Bydd proses newydd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru ar gyfer adolygiadau yn dilyn marwolaeth neu gamdriniaeth, gan dorri tir newydd yn y Deyrnas Unedig. Y nod yw helpu i leihau trawma i deuluoedd, atal achosion tebyg a diogelu pobl eraill yn y dyfodol.
Bydd yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn cyfuno'r holl adolygiadau diogelu mewn un broses y bydd pawb yng Nghymru yn ei dilyn.
Mae adolygiad diogelu yn digwydd ar ôl digwyddiad difrifol o gam-drin neu esgeuluso plentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg, a hynny'n achosi niwed i'r unigolyn neu'n arwain at ei farwolaeth.
O'r blaen, gallai hyn fod wedi golygu cynnal sawl adolygiad dros gyfnod hir gyda'r teulu dan sylw a gwahanol weithwyr proffesiynol, a fyddai'n asesu a ellid bod wedi gwneud rhywbeth yn wahanol i atal y niwed.
Byddai hyn yn aml yn feichus ac yn drawmatig i unigolion a fyddai'n gorfod ail-fyw'r digwyddiad difrifol sawl gwaith.
Bydd yr Adolygiad Sengl yn:
- cael gwared ar yr angen i deuluoedd gymryd rhan mewn sawl adolygiad, gan leihau'r trawma iddynt
- helpu gweithwyr proffesiynol i ddysgu o argymhellion a gweithredu arnynt yn gyflymach
- gwella'r ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei rhannu, a helpu i atal niwed a thrasiedïau yn y dyfodol
Bydd yr holl adroddiadau gorffenedig yn cael eu storio yn Storfa Ddiogelu Cymru – system ganolog a fydd yn helpu gweithwyr proffesiynol i gael gweld gwybodaeth am achosion yn y gorffennol a dysgu oddi wrthynt, er mwyn helpu i atal digwyddiadau difrifol tebyg yn y dyfodol.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
Rwy'n falch o lansio'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl arloesol ar gyfer Cymru.
Ni yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i fabwysiadu'r dull arloesol hwn o ymdrin ag adolygiadau diogelu, a fydd yn sicrhau y gall gweithwyr proffesiynol ddysgu o achosion yn y gorffennol yn gyflym ac yn effeithiol i atal niwed yn y dyfodol a lleihau trawma pellach i ddioddefwyr a theuluoedd.
Mae'r Adolygiad Sengl yn torri tir newydd ac yn cael ei ystyried yn esiampl i eraill ei ddilyn yn genedlaethol ac yn rhyngwladol - mae'n enghraifft o lwyddo i gyflawni newid drwy gydweithio er lles pawb.