi unrhyw risg i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl. Dywedodd rhai ei bod hi’n ddigon syml ailgylchu gypswm. Fodd bynnag, nodwyd bod y rhan fwyaf o’r gypswm sy’n dod o blastrfwrdd yn cael ei dirlenwi. Nid yw cyfran sylweddol o orsafoedd trosglwyddo gwastraff sy’n derbyn gwastraff adeiladu a dymchwel yn didoli plastrfwrdd. Mae hwn ar gyfradd is y dreth ac mae hyn yn rhoi cymhelliant i sefydliadau waredu’r gwastraff drwy ei dirlenwi yn hytrach na’i ailgylchu.
Mae ailgylchu lludw gwaelod llosgyddion yn agregau ac yn ddeunydd a ddefnyddir i adeiladu sylfeini ffyrdd a gweithgynhyrchu sment i gyd yn arferion sefydledig sy’n gymwys i rai o’r deunyddiau o leiaf sydd wedi’u dosbarthu’n “ronynnau mân”, sef categori mwyaf o ddeunyddiau cymwys y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Nodwyd y bydd rhai deunyddiau yn cael eu defnyddio i adfer chwareli neu hen safleoedd tirlenwi weithiau. Mae rhai gweithredwyr tirlenwi yn defnyddio amrywiaeth eang o wastraff mewn gwaith adfer (uwchbriddoedd a slwtsh carthion).
O ran awdurdodau lleol, y prif ddeunyddiau cymwys y maent yn ymdrin â nhw fyddai’r rhai sy’n ymwneud â chreigiau a phridd, deunydd cerameg neu goncrit, drwy Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, a gronynnau mân.
Mae awdurdodau lleol eisoes yn defnyddio safleoedd tirlenwi ‘fel y dewis olaf’ ar gyfer deunydd na ellir ei anfon i’w ailgylchu nac i’w losgi. Er mwyn i’r deunyddiau hyn gael eu lleihau, neu eu gwneud yn addas i’w hailddefnyddio neu eu hailgylchu, byddai angen newidiadau systemig ar adeg cynhyrchu’r eitemau hyn. Byddai cyflwyno Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr y tu hwnt i ddeunyddiau pecynnu yn fuddiol yn hyn o beth, gan roi cymhelliant ariannol i’r cynhyrchwyr wneud newidiadau i’r ffordd y maent yn dylunio eu cynhyrchion i sicrhau bod modd eu defnyddio a’u gwaredu mewn ffordd fwy ecogyfeillgar. Fodd bynnag, o dan y system bresennol ac o ystyried mai dim ond eitemau pecynnu a gaiff eu cwmpasu gan Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, nid yw awdurdodau lleol mewn sefyllfa i ddargyfeirio’r eitemau hyn ar ddiwedd eu hoes at ddulliau gwaredu mwy cynaliadwy na thirlenwi ac nid oes ganddynt unrhyw ddylanwad yn hynny o beth.
O ran gwastraff adeiladu, dymchwel a chloddio, dywedodd ymatebwyr mai prin yw’r cyfleoedd i gynyddu’r gyfradd ailgylchu, a hynny’n bennaf oherwydd y math o wastraff sy’n weddill, sef gwastraff cloddio ‘meddal’ fel arfer – clai a llaid meddal nad ydynt yn addas i’w defnyddio fel agregau wedi’u hailgylchu. Mae’r deunyddiau hyn yn bwysig wrth adfer hen safleoedd mwyngloddio i ansawdd uwch na’r hyn a fodolai cyn i’r gwaith cloddio ddechrau, sy’n cefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ran amrywiaeth ac adfer byd natur.
Cwestiwn 17. Ym mha ffyrdd eraill y gallai Llywodraeth Cymru wella cymhellion ariannol i leihau, ailddefnyddio, ailgylchu neu waredu deunyddiau cymwys drwy ddulliau mwy cynaliadwy na thirlenwi?
8.2 Roedd rhai ymatebwyr yn credu y byddai cyllid grant ar gyfer prosiectau ailgylchu penodol neu greu llwyfan er mwyn i Weithredwyr Safleoedd Tirlenwi allu rhannu gwybodaeth am ddulliau ailgylchu yn fuddiol. Ymhlith y syniadau eraill roedd system addas ar gyfer lwfans cyfalaf neu ryddhad i’w hawlio gan gynhyrchydd gwastraff sy’n lleihau, yn ailddefnyddio neu’n ailgylchu. Roedd syniadau eraill yn cynnwys canllawiau arfer gorau i’r diwydiant a gorfodi rheoliadau yn llymach.
Dywedodd rhai y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno treth economi linol ar losgi a thirlenwi neu dreth losgi er mwyn adlewyrchu’r ‘carbon ymgorfforedig’ yn y deunyddiau hyn a’r awydd i osgoi gollyngiadau o’r economi gylchol. Gallai hyn gael effaith sylweddol ar y ffordd y rheolir plastigion, gan helpu i symud y broses i haenau uchaf yr hierarchaeth gwastraff. Byddai trethi o’r fath hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y ffordd y rheolir deunyddiau eraill, megis papur a cherdyn.
