Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Diben y datganiad hwn yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am integreiddio Prosiect arfaethedig Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd gyda Dociau Casnewydd.
Mae Ymchwiliad Cyhoeddus yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i weld ai Prosiect yr M4, ar y cyd â Metro Dinas-ranbarth Caerdydd, yw'r ateb cynaliadwy a hirdymor i'r problemau difrifol − sy'n prysur waethygu − ar yr M4 o amgylch Casnewydd.
Ym mis Mawrth 2016, cafodd y Cynllun, a fyddai'n arwain at godi pont ar draws Dociau Casnewydd, ei wrthwynebu gan berchennog a gweithredwr y porthladd, Associated British Ports (ABP). Mae gan ddiwydiant porthladdoedd cadarn ran hanfodol i’w chwarae yn ein heconomi a'n cymdeithas ac mae, wrth gwrs, yn briodol bod mannau newydd posibl lle bydd seilwaith ffyrdd, seilwaith rheilffyrdd a seilwaith morol yn cyfarfod â’i gilydd yn cael eu cynllunio'n dda, gan gadw anghenion hirdymor mewn cof.
Rwyf bellach mewn sefyllfa i ddweud wrthych fod Llywodraeth Cymru ac ADP, drwy gydweithio, wedi datblygu gwaith galluogi manwl i integreiddio Dociau Casnewydd gyda Phrosiect yr M4. Mae'r gwaith hwnnw'n cynnwys adeiladu ac adnewyddu'r cei, gwneud trefniadau newydd ar gyfer tenantiaid ac ailosod craeniau, gan ad-drefnu’r cyfan o amgylch y rhan newydd o'r draffordd a'i chyffordd newydd, a fydd yn cysylltu'r dociau â'r Rhwydwaith Traffyrdd Traws-Ewropeaidd.
Mae'r porthladd hwn yn cefnogi rhyw 2,500 o swyddi ac yn cyfrannu £173 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Byddai'r gwaith galluogi'n diogelu swyddi ar draws yr amryfal sectorau a wasanaethir gan y porthladd, gan gynnwys dur, pren, amaeth, cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac ailgylchu. Byddai buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn cael ei dargedu fel y bo 70% o'r gwariant ar adeiladu yn mynd i BBaChau ac yn gadael gwaddol seilwaith a fyddai’n bodloni anghenion cenedlaethau'r dyfodol.
Yn ôl asesiadau a gynhaliwyd gan gynghorwyr morol ac eiddo, a chan swyddogion, bydd y gwaith galluogi yn costio £136 miliwn yn ychwanegol. Aed ati i adolygu’r Achos Busnes ar gyfer Prosiect yr M4 er mwyn cymryd y costau hyn, yn ogystal â'r ffaith bod bwriad i ddileu'r tollau ar Bont Hafren, i ystyriaeth. Mae’r Achos Busnes hwnnw’n dal i ddangos bod y prosiect yn rhoi gwerth am arian. Aseswyd, yn ôl amcangyfrif ceidwadol, fod y Gymhareb Budd a Chostau yn amrywio o 1.7 ar gyfer buddion uniongyrchol i drafnidiaeth, i 2.3 (gwerth da am arian yn ôl canllawiau'r Trysorlys) pan gaiff buddion economaidd ehangach eu cynnwys.
Er mwyn sicrhau parhad busnes yn y dociau, bydd yn rhaid i 18 mis o waith i adleoli busnesau yr effeithir arnynt gael ei gwblhau cyn i'r bont ffordd newydd gael ei hadeiladu. Mae hyn yn golygu y rhagwelir bellach mai dyddiad agor y rhan newydd o'r draffordd fydd hydref 2023, er ein bod yn ystyried agor rhannau ohoni bob yn dipyn yn 2022. Mae'r rhaglen ddiwygiedig hon yn golygu bod cyfleoedd i wneud gwaith i liniaru effeithiau ar yr amgylchedd yn gynharach yn y rhaglen ac i leihau'r risg sy'n gysylltiedig â materion megis gwaith cymhleth i ddargyfeirio cyfleustodau ac ymchwiliadau archaeolegol.
Er gwaethaf yr angen i estyn yr Ymchwiliad Cyhoeddus, rydym yn dal i ddisgwyl i'r gwaith fedru dechrau mor gynnar â'r haf nesaf. Rhaid imi bwysleisio mai dim ond os gwneir penderfyniad i adeiladu Prosiect yr M4 o amgylch Casnewydd y byddai'r gwaith galluogi hwn yn cael ei wneud a'r cyllid yn cael ei neilltuo ar ei gyfer. Rwyf yn disgwyl y bydd modd gwneud y penderfyniad terfynol yn yr haf ar ôl i'r Ymchwiliad Cyhoeddus wrando ar yr holl safbwyntiau ac ar ôl i adroddiad yr arolygwyr ddod i law. Hoffwn ddatgan yn glir iawn unwaith eto y bydd y nodau a'r ffyrdd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ganolog i'r broses benderfynu honno. Rwyf yn awyddus i sicrhau bod y penderfyniad yn cael ei wneud mewn ffordd a fydd yn agored ac yn dryloyw i'r aelodau.
Rwyf wedi gwneud y cyhoeddiad hwn yn yr un ysbryd â’r diweddariadau yr wyf wedi'u rhoi i'r aelodau yn y gorffennol, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth orau a diweddaraf am y prosiect pwysig hwn ar gael i bawb. Mae'r dystiolaeth fanwl ddiweddaraf am yr agweddau technegol ac economaidd ar waith galluogi'r M4 wedi'i chyhoeddi ar wefan yr ymchwiliad (m4-newport.persona-pi.com) ac mae ar gael i bawb graffu arni, gan gynnwys yr arolygwyr sy'n cynnal yr ymchwiliad, cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud i adeiladu'r prosiect hwn ai peidio.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei ryddhau yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os yw'r aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.