Awgrymwyd bod angen darn mwy o waith yn cynnwys y DU gyfan er mwyn cysoni trethi tirlenwi ag egwyddorion hierarchaeth gwastraff fel na fydd cynghorau yn cael eu trethu’n ormodol am ddeunydd nad oes opsiwn arall ar gael ond ei dirlenwi neu am droi gwastraff yn ynni a hefyd ddargyfeirio deunydd y gellir ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio o’r pwyntiau terfynol hyn.
Roedd rhai ymatebwyr yn credu, er mwyn rhoi cymhelliant i reoli deunyddiau cymwys drwy ddulliau mwy cynaliadwy na thirlenwi, fod angen ymdrechion a chymhellion wedi’u hanelu at y rhai sy’n cynhyrchu’r deunydd hwn. Ar hyn o bryd, mae Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr yn cael ei ddatblygu gan ganolbwyntio ar ddeunyddiau pecynnu yn unig, ond byddai ehangu hyn i gwmpasu eitemau eraill yn helpu i roi cymhelliant i gynhyrchwyr ddylunio’r eitemau hyn gan gadw cynaliadwyedd mewn cof. Byddai ystyried tirlenwi fel rhan o UK ETS hefyd yn fuddiol, gan sicrhau nad yw costau uwch llosgi yn rhoi cymhelliant i ddefnyddio safleoedd tirlenwi fel dewis amgen, a mabwysiadu dull cyflawn o ystyried effaith carbon yr holl ddeunyddiau sy’n cael eu tirlenwi. Bydd buddsoddi mewn seilwaith ledled y wlad, yn enwedig yr enghreifftiau sy’n gallu ymdrin â mathau o ddeunyddiau ‘anodd i’w hailgylchu’, yn hanfodol er mwyn creu marchnadoedd terfynol a chymhellion economaidd ar gyfer deunydd a anfonir i’w waredu ar hyn o bryd.
Roedd rhai o’r farn y gallai Llywodraeth Cymru ailfuddsoddi peth o’r arian treth a gesglir drwy dirlenwi mewn gweithgareddau ymchwil a datblygu, arloesi neu ddiwydiannu atebion ac ar helpu cynhyrchwyr gwastraff i leihau neu atal gweithredoedd sy’n creu’r mathau o wastraff neu sy’n ei gwneud yn fwy anodd eu trin neu eu hailddefnyddio.
Roedd eraill yn gwrthwynebu cymhellion ariannol ac yn argymell y dylid gwella’r ffordd y caiff data eu casglu ar fathau unigol o wastraff ac ar symud gwastraff, er mwyn helpu i nodi ble y gellir gwneud unrhyw fân welliannau pellach.
Cwestiwn 18. Pa opsiynau eraill y byddech yn eu hargymell i leihau’r risg y caiff gwastraff ei gamddisgrifio er mwyn talu llai o dreth?
8.3 Awgrymodd rhai y gallai swyddogion trwyddedu safonau ddarparu nodiadau trosglwyddo a thystiolaeth ffotograffig yn rheolaidd. Awgrymwyd y byddai ymyriadau gorfodi gwell gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r defnydd o bwerau ACC i osod cosbau ar y cyfle cyntaf oll, os oes digon o dystiolaeth i brofi achos gwirioneddol o gamddisgrifio, yn debygol iawn o atal unrhyw gamddisgrifio posibl.
Roedd eraill yn credu y dylai ACC gyhoeddi canllawiau clir ar yr hyn sydd, yn ei farn ef, yn ddeunydd cymwys at ddibenion y gyfradd is. Mae problemau dilys yn codi’n aml am nad yw’r ffordd y mae’r cyfundrefnau amgylcheddol yn defnyddio codau gwastraff yn integreiddio i mewn i gyfundrefn rhestru deunyddiau cymwys y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Opsiwn arall a awgrymwyd oedd y dylid cyflwyno proses ardystio neu ddatganiad i’w wneud gan gynhyrchydd y gwastraff ynghylch a oes modd lleihau’r gwastraff, ei ailddefnyddio ac ati yn hytrach na’i waredu. Byddai hyn yn dogfennu ymdrechion busnes i symud gwastraff i fyny’r hierarchaeth gwastraff a gallai hefyd roi ffigurau clir i ACC olrhain a yw busnes mewn gwirionedd yn gwaredu gwastraff cyn ei leihau neu ei ailddefnyddio. Gallai methiant i gwblhau’r broses ardystio ar gyfer ffrwd wastraff arwain at oblygiadau tebyg i gyfundrefn yr Uwch-swyddog Cyfrifyddu neu gosbau ariannol sy’n cyfateb i gyfradd safonol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi os canfyddir bod cynnwys ardystiadau o’r fath wedi cael ei nodi mewn ffordd anghywir neu gamarweiniol yn fwriadol.
Awgrymwyd hefyd y dylai llawer mwy o weithgarwch rheoleiddio ac adnoddau ACC a Cyfoeth Naturiol Cymru ganolbwyntio ar weithredwyr anghyfreithlon sy’n cyflawni twyll treth dirlenwi. Roedd mesurau gorfodi effeithiol i ymdrin â thwyll treth yn thema allweddol a godwyd gan yr ymatebwyr i’r cwestiwn hwn.
Awgrymwyd hefyd fentrau megis cyflwyno proses olrhain gwastraff orfodol er mwyn sicrhau mwy o dryloywder ynglŷn â symudiadau gwastraff a’i darddiad, a lleihau’r potensial i gyflawni troseddau sy’n ymwneud â gwastraff.
Cwestiwn 19. Beth yn rhagor y gellid ei wneud/beth y gellid ei wneud mewn ffordd wahanol i leihau’r risg o waredu gwastraff heb awdurdod, yn eich barn chi?
8.4 Awgrymwyd y dylid gwneud mwy o waith i fonitro safleoedd gwaredu heb awdurdod ac enwi a chywilyddio’r rhai sy’n gyfrifol am waredu heb awdurdod er mwyn lleihau’r risg y caiff gwastraff ei waredu heb awdurdod. Awgrymwyd hefyd y byddai gwella effeithiolrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel y rheoleiddiwr sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â throseddau sy’n ymwneud â gwastraff yn fuddiol. Awgrymwyd hefyd y dylid gweithredu ar wybodaeth gan y diwydiant am safleoedd gwastraff anghyfreithlon a chynnal ymchwiliadau trwyadl, ynghyd ag ymyriadau cynnar a defnyddio’r holl adnoddau gorfodi sydd ar gael i reoleiddwyr. Soniodd sawl ymatebydd fod angen defnyddio dulliau olrhain gwastraff digidol a synhwyro o bell (i ganfod safleoedd tirlenwi anghyfreithlon ar gam cynnar). Roedd rhai yn credu bod angen gwell addysg a hyfforddiant i gynhyrchwyr gwastraff, ynghyd â mwy o orfodi a chosbau uwch i’r rhai sy’n tipio’n anghyfreithlon, gan gynnwys atafaelu asedau.
Dywedodd rhai y gallai gwell arweiniad a gwell prosesau ymgysylltu o ran sut i ailddefnyddio deunydd i fusnesau hefyd fod yn ffordd gadarnhaol o fynd i’r afael â throseddau sy’n ymwneud â gwastraff.
Nodwyd hefyd y dylai fod gan awdurdodau lleol bwerau gorfodi priodol a digon o gyllid i fynd i’r afael â’r cynnydd posibl mewn tipio anghyfreithlon a sbwriel a fydd o bosibl i’w weld o ganlyniad i ymdrechion i osgoi talu’r ffioedd gwaredu uwch. Bydd methiant i ddarparu hyn yn cynyddu’r baich ariannol ar awdurdodau lleol ymhellach.
Ymateb Llywodraeth Cymru
8.5 Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch i’r ymatebwyr am yr wybodaeth ychwanegol a roddwyd mewn ymateb i’r cwestiynau hyn ac am dynnu sylw at feysydd eraill i’w hystyried er mwyn cefnogi’r nod o wneud Cymru yn Wlad Ddiwastraff erbyn 2050.
O ran cydymffurfiaeth, gorfodi a gwaredu heb awdurdod, mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r gwaith y mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd er mwyn sicrhau y cydymffurfir yn briodol â’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Yn 2023, ACC oedd yr awdurdod cyllid cyntaf yn y DU i gasglu treth ar achosion o waredu gwastraff heb awdurdod.
10. Ymatebion i gwestiynau ar y Gymraeg
Ymatebion i gwestiynau ymgynghori
Cwestiwn 20. Pa effaith, os o gwbl, y byddai’r opsiynau hyn yn ei chael ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg?
Cwestiwn 21. A ydych chi’n credu y gellid newid yr opsiynau hyn er mwyn cefnogi’r Gymraeg yn well a sicrhau ei bod yn cael ei thrin yn gyfartal â’r Saesneg? Esboniwch eich ymateb.
10.1 Ni chafwyd unrhyw ymatebion i’r cwestiynau hyn.
11. Y camau nesaf
11.1 Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn rhoi manylion am unrhyw newidiadau i gyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn y Gyllideb Ddrafft ar 10 Rhagfyr 2024.
12. Mwy o wybodaeth
WG51209
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei angen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
Treth Gwarediadau Tirlenwi
Yr Is-adran Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol
Trysorlys Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.